Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau
o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 25 Medi. |
|
Cyllideb Comisiwn y Senedd 2024-25 Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith craffu ar Gyllideb
ddrafft Comisiwn y Senedd 2024-25 gan y Pwyllgor Cyllid ar 5 Hydref. Cytunodd y
Comisiynwyr ar eu hymateb i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid a
gwnaethant gymeradwyo'r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2024-25 a osodwyd ar 10
Tachwedd. Roedd naratif y
Gyllideb wedi'i ddiwygio o ran costau pensiynau'r Comisiwn ar dudalen 9 yn unol
â chais y Pwyllgor Cyllid, a nododd y Comisiynwyr yr argymhelliad i fynd i'r
afael â chostau ychwanegol Pensiwn y Comisiwn drwy gais am Gyllideb Atodol. Byddai dogfen y
Gyllideb Derfynol ar gyfer 2024-25 yn cael ei gosod ar 8 Tachwedd 2023 gyda’r
Cynnig Cyllidebol i gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Tachwedd 2023. |
|
Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig Cofnodion: Cymeradwyodd y
Comisiwn y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig ar gyfer y cyfnod 2024-25 i
2026-27, gydag addasiadau wedi’u gwneud ers iddo ystyried drafft ar 25 Medi. Croesawodd y
Comisiynwyr gynnwys y cynllun gweithlu a nodwyd bod darn o waith ar y gweill
i’w wneud gan Gynghorwyr Annibynnol y Comisiwn i archwilio strwythur staffio’r
Comisiwn, gan gynnwys meincnodi â seneddau eraill, ac mai Ken Skates fyddai’r
Comisiynydd arweiniol ar gyfer y gwaith. |
|
Agwedd strategol at gyllidebau ac arbedion Cofnodion: Ystyriodd y
Comisiwn y dull y bydd swyddogion yn ei ddefnyddio i ddod o hyd i'r arbedion
sydd eu hangen i lenwi’r bwlch cyllid yng Nghyllideb ddrafft 2024-25, a
darparwyd gwybodaeth i ddechrau ystyried arbedion cynaliadwy tymor hwy o
2025-26 ymlaen. Cytunodd y Comisiynwyr y byddai swyddogion yn dod â chynigion ar gyfer
llenwi bwlch cyllidebol 2024-25 i gyfarfod y Comisiwn ym mis Ionawr; gan nodi y
byddai'r cynigion hyn yn canolbwyntio'n bennaf ar reoli costau newidiol a’r
Gronfa Prosiectau. Cytunwyd hefyd i fwrw
ymlaen â chynigion ar gyfer arbedion cynaliadwy tymor hwy fel rhan o’r broses o
ddatblygu cyllideb 2025-26 y flwyddyn nesaf, ar ôl cwblhau cylch cynllunio’r
hydref/gaeaf.. |
|
Diwygio’r Senedd |
|
Gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn a gwaith y Bwrdd Taliadau Cofnodion: Roedd y Comisiwn wedi cytuno, mewn egwyddor, yn gynharach yn y flwyddyn i
gais gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol am ddeialog strwythuredig i sefydlu
dealltwriaeth ar y cyd o sut y caiff anghenion Aelodau eu cefnogi yn y dyfodol
drwy wasanaethau’r Comisiwn a Phenderfyniad y Bwrdd, gan edrych i'r Seithfed
Senedd a thu hwnt. Bu’r Comisiynwyr yn ystyried eu camau nesaf i fwrw ymlaen â’r ddeialog hon
a galluogi ystyriaethau strategol o ran sut y byddai Aelodau’n cael eu cefnogi
