Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Datganiad o fuddiant Cofnodion: Ni
chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd
bod cofnodion 5 Ebrill yn gofnod cywir. |
|
Diwallu ein Hanghenion o ran Llety yn y Dyfodol Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr y wybodaeth a ddarparwyd mewn ymateb i ymholiadau a
godwyd ganddynt yn y cyfarfod blaenorol.
Derbyniwyd yr awgrymiadau a wnaed, a nodwyd meysydd ble y byddent yn
hoffi cael rhagor o fanylion. |
|
Rhaglen Diwygio'r Cynulliad Cofnodion: Rhoddwyd
gwybodaeth i'r Comisiynwyr am ganlyniadau eu hymgynghoriad ar newid enw'r
Cynulliad. Trafodwyd nifer o opsiynau ar gyfer y camau nesaf gan gynnwys
materion ymarferol ac ariannol cysylltiedig a materion yn ymwneud ag enw da. Cytunodd
y Comisiynwyr i ddychwelyd at y mater yn eu cyfarfod nesaf, ar ôl rhoi
ystyriaeth bellach i'r berthynas â chwmpas y cynigion deddfwriaethol y gallai'r
Comisiwn ddymuno ei dilyn yn ystod tymor y Cynulliad hwn o ganlyniad i
ddatganoli pwerau newydd o dan Ddeddf Cymru 2017 . |
|
Gweithgarwch ar ystâd y Cynulliad Cofnodion: Trafododd
y Comisiynwyr gynigion i newid y modd y caiff gweithgarwch ar yr ystâd ei reoli
a'i flaenoriaethu, â'r nod o sicrhau ei fod yn adlewyrchu blaenoriaethau'r
Comisiwn yn well o ran ymgysylltu, gan alluogi'r ystâd, a'r Senedd yn arbennig,
i gael ei ddefnyddio'n fwy pwrpasol ac felly i ddod yn adnodd allweddol ar
gyfer hyrwyddo ymgysylltiad â'r Cynulliad ac annog cynulleidfa fwy amrywiol i'n
hystâd. Cydnabu'r
Comisiynwyr yr heriau sydd ynghlwm wrth y dull presennol o ddefnyddio'r ystâd,
ac roeddent o blaid newid i ddull mwy strategol o ddefnyddio'r ystâd mewn modd
pwrpasol ac effeithiol. Nodwyd rhai anawsterau penodol o'u gwybodaeth a'u
profiad eu hunain, ac awgrymwyd nifer o ddulliau a allai fod yn ddefnyddiol yn
y broses o reoli gweithgarwch yn fwy effeithiol. Bydd rhagor o waith yn cael ei
wneud i baratoi canllawiau i gefnogi'r newid. |
|
Fframwaith ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol y Cynulliad yn ystod y Pumed Cynulliad Cofnodion: Trafododd
y Comisiynwyr bapur a oedd yn nodi fframwaith drafft ar gyfer datblygu rhaglen
ystyrlon a chydgysylltiedig o waith rhyngwladol ar gyfer y Pumed Cynulliad. Roeddent
yn cefnogi bwriad y fframwaith, i leoli'r Cynulliad ar y llwyfan rhyngwladol
fel deddfwrfa fach ond yn un wahanol, arloesol a blaengar, a chytunwyd y dylai
ymgysylltu rhyngwladol y Comisiwn gael ei gefnogi trwy ddiben clir. Yn
arbennig, tynnodd y Comisiynwyr sylw at ba mor bwysig yw edrych at allan a
rhannu'r hyn a wnawn, a nodi meysydd eraill ble y gallem ddatblygu rôl er mwyn
manteisio ar gyfleoedd ychwanegol. Bydd
cynllun cyflawni yn cael ei baratoi, gan roi ystyriaeth i safbwyntiau'r
Comisiwn. |
|
Papurau i’w nodi |
|
Cofnodion ACARAC Cofnodion: Nodwyd
cofnodion cyfarfod ACARAC ar 20 Mawrth. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Gofynnodd
y Comisiynwyr am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â diogelwch ar ystâd y Cynulliad. |