Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 323KB) Gweld
fel HTML (329KB) |
||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09.00-09.05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Gwasanaethau Orthopedig: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol: |
||
Ymateb i Ddiwygio Lles yng Nghymru: Llythyr gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru (3 Tachwedd 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09.05 - 10.30) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru PAC(4)-30-15 Papur 1 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Dr Kate Chamberlain - Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Alun Jones - Cyfarwyddwr Arolygu, Rheoleiddio ac Archwilio, Arolygiaeth
Gofal Iechyd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Dr Kate Chamberlain, Prif Weithredwr,
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Alun Jones, Cyfarwyddwr Arolygu, Rheoleiddio
ac Ymchwilio, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, fel rhan o’r ymchwiliad i
lywodraethu byrddau iechyd. 3.2 Cytunodd Dr Chamberlain i anfon y wybodaeth / eglurhad ychwanegol a
ganlyn ar: · Nifer yr
adroddiadau a dderbyniodd AGIC gan Gynghorau Iechyd Cymuned yn rhanbarth
Gogledd Cymru ynghylch y 39 o ymweliadau a wnaed yn BIPBC; · A gafodd
gohebiaeth Weinidogol mewn cysylltiad â’r pryderon a godwyd ynghylch ward Tawel
Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ei rhannu gyda AGIC; · Nifer yr
adolygwyr lleyg gwirfoddol a recriwtiwyd yn ddiweddar gan AGIC; · Arbenigedd a
sgiliau aelodau’r Bwrdd Cynghori, a · Dadansoddiad,
yn ôl mis, o nifer yr adroddiadau nad oedd yn cyrraedd y dyddiad cyhoeddi
targed o uchafswm o dri mis yn dilyn yr arolygiad. |
|
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 5 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.30-11.00) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law. |