yn y Seithfed Senedd. Trafododd y Comisiynwyr gyd-ddibyniaeth gymhleth penderfyniadau a wneir gan
y Bwrdd taliadau Annibynnol a'r Comisiwn a dymuniad yr Aelodau am eglurder
ynghylch y darpariaethau a wneir ar eu cyfer ac am ddealltwriaeth o'r rhesymau
dros benderfyniadau. Roeddent o’r farn y
gallai fod cyfleoedd i wneud newidiadau a fyddai’n ei gwneud yn gliriach lle
mae’r cyfrifoldebau wedi’u lleoli cyn y Seithfed Senedd ac er mwyn paratoi ar
ei chyfer. Fodd bynnag, nododd y Comisiynwyr fod gwerth am arian ac annibyniaeth
penderfyniadau yn hanfodol, yn ogystal â chael prosesau adolygu a arweinir gan
Aelodau, er na fyddai'n ddymunol dychwelyd at system o Aelodau yn penderfynu ar
eu cyflog eu hunain. Trafododd y Comisiynwyr y byddai rhai agweddau ar Ddiwygio’r Senedd a newid
a yrrir gan anghenion yn y dyfodol yn cael eu harwain gan rannau eraill o’r
Senedd, e.e. y Pwyllgor Busnes, a bod y cynigion a oedd yn cael eu hystyried yn
ddechrau sgwrs a fyddai’n cael ei llywio drwy ymgysylltu â’r Aelodau. Cytunodd y Comisiynwyr
ar y dull a amlinellwyd: y prif feysydd trafod - cydbwysedd adnoddau a'r
cysylltiad rhwng gwasanaethau'r Comisiwn ac adnoddau'r Penderfyniad; symleiddio
mynediad Aelodau at adnoddau’r Penderfyniad; a chyfleoedd i wella Llywodraethu
a’r berthynas rhwng y Bwrdd Taliadau Annibynnol a'r Comisiwn. Gwnaethant gytuno
i gynnal trafodaethau pellach yn eu cyfarfod ym mis Ionawr, o bosibl hefyd i
ystyried rhai o’r materion yn llai ffurfiol, ac i drafodaethau paratoadol gael
eu cynnal gyda phob Comisiynydd yn y tymor byr. |
|
Diweddariad ar Sesiynau Pwyllgor Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad
llafar byr i’r Comisiynwyr ar sesiynau cychwynnol y Pwyllgor yn ymwneud â Bil
Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), a
chawsant wybod bod disgwyl y Bil yn ymwneud â chwotâu rhyw ym mis Rhagfyr. |
|
Contract Arlwyo Cofnodion: Bu’r Comisiynwyr yn
ystyried opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau arlwyo yn y dyfodol, gan nodi rhesymau’r Bwrdd Gweithredol dros fethu ag
argymell dod â’r gwasanaeth arlwyo’n fewnol, yn dilyn eu hadolygiad a
dadansoddiad manwl o’r opsiwn hwnnw. Cafodd y Comisiynwyr
drafodaeth ar wasanaethau dan gontract a oedd yn fwy eang na gofynion y
contract arlwyo presennol. Roeddent i gyd yn cytuno eu bod mewn egwyddor yn ffafrio darparu gwasanaethau’n
uniongyrchol, ac y dylid gwneud darn o waith gyda’r uchelgais o ddod â’r holl
wasanaethau dan gontract allanol yn fewnol yn y tymor hwy, gan ystyried y
broses Ddiwygio’r Senedd, newidiadau i’r ystâd a defnydd y gellir ei gyfiawnhau
o adnoddau cyhoeddus. Trafododd y
Comisiynwyr yr angen i ymgysylltu ag Aelodau ac undebau ynghylch y dull hwn. Cytunwyd y dylid
ymestyn y contract presennol gydag ESS am flwyddyn er mwyn i ofynion gwasanaeth
y Seithfed Senedd yn y dyfodol ddod yn gliriach. Cytunwyd hefyd, yn y
