Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o
fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd
ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi. Cytunodd y Comisiynwyr y
dylid ymdrin â'r gwaith o weithredu argymhellion y Comisiwn Etholiadol ar
dreuliau etholiadol drwy is-ddeddfwriaeth, yn amodol ar gael sicrwydd priodol
ynghylch amseru. Cafwyd y sicrwydd hwnnw gan Lywodraeth Cymru, a'i rannu â'r
Comisiynwyr, sy'n golygu bod y penderfyniad a wnaed felly wedi'i gadarnhau. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllideb y Comisiwn ar gyfer 18/19 Cofnodion: Diweddarwyd
y Comisiynwyr ar wahanol agweddau ar gyllideb y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn
gyfredol. Trafododd
y Comisiynwyr danwariant a ragwelir mewn perthynas â defnyddio cyllideb y
Penderfyniad a'r amcangyfrif o gostau Cyllid Pensiwn yr Aelodau, a gafwyd gan
Adran Actiwari'r Llywodraeth, sy'n is na'r gyllideb a osodwyd cyn dechrau'r
flwyddyn ariannol. Cytunodd y
Comisiynwyr i gyflwyno Cyllideb Atodol, i'w chynnwys yng nghynnig cyllideb
Llywodraeth Cymru, i wneud gostyngiad o £500,000 yng nghyllideb y gwariant a
reolir yn flynyddol a gostyngiad o £500,000 yn llinell Penderfyniad y Bwrdd
Taliadau yn y gyllideb (cyflogau Aelodau a chostau cysylltiedig). Cytunodd y
Comisiwn i gynnig Cynllun Ymadael Gwirfoddol, y rhagwelir y bydd yn hwyr ym mis
Tachwedd 2018 i sicrhau y gall barhau i ddarparu'r sgiliau, yr arbenigedd a'r
capasiti angenrheidiol i gefnogi'r Cynulliad drwy'r heriau penodol yn sgil
Brexit a Newid Cyfansoddiadol. Tynnwyd sylw'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r
Pwyllgor Cyllid at y posibilrwydd o Gynllun Ymadael Gwirfoddol yn ystod y cylch
cyllideb diweddar a'r gwaith o graffu ar y cyfrifon. Cytunodd y Comisiynwyr y
dylai'r Prif Weithredwr a'r Swyddog Cyfrifyddu ysgrifennu at y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid i roi gwybod iddynt am y penderfyniadau
hyn. |
|
Ymateb i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb y Comisiwn ar gyfer 2019-20 Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am hynt Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20
drwy'r broses graffu. Roedd y Pwyllgor Cyllid wedi adrodd a chytunodd y
Comisiynwyr ar ymateb y Comisiwn i'r argymhellion a godwyd yn adroddiad y
Pwyllgor Cyllid. Cytunodd y Comisiynwyr y bydd dogfen y gyllideb derfynol ar
gyfer 2019-20 yn cael ei gosod ar 7 Tachwedd 2018. Caiff ei thrafod yn y
Cyfarfod Llawn ar 14 Tachwedd. |
|
Y strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr
bapur a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau ymgysylltu â'r
cyhoedd a gyflwynwyd gan staff y Comisiwn ar ran y Cynulliad ers 2016.
Trafodwyd uchafbwyntiau'r prif gyflawniadau hyd yma a nodwyd y cynnydd a wnaed
ar fentrau ymgysylltu allweddol ers mis Mai 2016. Soniodd y Comisiynwyr am roi
mwy o broffil i feysydd lle mae'r Cynulliad wedi arwain y ffordd ar faterion
deddfwriaethol penodol. Trafodwyd hefyd y cyfle i godi ymwybyddiaeth yr Aelodau
o faint o weithgarwch allgymorth a wneir gan staff y Comisiwn. Cadarnhaodd y Comisiynwyr
fod y strategaeth yn adlewyrchu eu blaenoriaethau ymgysylltu o nawr hyd at
ddiwedd y Cynulliad hwn, a chymeradwywyd y cerrig milltir a'r dyddiadau cwblhau
allweddol. |
|
Caffael yng Nghymru Cofnodion: Roedd y Comisiynwyr wedi gofyn am wybodaeth am ffyrdd o
gynyddu'r gyfran o wariant caffael y Comisiwn gyda chyflenwyr Cymreig a
chyflenwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Trafodwyd papur a oedd yn nodi
strategaeth ar gyfer cynyddu cyfran y gwariant caffael gyda chyflenwyr Cymreig
a chyflenwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Roedd y manylion hefyd yn cwmpasu
Dangosydd Perfformiad Allweddol corfforaethol newydd ar wariant cyflenwyr
Cymreig i roi ffocws i fonitro cynnydd yn ffurfiol. Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth a ddarparwyd a chefnogodd gyfeiriad y gwaith. |
|
Diwygio etholiadol – y wybodaeth ddiweddaraf Diweddariad
llafar gan y Llywydd Cofnodion: Trafododd
y Comisiynwyr nifer o faterion yn ymwneud â dilyniant eu gweithgarwch diwygio
etholiadol: Trafododd
y Comisiynwyr agweddau ar y gwaith sy'n ymwneud â gwybodaeth gyhoeddus a chodi
ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o ran gallu adlewyrchu hyn yn y Memorandwm
Esboniadol a fydd yn cyd-fynd â'r Bil pan gaiff ei gyflwyno. Trafodwyd y
pwysigrwydd o sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hannog a'u cefnogi i arfer eu
hawl i bleidleisio. Cytunodd y Comisiynwyr y dylai swyddogion weithio gyda
Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol i ddatblygu cynllun ar gyfer codi
ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc cyn etholiadau 2021, ac yn enwedig mynd i'r
afael â hyn mewn ysgolion. Gwnaethant ofyn am gael eu diweddaru wrth i'r gwaith
hwn fynd rhagddo. O
ganlyniad i ddatganoli pwerau yn Neddf Cymru 2017, mae'r Comisiwn Etholiadol
wedi cysylltu â'r Llywydd a Llywodraeth Cymru i gynnig bod y Cynulliad yn
deddfu i wneud y Comisiwn Etholiadol yn atebol i'r Cynulliad a chael ei ariannu
gan Gomisiwn y Cynulliad, mewn perthynas ag etholiadau datganoledig yng Nghymru
(etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau'r Cynulliad). Trafododd y
Comisiynwyr rai o'r materion cymhleth ynghylch sut a phryd y gellid gwneud
newidiadau deddfwriaethol. Teimlai'r Comisiynwyr fod gwerth yn y Comisiwn
Etholiadol yn bod yn atebol i'r Cynulliad am ei waith yng Nghymru. Cytunwyd i
gael barn ar yr egwyddor gan eu grwpiau ar y cynnig hwn gan y Comisiwn
Etholiadol, i ddatblygu newidiadau yn y Bil diwygio, a gefnogir gan Lywodraeth
Cymru. Rhoddodd y
Llywydd ddiweddariad ar lafar ar yr adborth a gafodd ar ddisgrifwyr i'r Aelodau
a'r sefydliad yn y dyfodol, a'r cynigion y mae'n bwriadu eu gwneud o ganlyniad
i hyn. Trafododd y Comisiynwyr
yr opsiynau a chytunodd fod angen gwneud penderfyniad er mwyn cyflwyno'r Bil.
Cytunodd y Comisiwn i'r Llywydd benderfynu hyn, fel yr Aelod Cyfrifol, a
dywedodd y Llywydd ei bod yn bwriadu bwrw ymlaen â'r newid enw yr ymddengys ei
fod yn adlewyrchu barn y mwyafrif o grwpiau'r Cynulliad ar hyn o bryd. Cadarnhawyd
pe bai opsiynau eraill yn dod i'r amlwg wedyn, y gellid ystyried y rhain yng
Nghyfnod 2. Felly, y cynllun yw y
dylai'r newid enw a gyflwynir yn y Bil fod yn enw uniaith "Senedd";
ac y cyfeirir at Aelodau fel "Aelodau'r Senedd (AS)/Members of the Senedd
(MS)" ac yn unigol fel "Aelod o'r Senedd"/Member of the
Senedd". Teitl byr cysylltiedig y Bil fyddai "Bil Senedd ac
Etholiadau (Cymru)". Byddai'r Comisiwn yn cael ei alw'n "Comisiwn y
Senedd". |
|
Cerflun Rhodri Morgan Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr gais a ddaeth i law yn gofyn am
gytundeb mewn egwyddor, am gerflun i goffáu bywyd a gwaith y diweddar Brif
Weinidog, Rhodri Morgan, i'w osod ar ystâd y Cynulliad. Gofynnodd y Comisiynwyr
am ddatblygu polisi i ddarparu proses ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch
ceisiadau yn y dyfodol ar gyfer gosod cofebion a cherfluniau. Yn y cyfamser
roeddent yn fodlon, mewn egwyddor, y gellid gosod cerflun o Rhodri Morgan, fel
Prif Weinidog cyntaf Cymru ar dir y Cynulliad, yn amodol ar gael sicrwydd
addas, y dylai trydydd parti ddal y cerflun mewn ymddiriedaeth a bod yn
gyfrifol amdano. |
|
Llwybr Seren Cymru Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr
ddiweddariad ar ddatblygiadau diweddar ynghylch y cynigion hirdymor ar gyfer
'Llwybr Seren Cymru'. Daeth y Comisiynwyr i'r casgliad nad oeddent yn teimlo eu
bod yn gallu cefnogi'r syniad o ddatblygu 'Llwybr Seren Cymru' ar ystâd y
Cynulliad. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
Y Cynulliad ar dudalen Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
ddogfen fer a luniwyd i grynhoi diben, gweledigaeth, nodau, blaenoriaethau a
gwerthoedd cyfredol Comisiwn y Cynulliad. |
|
Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad arferol. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: ·
Swyddfa'r Comisiynydd
Safonau - diweddarwyd y Comisiynwyr ynghylch y newidiadau a wnaed i wella'r
strwythur staffio sy'n cefnogi'r Comisiynydd Safonau. Roedd hyn yn sgil y swm
cynyddol o waith mewn perthynas ag ymholiadau i swyddfa'r Comisiynydd Safonau
dros y flwyddyn hon, ac mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor
Safonau Ymddygiad. Yn y
cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno i benodi
cynghorwyr annibynnol i'r Comisiwn, yn dilyn proses recriwtio agored a
thryloyw. |