Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies AC a Rhodri Glyn Thomas AC. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafodd y cofnodion eu cytuno arnynt yn amodol ar welliant o dan eitem 3. |
|
Adrodd ar berfformiad corfforaethol Cofnodion: Wrth iddo graffu ar gyllideb y Comisiwn,
argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylai’r Comisiwn gyhoeddi dangosyddion
perfformiad blynyddol. Bu’r Comisiynwyr yn trafod ystod o ddangosyddion
arfaethedig a fyddai’n dangos cynnydd tuag at Nodau Strategol y Comisiwn.
Byddai’r rhain yn cael eu cyhoeddi’n gyson, ac roeddent yn debygol o esblygu a
chael eu mireinio dros amser. Cytunodd y Comisiynwyr y byddai angen i’r
dangosyddion fod yn ansoddol yn ogystal ag yn feintiol, ac y byddai cynnydd yn
erbyn targedau yn cael ei ddangos lle bo hynny’n briodol. Byddai meincnodi yn
erbyn sefydliadau eraill hefyd yn dangos faint o gynnydd sy’n cael ei wneud, er
na fyddai hyn yn bosibl ym mhob maes. Pwysleisiwyd yr angen i gynnwys dangosyddion a
oedd yn berthnasol i berfformiad y Comisiwn. Awgrymwyd newidiadau i’r cynigion
yn y papur yn y meysydd a ganlyn:
Cytunwyd y dylid ymgynghori â’r Pwyllgor Cyllid
ar ddangosyddion perfformiad. Cam i’w gymryd: Y Bwrdd Rheoli i adolygu’r dangosyddion. |
|
Adroddiad ar gynnydd a pherfformiad TGCh Cofnodion: Gwnaethpwyd cynnydd mewn nifer o feysydd ers y
tro diwethaf i’r wybodaeth ddiweddaraf gael ei rhoi i’r Comisiwn ddiwedd mis
Ionawr 2013. Roedd y rhain yn cynnwys: - bod y rheolwr trawsnewid newydd wedi dechrau ei swydd. Bydd yn gyfrifol
am reoli’r Cynllun Ymadael a fydd yn sylfaen i’r broses o adael y cytundeb ag
Atos; - bod rhai Aelodau wedi bod yn treialu defnyddio mod.gov ar gyfer papurau
Pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn; - bod mynediad at Outlook drwy’r we wedi cael ei ehangu i gynnwys ystod
ehangach o ddyfeisiau, sy’n fwy cyfleus i ddefnyddwyr; - bod nifer o sesiynau rheoli gwybodaeth wedi cael eu trefnu ar gyfer
Aelodau a’u staff i godi ymwybyddiaeth ynghylch eu dyletswyddau mewn perthynas
â Diogelu Data. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael yng
nghyfarfod perfformiad nesaf y Comisiwn. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Berfformiad Ariannol 2012-13 Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y
gyllideb ar gyfer 2012-13, fel yr oedd ar ddiwedd mis Ionawr 2013. Cyrhaeddwyd
y targed gwerth am arian o £470,000 am y flwyddyn, a disgwyliwyd iddo gynyddu
ychydig ymhellach erbyn diwedd y flwyddyn. Roedd hefyd yn debygol y byddai
tanwariant o rhwng tua £0.3 miliwn a £0.4 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol, ond roedd hyn o fewn y targed o 1%. Roedd arian wrth gefn o £175,000
wedi’i neilltuo ar gyfer Darpariaeth Pensiwn yr Aelodau, a byddai hyn yn
cynyddu’r tanwariant os na fyddai ei angen. Bu’r Comisiynwyr yn trafod y ffordd y mae alldro y rhagolygon misol yn cael eu defnyddio gan y Bwrdd Rheoli a’r Bwrdd Buddsoddi er mwyn defnyddio holl gyllideb y Comisiwn yn effeithiol, gan nodi bod y prosesau rheoli arian hyn wedi’u rheoli’n dda yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. |
|
Y fframwaith ar gyfer adroddiad blynyddol Comisiwn y Cynulliad a’r datganiad o gyfrifon ar gyfer 2012-13 Cofnodion: Cafodd amlinelliad arfaethedig o’r Adroddiad Blynyddol ei gyflwyno er
mwyn i’r Comisiwn ei ystyried. Cytunwyd ar y fframwaith. Cam i’w gymryd: Swyddogion i barhau gyda’r gwaith
ar yr adroddiad. |
|
Adborth o Bwyllgor Archwilio 21 Chwefror (eitem lafar) Cofnodion: Rhoddodd Angela Burns AC y wybodaeth ddiweddaraf
ar lafar am gyfarfod Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad a gynhaliwyd yr
wythnos flaenorol. Roedd y Pwyllgor wedi trafod y rhaglen Gwerth am Arian a’r
arbedion effeithlonrwydd a oedd wedi’u cyflawni, ac roedd yn gefnogol o waith y
Comisiwn sydd ar y gweill yn y maes hwn, gan nodi bod gweithdy ar gyfer staff
perthnasol wedi’i drefnu er mwyn cryfhau’r gwaith hwn ymhellach. Roedd y Pwyllgor Archwilio wedi cwestiynu’r sgôr
‘isel’ a roddwyd i’r risg gweddilliol mewn perthynas â newidiadau TGCh yn y
dyfodol. Nododd y Comisiynwyr y byddai Lynne Flux yn gadael y Cynulliad, gan ddiolch iddi am ei gwaith gwerthfawr ac o safon uchel ar lywodraethu ac archwilio. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Comisiynydd |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Nid oedd
materion eraill i’w trafod. Yr Ysgrifenyddiaeth Chwefror 2013 |