tymor byr, y dylid rhoi nodyn i’r Comisiynwyr i roi gwybod iddynt am y pecyn
gwell a ddarparwyd i staff y contract arlwyo ar ystâd y Senedd a chadarnhad bod
yr ymgynghorydd technegol a ddefnyddiwyd i gynorthwyo gyda’r opsiynau ar gyfer
y contract arlwyo wedi adolygu costau staffio mewnol a nodir yn y papur. |
|
Adolygiad o’r Polisi Defnydd o'r Ystâd Cofnodion: Ar ôl ystyried y materion a godwyd yn yr ymgynghoriad ar
yr Adolygiad o’r Defnydd o’r Ystâd ym mis Medi, trafododd y Comisiynwyr nifer o
gynigion a fyddai’n cael eu defnyddio i ddiweddaru’r polisi ar gyfer defnyddio
ystâd y Senedd. Cytunwyd i ymestyn y cyfnod ar gyfer archebu digwyddiadau o
chwe mis i 11 mis, a chytunwyd y dylai'r dyraniadau gael eu curadu gan y Tîm
Digwyddiadau (yn hytrach na system cyntaf i'r felin), gyda meini prawf i'w
cyflwyno i un o gyfarfodydd y Comisiwn yn y dyfodol. Gwnaethant gytuno hefyd y
dylai digwyddiadau sydd i ddod ar yr ystâd gael eu cyhoeddi dri mis ymlaen llaw
pan fo hynny'n bosibl. Cytunodd y Comisiynwyr y dylid cynnwys capasiti a
hyblygrwydd yn y system i ddiogelu dyddiadau allweddol (byddai’r Comisiwn yn
cytuno ar y manylion mewn cyfarfod yn y dyfodol) ac i ddarparu ar gyfer
ceisiadau munud olaf am le ar gyfer digwyddiadau yn ymwneud â materion
cyfoes/perthnasol. Mewn ymateb i wybodaeth am awydd Aelodau am ddigwyddiadau
a phatrymau defnydd newidiol ar ôl Covid, cytunodd y Comisiynwyr i symud tuag
at ddefnyddio un slot digwyddiad premiwm y mis (amser cinio dydd Mawrth neu
ddydd Mercher) i dreialu ‘marchnadoedd’ yn y Senedd o’r Pasg ac am weddill
2024, yn lle'r defnydd arferol o Ystafelloedd Ciniawa ar gyfer digwyddiadau
'galw heibio'. Cytunwyd hefyd i dderbyn gwerthusiad o’r dull hwn yn gynnar yn
2025 i gytuno ar safbwynt parhaol. Fodd bynnag, roeddent yn cydnabod y byddai
lleoliad llai cyhoeddus yn fwy priodol i rai sefydliadau, ac felly ni ddylai
mynediad at Ystafell Giniawa breifat ddod i ben yn gyfan gwbl. Nododd y Comisiynwyr hefyd barhad y polisi presennol o 10
slot digwyddiadau yr wythnos a’r gwaith i adolygu’r categorïau a’r broses ar
gyfer digwyddiadau gan gynnwys y dull a ddefnyddir i wella’r broses gymeradwyo
ar gyfer gweithgarwch Llywodraeth Cymru ar yr ystâd; gwaith ar y gweill i
gryfhau'r cysylltiadau rhwng digwyddiadau a Busnes y Senedd; a'r dull a
awgrymir ar gyfer amseroedd paratoi hirach ar gyfer digwyddiadau ymgysylltu dan
arweiniad y Comisiwn. Byddai'r newidiadau y cytunir arnynt yn rhan o bolisi
wedi'i ddiweddaru a'i gyhoeddi ar gyfer gweithgarwch ar yr ystâd. |
|
Cynllun Pensiwn yr Aelodau Cofnodion: Ystyriodd y Comisiynwyr lythyr gan y Actiwari Cynllun Pensiwn yr Aelodau a nododd
ganlyniadau’r prisiad arferol diweddaraf a’u hargymhelliad ynghylch lefel y
cyfraniadau y dylai’r Comisiwn eu talu i’r Cynllun dros y tair blynedd nesaf. Cytunodd y Comisiynwyr
ar eu hymateb i lythyr yr Actiwari. |
