Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones. 1.3
Croesawodd
y Cadeirydd Jocelyn Davies a oedd yn dirprwyo ar ran Alun Ffred Jones. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
Cyllid Iechyd 2013-14: Llythyr gan Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru (18 Rhagfyr 2014) Dogfennau ategol: |
||
Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: Llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru (9 Rhagfyr 2014) Dogfennau ategol: |
||
Glastir: Llythyr gan Gareth Jones, Llywodraeth Cymru (8 Ionawr 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09:05-09:20) |
Cyflogau Uwch Reolwyr - Trafod ymateb Llywodraeth Cymru PAC(4)-01-15 Papur 1 - Ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Trafododd
y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar Gyflogau Uwch Reolwyr,
ynghyd â chyngor yr Archwilydd Cyffredinol. 3.2
Gofynnwyd i ymgynghorydd cyfreithiol y Pwyllgor ddarparu nodyn briffio ar y
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio. 3.3 Bydd y
Cadeirydd yn ysgrifennu at CLlLC i ofyn i'r gymdeithas ddosbarthu'r adroddiad
ac ymateb Llywodraeth Cymru i arweinwyr awdurdodau lleol. |
|
(09:20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09:20-09:50) |
Sesiwn Friffio gyda Swyddfa Archwilio Cymru ar Reoli Effaith Newidiadau Diwygio Lles PAC(4)-01-15 Papur 2 - Swyddfa Archwilio Cymru: Rheoli
Effaith Diwygiadau Lles ar Denantiaid Tai Cymdeithasol yng Nghymru Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar reoli effaith
newidiadau diwygio lles ar denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru, a nododd
bod y Cadeirydd wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad. 5.2
Datganodd Julie Morgan fuddiant am fod ei merch yn cael ei chyflogi gan Shelter
Cymru. |
|
(09:50-10:20) |
Cwmpas yr Ymchwiliad i Draffyrdd a Chefnffyrdd: Gwerth am Arian Briff Ymchwil - Gwerth am Arian Traffyrdd a Chefnffyrdd (Saesneg
yn Unig) Cofnodion: 6.1
Cytunodd y Pwyllgor ar gwmpas yr ymchwiliad i draffyrdd a chefnffyrdd: gwerth
am arian, a chytunodd i ysgrifennu at randdeiliaid i ofyn am eu barn. |
|
(10:20-10:45) |
Craffu ar Gyfrifon 2013-14: Trafod y materion allweddol PAC(4)-01-15 Papur 3 - Cyfrifon Craffu 2013-14: Materion Allweddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor faterion allweddol yr adroddiad Craffu ar Gyfrifon
2013-14. 7.2
Datganodd Sandy Mewies fuddiant am ei bod yn aelod o Gomisiwn Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ac esgusododd ei hun o'r trafodaethau ar gyfrifon y
Comisiwn. |