Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Nid oedd buddiannau
i’w datgan. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr. |
|
Adolygiad Cyllideb y Comisiwn 2023-24 Cofnodion: Wrth gyflwyno
Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2023-24 i’w chymeradwyo ym mis Tachwedd 2022,
ymrwymodd y Comisiwn i gynnal adolygiad yn ystod y flwyddyn i nodi a chynnig
mesurau i leihau lefel gyffredinol y gyllideb ar gyfer 23-24, gan ystyried y
cyd-destun economaidd ehangach. Clywodd y
Comisiynwyr am y cynnydd a wnaed o ran adolygu cyllideb ‘23-24 a thrafodwyd y
meysydd sy’n cael eu hystyried ar gyfer lleihau’r gyllideb yn 2023-24. Nododd y Comisiynwyr y dull o weithredu a’r cynnydd a
wnaed o ran y cynigion i sicrhau arbedion ar lefel gwasanaethau, gan nodi bod
arbedion posibl yn dod i’r amlwg yn y meysydd a ganlyn: - Costau a mesurau arbed ynni ystadau a
chyfleusterau. - Proses gadarn o aildrafod contractau TGCh. Nododd y Comisiynwyr y dull o weithredu a’r cynnydd a
wnaed o ran yn y cynigion i sicrhau arbedion ar lefel gorfforaethol i leihau
Cronfa Brosiectau’r Comisiwn. Nododd y Comisiynwyr y byddai’r opsiynau a oedd wedi’u
hargymell, o’u gwireddu’n llawn, yn arwain at arbedion o oddeutu £435,000 at ei
gilydd, gan sicrhau gostyngiad o 3.4 y cant yn y cynnydd cyffredinol yn y
gyllideb (o’i chymharu â chyllideb atodol gyntaf 2022-23) a fyddai’n llai na’r
4.1% y cytunwyd arno’n wreiddiol. ,aRoedd hyn yn dangos bod dewisiadau anodd yn eu hwynebu,
a byddai hyn yn arwain at lai o hyblygrwydd, er enghraifft i allu ymateb i
geisiadau Aelodau am weithgarwch neu gymorth ychwanegol. Yn amodol ar y
penderfyniadau terfynol a wneir yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Mawrth, bydd
canlyniad y gwaith hwn yn arwain at Gyllideb Atodol ddrafft gyntaf 2023-24. Nododd y Comisiynwyr
hefyd y byddai opsiynau posibl eraill i arbed arian ac i weithio’n fwy
effeithlon yn cael eu hystyried fel rhan o’r gwaith cynllunio tymor canolig ar
gyfer cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2024-25 a’r ddwy flynedd ddilynol. |
|
Rhaglen Ffyrdd o Weithio Cofnodion: A - Cyflwyniad - Themâu sy’n dod i’r amlwg ar ôl ymgysylltu â’r Aelodau ynghylch Ffyrdd o
Weithio Cyflwynwyd gwybodaeth i'r Comisiynwyr am y themâu a oedd
yn dod i'r amlwg ar ôl ymgysylltu â’r Aelodau ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr -
proses a gynhaliwyd ar y cyd â'r Bwrdd Taliadau. Diben y broses oedd cael dealltwriaeth well o anghenion
yr Aelodau o ystyried eu ffyrdd o weithio yn y tymor canolig i’r hirdymor.
Cyflwynwyd barn yr aelodau ar ffurf pum prif thema: · Rhaglen Ffyrdd o Weithio - themâu cyffredinol · Gwasanaethau’r Comisiwn · Cyflogau a Lwfansau · Canolfannau gwaith · Diwygio’r Senedd Trafododd y Comisiynwyr gryfder y teimladau mewn
perthynas â rhai meysydd, ac roedd barn yr Aelodau am y syniad o sefydlu
canolfannau fel swyddfeydd y gallent eu rhannu’n un enghraifft o gynnig na
fyddai’n fuddiol i’r Comisiwn fwrw ymlaen ag ef. Tynnwyd sylw at y gwahaniaeth
rhwng y math o 'ganolfan' a oedd yn cael ei thrafod yn gyffredinol ymysg yr
Aelodau, a lleoliadau y gallai’r Comisiwn eu darparu, fel hwnnw yn y Gogledd, a
oedd yn caniatáu i staff y Comisiwn weithio mewn rhannau o Gymru heblaw'r ystâd
ym Mae Caerdydd. Roedd y Comisiynwyr o’r farn bod casgliadau’r broses yn
ddiddorol, ac roeddent yn cydnabod y byddai rhai agweddau ar y cyflwyniad yn
arbennig o ddefnyddiol i’r Bwrdd Taliadau o ystyried ei flaenraglen waith
arfaethedig. Dywedodd y Comisiynwyr ei
bod yn ymddangos bod angen rhoi sylw pellach i rai materion a oedd yn bwysig
i'r garfan bresennol o Aelodau, er enghraifft ffactorau a allai ddylanwadu ar
allu Aelodau i gadw staff. Yn ogystal â'r rhoi adborth i’r rhai a fyddai'n
defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i lywio gwasanaethau a chymorth yn y dyfodol,
cytunodd y Comisiynwyr y byddai'n ddefnyddiol rhoi adborth ehangach i'r
Aelodau. Cytunwyd y dylid paratoi nodyn. B - y diweddaraf am symud y swyddfa yng Ngogledd Cymru Nododd y Comisiynwyr
fod gwaith yn mynd rhagddo i gwblhau’r drwydded gyda Llywodraeth Cymru ac y
bydd y brydles bresennol yn dod i ben ar 30 Mehefin 2023. Cafodd y Comisiynwyr
y wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y
lle ar gyfer Comisiwn y Senedd yn y dyfodol yn annibynnol drwy osod yr
arwyddion priodol yn Sarn Mynach. |
|
Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Gyfrifon 2021-22 Cofnodion: Ar 7 Rhagfyr 2022,
cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i’r saith o argymhellion yn adroddiad y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Graffu ar Gyfrifon
2020-21. |
|
Caplaniaeth/gofal bugeiliol Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr gais gan y Grŵp Trawsbleidiol
ar Ffydd am gymorth gyda’i gynigion i ail-lansio’r gwasanaethau caplaniaeth yr
oedd yn arfer eu trefnu, gyda thîm aml-ffydd ehangach o gaplaniaid, gan gynnwys
cynrychiolydd o gefndir dyneiddiol (neu heb ffydd); nododd farn grwpiau
gwleidyddol a thrafododd ddarnau eraill o wybodaeth arall a gafwyd. Cytunwyd i ateb er mwyn cydnabod cynnig y Grŵp
Trawsbleidiol ar Ffydd i drefnu gwasanaeth gofal bugeiliol/caplaniaeth
ehangach, gan sicrhau ei fod ar gael i’r Aelodau, eu staff a staff y Comisiwn; Cytunodd y Comisiwn i hwyluso’r cynnig hwn gan y
Grŵp Trawsbleidiol gan gynnig drefnu i neilltuo’r Ystafell Dawel yn y
Senedd ar gyfer y gwasanaeth hwn bob prynhawn dydd Mawrth a Mercher, ac i
sicrhau bod modd neilltuo’r ystafell ar wahân ar gyfer y caplaniaid os byddent
yn dod i’r ystâd ar adegau eraill. Bydd yr ystafell wedi'i dodrefnu'n briodol
o’r stoc, o gofio y bydd ar gael ar adegau eraill fel ystafell dawel. Trafododd y Comisiwn oblygiadau darparu proffil/e-bost
TGCh i'r caplaniaid ei ddefnyddio. Byddai darpariaeth o’r fath yn golygu y
byddai’r Comisiwn yn dod yn rheolydd data (a/neu’n brosesydd data) mewn
perthynas â’r gwaith hwn a daeth y Comisiynwyr i’r casgliad na ddylai’r
Comisiwn fod yn gyfrifol am y modd y byddai’r Aelodau a’r staff yn cysylltu â’r
caplaniaid. Cytunwyd i’r wybodaeth y bydd ei hangen i gysylltu â’r caplaniaid
gael ei chynnwys ar fewnrwyd yr Aelodau a’r staff (os bydd y Grŵp
Trawsbleidiol yn ei darparu). Nododd y Comisiynwyr
fod angen rhoi’r trefniadau llywodraethu priodol ar waith a chytunodd i ofyn
i’r Grŵp ddweud wrthynt os bydd am newid y trefniant hwn yn y dyfodol, ac
os bydd y caplaniaid yn newid. |
|
Bwrdd Taliadau Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr ddau lythyr a oedd wedi’u hanfon gan
y Bwrdd Taliadau. Roedd y llythyr cyntaf yn tynnu sylw at ymgynghoriad
presennol y Bwrdd ynghylch newidiadau arfaethedig i'r Penderfyniad ar Gyflogau
a Lwfansau Aelodau ar gyfer 2023/24. Cytunodd y Comisiwn i ymateb i’r
ymgynghoriad i dynnu sylw at y goblygiadau i gyllideb y Comisiwn. Cytunodd y
Comisiynwyr i gwblhau eu hymateb y tu allan i’r cyfarfod. Roedd yr ail lythyr yn ymwneud â chais gan y Bwrdd i
gynnal trafodaeth â’r Comisiwn ynghylch y modd y bydd y cymorth a gaiff yr
Aelodau i gyflawni eu dyletswyddau yn y dyfodol yn cael eu darparu drwy
wasanaethau’r Comisiwn a Phenderfyniad y Bwrdd. Trafododd y Comisiynwyr bwysigrwydd cadw’r
ddau gorff ar wahân gan bwysleisio bod angen osgoi dryswch ynghylch rolau'r naill gorff a’r llall a diogelu'r
gwahaniaeth rhyngddynt. Cytunodd y Comisiynwyr
ar yr egwyddor y byddai system i gynnal trafodaeth yn ddefnyddiol er mwyn cael
dealltwriaeth gyffredin o gyfeiriad y gwaith a chytunwyd y byddai swyddogion y
Comisiwn yn gweithio gyda’r rhai sy’n cynorthwyo’r Bwrdd Taliadau i fwrw ymlaen
â hyn. Cafodd y Comisiynwyr
wybod hefyd fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi
ysgrifennu at Ken Skates ynghylch atebolrwydd y Bwrdd Taliadau. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
Diweddariad ynghylch cynaliadwyedd Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am y materion a’r mentrau cynaliadwyedd presennol. |
|
Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb o benderfyniadau recriwtio a gaiff ei gyflwyno ym mhob cyfarfod o'r
Comisiwn. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: · Hysbysu’r Comisiwn o streic gan staff - cytunodd y Comisiynwyr y byddai'n
ddefnyddiol iddynt gael gwybod am unrhyw hysbysiad ffurfiol o streic a ddaw i
law. Neilltuo ystafelloedd
ar Ystâd y Senedd – cytunodd y Comisiynwyr i gael gwybodaeth maes o law
ynghylch diweddaru’r polisi ar gyfer defnyddio’r ystâd. |