Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 240KB) Gweld
fel HTML (291KB) |
||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. Roedd Andrew R T Davies yn dirprwyo
ar ei ran. 1.3
Esgusododd Jocelyn Davies ei hun o dan Reol Sefydlog 18.8. Dirprwyodd Alun
Ffred Jones ar ei rhan. 1.4 Roedd
Sandy Mewies am ddatgan buddiant fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad ac nid oedd
yn bresennol ar gyfer eitem 2.1 ac eitem 6. 1.5 Mae’r
datganiadau o ddiddordeb a wnaed yn y cyfarfod ar 12 Hydref yn berthnasol i’r
cyfarfod hwn. 1.6
Croesawodd y Cadeirydd Nur Saleh, o gwmni llywodraethu Global Partners, sy’n dysgu
am weithrediad y Cynulliad Cenedlaethol.
|
|
(09.00-09.05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Craffu ar Gyfrifon 2014-15: Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad - Cynllun Ymadael Gwirfoddol (19 Tachwedd 2015) Dogfennau ategol: |
||
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Gwybodaeth ychwanegol gan Lambert Smith Hampton (23 Tachwedd 2015) Dogfennau ategol: |
||
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Llythyr gan y Prisiwr Dosbarth (24 Tachwedd 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09.05-10.15) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn dystiolaeth 6 PAC(4)-33-15 Papur 1 Papur Ymchwil Langley Davies - Cyfarwyddwr, South Wales Land
Developments Limited Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu’r Pwyllgor yn holi Langley Davies, Cyfarwyddwr South Wales Land
Developments Limited, fel rhan o’r ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn
Adfywio. |
|
(10.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5, 6 & 7 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig a chafodd ei ymestyn i gwmpasu eitem 1 ar gyfer y
cyfarfod ar 8 Rhagfyr 2015. |
|
(10.15-10.30) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10.30-10.45) |
Craffu ar Gyfrifon 2014-15: Trafod yr adroddiad drafft PAC(4)-33-15 Papur 2 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, nis cyrhaeddwyd yr eitem hon. |
|
(10.45-11.00) |
Blaenraglen waith: Trafod rhaglen waith y gwanwyn 2016 PAC(4)-33-15 Papur 3 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Bu’r Aelodau’n trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2016
ond gofynnodd am ragor o fanylion am yr ymchwiliad posibl i Faes Awyr Caerdydd. |