Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Nid oedd buddiannau
i'w datgan. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion
27 Ionawr yn gofnod cywir. |
|
Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd – Strategaeth lleihau carbon Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar gyfres o egwyddorion, targedau
a chamau gweithredu a fydd yn sail i’r strategaeth lleihau carbon newydd o 2021
i 2030. Trafododd y Comisiynwyr
y camau gweithredu a'r argymhellion, a nodi wrth i'r strategaeth gael ei
chwblhau y dylid canolbwyntio mwy ar newid diwylliant ac ymddygiadau.
Gwnaethant gytuno hefyd i gydnabod, fel Corff Corfforaethol, bod argyfwng
hinsawdd yn bodoli. |
|
Capasiti Adnoddau’r Comisiwn – y wybodaeth ddiweddaraf Cofnodion: Roedd y Comisiynwyr wedi gofyn am wybodaeth bellach
ynghylch y swyddi a nodwyd i gefnogi’r gwaith o gyflawni eu strategaeth
gyfathrebu ac ymgysylltu sydd newydd ei chytuno. Roedd y Comisiynwyr eisoes
wedi cytuno ar yr egwyddor o ddyrannu adnoddau ychwanegol i gefnogi eu
blaenoriaeth strategol o ymgysylltu. Buont yn trafod y wybodaeth bellach
ac ymrwymodd y Llywydd i ddarparu briff ychwanegol i egluro'r berthynas rhwng y
rolau newydd a chyflawni'r strategaeth. |
|
Gohebiaeth y Bwrdd Taliadau Cofnodion: Bu'r Comisiynwyr yn trafod llythyrau gan y
Bwrdd Taliadau ynghylch ymgynghoriad y Bwrdd ar y Penderfyniad drafft ar gyfer y
Chweched Senedd, ac ynghylch ystyriaeth bellach y Bwrdd o'r materion mewn
perthynas â chostau a ysgwyddwyd gan Aelodau am redeg eu swyddfeydd, ac
eithrio'r rhai y mae’r Penderfyniad yn darparu ar eu cyfer, lle gwnaethant ddau
argymhelliad. Cytunodd y Comisiynwyr i ysgrifennu yn ôl at y Bwrdd
gyda'u casgliadau mewn perthynas â'r argymhellion, gan gytuno, drwy fwyafrif, i
ddwyn ymlaen cyhoeddi data o ran defnydd i ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf,
ac i ddarparu gwybodaeth i gefnogi gwaith y Bwrdd tuag at gynnwys y
darpariaethau hyn yn y Penderfyniad. Ar ôl trafod barn y Bwrdd ynghylch
cyflwyno 'cap', cytunwyd i gadw’r status quo ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd
i ddod. Cytunwyd hefyd i dynnu
sylw at ddau fater sy'n codi o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad, sef esboniad
ynghylch y ddwy elfen gyllido a nodwyd i gefnogi ymgysylltu ag etholwyr, a
statws yr eiddo a ariennir gan y Comisiwn. |
|
Opsiynau o ran lle yn y dyfodol – hyblygrwydd cynyddol y swyddfeydd o fewn Tŷ Hywel Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr gynigion i
newid rhywfaint ar y lle sydd ar gael yn Nhŷ Hywel i roi mwy o hyblygrwydd
i swyddfeydd yr Aelodau. |
|
Pontio o ran yr Etholiad – y dull gweithredu Cofnodion: Nododd y Comisiwn wybodaeth a ddarparwyd am gynllunio ar
gyfer diddymu’r Pumed Cynulliad a’r cyfnod pontio dros gyfnod etholiad 2021. Cytunodd y Comisiynwyr
i ystyried materion penodol i wneud penderfyniad yn eu cylch mewn cyfarfodydd
yn ddiweddarach yn 2020. |
|
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon 2018-19 Cofnodion: Trafododd y
Comisiynwyr gais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am wybodaeth bellach mewn
perthynas â'r ymateb i ddau o'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor. Nododd y Comisiynwyr y llythyr gan y Pwyllgor
a chytunodd ar ymateb. |
|
Coronafeirws Cofnodion: Ar ôl cael eu briffio, bu'r Comisiynwyr yn
trafod y camau a gymerwyd eisoes, yr hyn sy'n cael ei wneud, a'r penderfyniadau
y mae angen eu gwneud ar hyn o bryd wrth ymateb i’r coronafeirws, Covid-19.
Gwnaethant gytuno ar gamau gweithredu mewn perthynas â throthwyon presennol a
thrafod trefniadau ymarferol a pharhad busnes. Penderfynodd y Comisiwn y bydd gweithgareddau
ymgysylltu â'r cyhoedd yn dod i ben o ddydd Mawrth 17 Mawrth, ac na fyddant yn
ailddechrau cyn 26 Ebrill. Bydd adeiladau'n cau i'r cyhoedd ac eithrio'r rhai
sy'n cymryd rhan neu'n arsylwi trafodion ffurfiol y Cynulliad. Penderfynodd y
Comisiwn hefyd ohirio wythnos fusnes y Senedd yn y gogledd ddwyrain yn
ddiweddarach yr haf hwn. Trafododd y Comisiynwyr hefyd yr angen i
gefnogi staff yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan
ledaeniad COVID-19 a'r angen i barhau i ddarparu arweiniad perthnasol i Aelodau'r
Cynulliad mewn perthynas â'u staff a'u swyddfeydd eu hunain. Cadarnhaodd y
Comisiynwyr eu cefnogaeth i’r dull arfaethedig a chytunwyd ar y prosesau
penderfynu, gan gydnabod y byddai angen gwneud penderfyniadau pellach. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb arferol o benderfyniadau recriwtio a roddir ym mhob un o gyfarfodydd y
Comisiwn. |
|
Cofnodion Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ACARAC) – y cyfarfod fis Ionawr Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad a ddarparwyd yn dilyn cyfarfod ACARAC ym mis Ionawr. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Hysbyswyd y
Comisiynwyr fod y contract glanhau wedi'i ddyfarnu yn dilyn ymarfer caffael. |