Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: 1.1
Absenolodd Mick Antoniw ei hun o eitemau 1 a 2 o dan Reol
Sefydlog 22.5; daeth John Griffiths ar ei ran fel dirprwy enwebedig (ar gyfer
Eitemau 1 a 2). 1.2
Mark Isherwood oedd yn y Gadair ar gyfer eitemau 1 a 2 yn
unol â darpariaeth y Pwyllgor am Gadeirydd dros dro a enwebwyd. 1.3
Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r cyfarfod a
dywedodd fod Llyr Gruffydd yn y cyfarfod drwy gyswllt fideo o Fae Colwyn. 1.4
Nid oedd y Comisiynydd Safonau yn gallu dod i'r cyfarfod
a chafwyd ymddiheuriadau ganddo. 1.5 Datganodd
Eluned Parrott y byddai'n sefyll yn etholiad 2016 yn erbyn un o'r Aelodau a
enwyd yn yr adroddiad o dan Eitem 2. |
|
(09.30-10.15) |
Ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) SOC(4)-04-15 Papur 1 SOC(4)-04-15 Papur 2 Cofnodion: 2.1 Ystyriodd Aelodau'r adroddiad gan y Comisiynydd Safonau (SOC(4)-04-15
P1) yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) |
|
(10.25-11.00) |
Ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) SOC(4)-04-15 Papur 3 Cofnodion: 3.1 Ystyriodd Aelodau'r adroddiad gan y Comisiynydd Safonau (SOC(4)-04-15
P2) yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) |
|
Sylwadau i gloi Y cyfarfod nesaf Yn amodol ar gytundeb y Pwyllgor Busnes, bydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
yn cyfarfod ddydd Mawrth 12 Ionawr 2016 i gwblhau ei ystyriaeth o'r uchod. |