Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad Cofnodion: Croesawyd Dave Tosh, y Cyfarwyddwr TGCh, i’w gyfarfod Comisiwn cyntaf. |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas AC. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunwyd ar y cofnodion
yn ffurfiol. Mae swyddogion yn gweithio ar bob un o’r camau. |
|
Cyllideb 2013-14 - blaenoriaethau/goblygiadau strategol Cofnodion: Yn y cyfarfod ar 8 Mawrth, cytunodd y Comisiynwyr i barhau i weithio o fewn yr arian dangosol ar gyfer 2013-14 a nodwyd yn y ddogfen gyllideb, a thrafodwyd blaenoriaethau cyllideb 2013-14 yn y cyd-destun hwn. Y gyllideb ddangosol yw £49.5 miliwn, y mae £34.1 miliwn ohoni ar gyfer talu costau gweithredol a £13.7 miliwn yn gysylltiedig ag Aelodau’r Cynulliad. Mae’r gweddill ar gael i’w fuddsoddi, yn unol â blaenoriaethau strategol y Comisiwn. Disgwylir y caiff adnoddau ychwanegol eu rhyddhau ar gyfer blaenoriaethau buddsoddi yn 2013-14, gyda chyfraniadau’n deillio o’r rhaglen gwerth am arian, y targedau effeithlonrwydd a chronfeydd wrth gefn. Trafodwyd nifer o flaenoriaethau o ran buddsoddi. Er y cydnabuwyd mai TGCh a gâi’r brif flaenoriaeth, byddai’n rhaid parhau i drafod goblygiadau mabwysiadu’r dull blaenoriaethu hwn, ymhellach, mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Caiff cyllideb y Comisiwn
ei gosod ym mis Medi.
Mae’n debyg y bydd y dulliau ymgynghori ag Aelodau
eleni, yn dilyn y fformat a fabwysiadwyd y llynedd, pan fu Angela Burns AC, y Comisiynydd
sy’n gyfrifol am y portffolio perthnasol, yn mynd i gyfarfodydd
y grwpiau ac yn cynnal sesiynau gwybodaeth gydag Aelodau Cam i’w gymryd: Y swyddogion i ddatblygu’r ddogfen gyllideb yn unol â’r dull y cytunwyd arno. |
|
Caffael yn y Cynulliad 2012-14 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cryfhawyd y tîm Caffael, ac mae bellach yn gweithredu’n fwy canolog wrth reoli’r broses o gaffael, yn arbennig gyda chytundebau gwerth dros £25,000. Datblygir y gwaith hwn yn unol â nodau’r Comisiwn, yn benodol, yr angen i gaffael yn effeithlon pan fyddwn yn cefnogi datblygiad cadwyn gyflenwi amrywiol fydd yn cynorthwyo cyflenwyr bach i gystadlu; ac i ganolbwyntio ar werth am arian. Croesawodd y Comisiynwyr y dull a ddatblygir, a fydd yn sicrhau bod modd mabwysiadu strategaethau priodol ar gyfer marchnadoedd gwahanol. |
|
Adborth o gyfarfod diwethaf y Pwyllgor Archwilio (19 Ebrill 2012) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Er mwyn llywodraethu’n dda, bydd y Comisiwn yn cael adroddiad gan Bwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad, a bu’n trafod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor, a gynhaliwyd ym mis Ebrill. Bu’r Comisiynwyr yn canolbwyntio ar ganfyddiadau’r Adroddiad Archwilio Mewnol ar Reoli Cyllidebau a phrosesau Rheolaeth Ariannol, a’r angen am ragor o ymwybyddiaeth ynghylch gwerth am arian, a gwelliannau o ran effeithlonrwydd, yn y sefydliad drwyddo draw. |
|
Strategaeth wobrwyo Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad Cofnodion: Daeth cytundeb cyflog presennol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer staff, i ben ar 31 Mawrth 2012. Mae’r trafodaethau'n parhau ar y trefniadau tâl yn y dyfodol. |
|
Adroddiad y Bwrdd Rheoli i’r Comisiwn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd yr
eitemau a ganlyn: Y Bwrdd
Taliadau • Mae’r Bwrdd yn cynnig gwneud newidiadau i’r trefniadau ar gyfer llety dros nos i Aelodau y mae eu prif gartref yn yr ardal fewnol, a bydd yn gwneud penderfyniad terfynol ar y mater yn ei gyfarfod ym mis Mehefin. Cafodd yr Aelodau wahoddiad i gyflwyno eu barn ar y mater; • Bydd y Bwrdd Taliadau’n
cynnal adolygiad o’r trefniadau staffio ar gyfer
Aelodau’r Cynulliad a bydd yn cysylltu
â staff cymorth ac Aelodau wrth gyflawni’r gwaith hwn. TGCh • Gwnaed gwelliannau i’r gwasanaethau TGCh dros y misoedd diwethaf, sy’n cynnwys gwelliannau gan Atos a staff y Cynulliad. Yn eu plith mae gwelliannau o ran mynediad i’r system gyfrifiadurol mewn swyddfeydd etholaethol, ac archwiliadau o offer a seilwaith TGCh; • Mae staff yr adran TGCh wedi cyfarfod â’r rhan fwyaf o Aelodau’r Cynulliad i nodi problemau. Bydd y wybodaeth a geir yn llywio’r dasg o gynllunio gwaith ar gyfer y dyfodol, fel cysylltedd diwifr a rhagor o ddewis o ddyfeisiau i ddefnyddwyr. • Dechreuwyd ar ddau faes gwaith pwysig: prosiect i arfarnu’r opsiynau ar gyfer darparu gwasanaeth TGCh yn y dyfodol, a datblygu strategaeth TGCh ar gyfer y Cynulliad a’r Comisiwn. Caiff Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y ddau faes gwaith yn rheolaidd. |
|
Rhaglen dreigl Comisiwn y Cynulliad Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y rhaglen dreigl. |
|
Unrhyw fusnes arall Cofnodion: Nid oedd unrhyw fater arall i’w drafod. |