Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Lara Date 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:45

1.

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

09:45 - 10:15

2.

Adolygu'r cod ymddygiad a'r weithdrefn gwyno: y weithdrefn gwyno ddiwygiedig ddrafft a'r camau nesaf

Gerard Elias QC, Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Pwyllgor y weithdrefn gwyno yn ffurfiol.

 

Nododd y Cadeirydd y bydd llythyr yn cael ei anfon ar y cyd gan y Cadeirydd a’r Comisiynydd at holl Aelodau’r Cynulliad gan roi gwybod iddynt am y weithdrefn ddiwygiedig, cyn iddi gael ei gosod gerbron y Cynulliad.

 

Cytunwyd y bydd amserlen ar gyfer ail gyfnod yr adolygiad yn cael ei thrafod yng nghyfarfod ffurfiol nesaf y Pwyllgor.

Trawsgrifiad

Trawsgrifiad o’r cyfarfod