Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lara Date 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

(09.30)

2.

Ystyried adroddiad drafft y Pwyllgor ar sancsiynau

SOC(4)-04-13 – Papur preifat 1

Cofnodion:

2.1 Yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft ar sancsiynau. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar 15 Mai, a chaiff ei gyfeirio at y Pwyllgor Busnes i’w drafod cyn toriad yr haf.

(10.00)

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar gan y Clerc am y Cyfarfod Rhwydwaith Safonau

Cofnodion:

3.1 Rhoddodd y Clerc y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar y prif bwyntiau a godwyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd rhwng y Comisiynwyr Safonau a’r Clercod Pwyllgor yn Senedd Gogledd Iwerddon. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal y cyfarfod nesaf yng Nghaerdydd yn nhymor yr hydref 2014.

(10.10)

4.

Papur i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papur.

4a

Newidiadau canlyniadol i'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad

SOC(4)-04-13 – Papur (i’w nodi) 2