Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Sandy Mewies. Roedd Ann Jones yn dirprwyo ar ei rhan. |
|
(09:00-09:50) |
Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Sesiwn dystiolaeth 2 PAC(4)-20-15 Papur 1 Briff Swyddfa Archwilio Cymru James Price – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr
Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru Simon Jones – Cyfarwyddwr, Cyllid a Pherfformiad, Grŵp
yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan James Price,
Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr
Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru a Simon Jones, Cyfarwyddwr, Cyllid
a Pherfformiad, Grŵp yr
Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru fel rhan o’i ymchwiliad
i Fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf. 2.2 Cytunodd James Price i anfon nodyn ar: · Restr o leoliadau lle mae problemau o ran mynediad wedi bod yn anodd i
Openreach · Beth y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl a gaiff ei ddarparu fel rhan o’r
gyllideb farchnata o £1.7m, a sut y caiff ei defnyddio ar sail ddaearyddol. · Hawliau datblygu a ganiateir · Cyflwyno Ffeibr yn Ôl y Galw · Lleoliadau ble y bydd contractau ychwanegol yn ofynnol yn dilyn y
cyhoeddiad a ddisgwylir ar brosiect ‘Mewnlenwi Cyfnod 2’ |
|
(09:50-10:00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: Llythyr gan Owen Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Addysg a Sgiliau (29 Mehefin 2015) Dogfennau ategol: |
||
Diwygio Lles: Dogfen Bolisi Taliadau Tai Dewisol Cymru Gyfan Dogfennau ategol: |
||
(10:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 5,
6 a 7, a'r cyfarfod ar 14 Gorffennaf 2015 Cofnodion: 4.1 Cytunwyd ar y cynnig. |
|
(10:00-10:15) |
Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10:15-10:30) |
Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Trafod yr ohebiaeth. PAC(4)-20-15 Papur 2 PAC(4)-20-15 Papur 3 PAC(4)-20-15 Papur 4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Nododd yr Aelodau’r llythyr gan Archwilydd
Cyffredinol Cymru a chytunodd y dylai’r Cadeirydd gopïo’r ohebiaeth ddiweddar
ag Owen Evans, y Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol sydd newydd ei benodi, sydd â
chyfrifoldeb dros hyn, yn gofyn am ei ystyriaethau ynghylch y cwestiynau a
ofynnwyd. Bydd y Pwyllgor yn ystyried y mater hwn eto ym mis Medi. |
|
(10:30 - 11:00) |
Blaenraglen waith PAC(4)-20-15 Papur 5 PAC(4)-20-15 Papur 6 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Nodwyd y papur gan yr Aelodau. Gofynnwyd i’r Clercod,
fodd bynnag, ail-drefnu’r cyfarfod a awgrymwyd y dylid ei gynnal ddydd Llun 28
Medi i ddydd Llun arall, oherwydd bod nifer o’r Aelodau i ffwrdd. 7.2 Cytunodd yr Aelodau â’r rhestr o gyrff a awgrymwyd ar
gyfer craffu ar gyfrifon, a chytunodd i baratoi papur etifeddiaeth hefyd. 7.3 Nododd yr Aelodau gais y Cadeirydd am sesiwn ymadawol
gyda’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol, o gofio’r ymadawiadau diweddar o Lywodraeth
Cymru. Dywedwyd wrth y Cadeirydd nad oedd sesiwn ymadawol gyda’r Cyfarwyddwyr
Cyffredinol a oedd yn gadael yn briodol oherwydd bod amgylchiadau eu hymadawiad
yn wahanol iawn i ymadawiadau Cyfarwyddwyr Cyffredinol blaenorol. |