Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: 1.1
Mark Isherwood oedd yn y Gadair ar gyfer y cyfarfod hwn
yn unol â darpariaeth y Pwyllgor am Gadeirydd dros dro a enwebwyd. 1.2
Rhoddodd y Cadeirydd Dros Dro wybod i'r Pwyllgor fod Mick
Antoniw wedi ymddiswyddo fel aelod o'r Pwyllgor Safonau ym mis Rhagfyr ac,
oherwydd nad oedd bellach yn aelod, nid oedd darpariaeth i ddirprwy o'r Blaid
Lafur fod yn bresennol ar ei ran yn y cyfarfod. 1.3
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Comisiynydd Safonau. |
|
(09.30 - 10.00) |
Ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) SOC(4)-01-16 Papur 1 Cofnodion: 2.1 Bu Aelodau'n trafod adroddiad (SOC(4)-01-16 Papur 1) cyn cytuno arno, yn dilyn y drafodaeth ar adroddiad y
Comisiynydd Safonau yn ystod y cyfarfod blaenorol. |
|
(10.10-10.40) |
Ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) SOC(4)-01-16 – Papur 2 Cofnodion: 3.1 Bu Aelodau'n trafod adroddiad (SOC(4)-01-16 Papur 2) cyn cytuno arno, yn dilyn y drafodaeth ar adroddiad y
Comisiynydd Safonau yn ystod y cyfarfod blaenorol. |