Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.2 Nodwyd
y papurau. |
|
(09:05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 4, 6 a 7. Cofnodion: 3.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09:05-09:30) |
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru PAC(4)-04-15 Papur 1 – Gofal Iechyd Parhaus y GIG – Adroddiad Dilynol PAC (2)-04-15 Papur 2 – Sesiwn Briffio Swyddfa Archwilio Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Rhoddodd Swyddfa Archwilio Cymru wybod i'r Pwyllgor am ei hadroddiad diweddar ar
Ofal Iechyd Parhaus y GIG - Adroddiad Dilynol. |
|
(09:30-10:30) |
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Sesiwn dystiolaeth 1 Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru Albert Heaney - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio,
Llywodraeth Cymru Lisa Dunsford - Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Integreiddio, Polisi a
Chyflawni, Llywodraeth Cymru PAC (4)-04-15 Papur 3 – Llythyr gan Dr Goodall ar Ofal Iechyd Parhaus Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol
Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif
Weithredwr GIG Cymru, Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac
Integreiddio, a Lisa Dunsford, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Integreiddio,
Polisi a Chyflawni. 5.2
Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn: ·
egluro pa
gyfran o'r 20 o achosion gan ddau fwrdd iechyd yn sampl yr archwiliad oedd yn
ymwneud ag anabledd dysgu neu ddementia a rhannu canlyniadau'r adolygiad o'r
achosion hynny; ·
cadarnhau
pa fwrdd iechyd dynnodd yn ôl o'r gwaith o brofi'r Offeryn Gwneud
Penderfyniadau; ·
darparu
nodyn ar yr anawsterau y mae Betsi Cadwaladr wedi'u hwynebu yn recriwtio i
rolau proffesiynol a chadarnhau a ydynt bellach yn gweithredu'n llawn; a ·
darparu
nodyn am faint y tendr o fewn pob bwrdd iechyd mewn perthynas â'r gwasanaethau
eiriolaeth ar gyfer gofal iechyd parhaus. |
|
(10:30-10:45) |
Gofal heb ei drefnu: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru PAC (4)-04-15 Papur 4 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Trafododd
y Pwyllgor y papur wedi'i ddiweddaru a gafwyd gan Lywodraeth Cymru. |
|
(10:45-11:00) |
Rheoli effaith y newidiadau i ddiwygiadau lles: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru PAC(4)-04-15 Papur 5 – Ymateb Llywodraeth Cymru PAC(4)-04-15 Papur 6 - Papur Cwmpasu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad yr Archwilydd
Cyffredinol ar Reoli Effaith y Newidiadau i Ddiwygiadau Lles. |