Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 275KB) Gweld fel HTML (253KB).

(09.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.00-09.05)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Maes Awyr Caerdydd: Llythyr oddi wrth Roger Lewis, Cadeirydd - Maes Awyr Caerdydd (26 Ionawr 2016)

Dogfennau ategol:

(09.05-10.35)

3.

Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth 2

Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Cwmni Daliannol Llywodraeth Cymru (Cwmni DalLlC)

 

Simon Jones – Cadeirydd, Cwmni DalLlC, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Simon Jones o gwmni daliannol Llywodraeth Cymru (WGC Holdco), fel rhan o'r ymchwiliad i gamau Llywodraeth Cymru i gaffael Maes Awyr Caerdydd a'i pherchenogaeth ohono.

3.2 Cytunodd Simon Jones i anfon y wybodaeth a ganlyn i gynorthwyo ymchwiliad y Pwyllgor:

·       A dderbyniodd BA unrhyw gymhelliant ariannol gan Lywodraeth Cymru i leoli ei gyfleusterau cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd;

·       Data ar sut y mae teithwyr yn cyrraedd Maes Awyr Caerdydd;

·       Gwerth presennol Maes Awyr Caerdydd; ac

·       Enwau darparwyr y benthyciadau i'r meysydd awyr hynny y dywedwyd yn y sesiwn dystiolaeth eu bod wedi derbyn benthyciadau.

 

(10.35)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 5

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.35-11.00)

5.

Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.