|
GB News Cofnodion: Cafodd y
Comisiynwyr y newyddion diweddaraf am waharddiad diweddar GB News o system
deledu fewnol y Senedd. Cymerwyd y camau gan Swyddogion ar gais y Llywydd ar ôl
darllediad diweddar gan y sianel a oedd yn fwriadol sarhaus ac yn ddiraddiol i
ddadl gyhoeddus ac yn dilyn codi’r mater yn ystod Cwestiynau i’r Comisiwn yn y
Cyfarfod Llawn. Roedd y
Comisiynwyr wedi cael gwybod am ohebiaeth a thrafodwyd y safbwynt a gymerwyd. Y
casgliad oedd y byddai atal GB News yn parhau tra bod y Comisiwn yn ceisio
mewnbwn annibynnol i ddatblygu protocol a fydd yn darparu fframwaith ar gyfer
eglurder a chysondeb ar gynnwys darlledu ar draws ystâd y Senedd yn y dyfodol. |
|
Papurau i'w nodi: |
|
Salwch trosglwyddadwy / Mesurau gwytnwch y gaeaf ar Ystâd y Senedd Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
yr ymrwymiad i fesurau rheoli risg i gefnogi lles cyffredinol, hylendid a
lleihau clefydau trosglwyddadwy; y bydd y Comisiwn yn gweithredu o dan y
mesurau rheoli risg cyffredinol a nodwyd yn hytrach na mesurau penodol
COVID-19; ac yn ystod tymor yr Hydref, bydd brîff gwylio yn cael ei gadw ar
gyfraddau cymunedol COVID-19 ac absenoldeb staff sy'n gysylltiedig â COVID-19 i
asesu a oes angen ailgyflwyno'r mesurau Isel, Canolig neu Uchel o’r Fframwaith
COVID-19. |
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb arferol o benderfyniadau recriwtio a ddarparwyd i bob cyfarfod o'r
Comisiwn, gan gynnwys crynodeb o swyddi gwag lle roedd y broses recriwtio
wedi'i gohirio. |
|
Llythyrau at y Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
llythyrau at y Pwyllgor Cyllid ynghylch y taliad Costau Byw, a chyda gwybodaeth
bellach yn dilyn y sesiwn graffu, fel y’i dosbarthwyd y tu allan i’r cyfarfod
(ar 3 Hydref 2023 a 10 Hydref 2023 yn y drefn honno). |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Gohebiaeth - Nododd y
Comisiynwyr fod dwy eitem o ohebiaeth wedi’u derbyn, a chytunwyd i dderbyn
gwybodaeth a fyddai’n cael ei dosbarthu y tu allan i’r cyfarfod: Llythyr gan y Pwyllgor Safonau Roedd y Pwyllgor Safonau wedi ysgrifennu ynghylch urddas a pharch yn gofyn
am wybodaeth am gyfathrebu â defnyddwyr trydydd parti o’r adeilad a'r broses ar
gyfer codi cwynion. Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg,
Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a gyfeiriodd un argymhelliad i’r Comisiwn. Urddas a pharch –
Cododd Comisiynydd fater pellach mewn perthynas â thrafodaethau’r Comisiwn yn
yr haf ynghylch sicrhau bod amddiffyniadau priodol ar waith i’r rheini ar yr
ystâd, er mwyn galluogi pobl i gael gweithle diogel a hygyrch. Cytunodd y
Comisiwn i ofyn i'r Pwyllgor Safonau am eglurder ynghylch y gwaith y mae'n ei
wneud, ar ôl ystyried adolygiad y Comisiwn, ac felly nodi unrhyw feysydd sy'n
weddill y mae angen i'r Comisiwn gymryd camau ychwanegol yn eu cylch. |