Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

(09:00)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

(09:05-09:20)

3.

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol 2013-2014

PAC(4)-18-14 (papur 1)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Rhoddodd Mike Usher, Arweinydd y Sector ar gyfer Iechyd a Llywodraeth Ganolog yn Swyddfa Archwilio Cymru, sesiwn friffio ar yr adroddiad, a nodwyd gan yr Aelodau.

 

(09:20-09:30)

4.

Gofal heb ei drefnu: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-18-14(papur 2)

PAC(4)-18-14(papur 3)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor ynghyd â'r cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

4.2 Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.

 

 

 

 

(09:30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 6, 7,8 & 9

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09:30-10:00)

6.

Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-18-14(Papur 4)

 

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad drafft a nodwyd y byddai drafft diwygiedig ar gael i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 15 Gorffennaf.

 

 

(10:00-10:20)

7.

Adroddiad blynyddol 2013-14

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau'r cynnwys ar gyfer yr adroddiad blynyddol a nodwyd y byddai'r clercod yn paratoi drafft i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 15 Gorffennaf.

 

 

(10:20-10:50)

8.

Cyflogau Uwch-reolwyr: Y prif faterion

PAC(4)-18-14 (papur 5)

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau'r papur a nodwyd y byddai'r clercod yn paratoi adroddiad drafft i'w drafod yn gynnar yn nhymor yr hydref.

8.2 Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i baratoi dogfen yn cymharu'r canllawiau cyflogau ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus.

 

 

(10:50-11:00)

9.

Gohebiaeth y Pwyllgor - y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

PAC(4)-18-14(papur 6)

Cofnodion:

9.1 Trafododd yr Aelodau'r ohebiaeth a chytunwyd i drafod cyfrifon blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2013-14 yn nhymor yr hydref.