Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau
buddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunwyd yn
ffurfiol ar y cofnodion. Roedd y swyddogion yn bwrw ymlaen
â’r holl gamau eraill yr oedd angen eu cymryd. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliannau i'r gwasanaeth TGCh Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ers
cyfarfod diwethaf y Comisiwn, cymerwyd nifer o gamau i ymateb i bryderon yr
Aelodau am rai agweddau ar y gwasanaeth TGCh. Cytunwyd ag Atos ar gynllun i
wella’r gwasanaeth, cynhaliwyd cyfarfod rhwng uwch swyddogion Atos a
Llywodraeth Cymru, a rhwng Aelodau’r Cynulliad a swyddogion y Comisiwn i nodi’r
problemau sy’n parhau yn y gwasanaeth a’n hanghenion tebygol yn y dyfodol. Defnyddiwyd
adnoddau ychwanegol i sicrhau bod modd rhoi’r cynllun gweithredu ar waith. Fel
rhan o’r cynllun, bydd peiriannydd yn ymweld â phob swyddfa etholaethol i
ymdrin ag unrhyw broblemau a bydd rhagor o gymorth ar gael o ran rheoli
prosiectau a pharatoi cynlluniau technegol er mwyn medru cyflwyno prosiectau
gwella’n gynt a chaiff rheolau diogelwch
a dulliau o ddarparu gwasanaethau eu hadolygu i’w haddasu’n well ar gyfer
anghenion. Cytunodd y Comisiynwyr fod y gwelliannau i’w gweld yn datrys y
problemau TGCh ac roeddent yn falch bod camau pendant wedi’u cymryd yn y
cyswllt hwn. Nodwyd bod trafodaethau ar y gweill ag Atos i archwilio i ba
raddau y dylai Atos rannu’r gost ychwanegol sy’n deillio o’r camau hyn. Cam i’w gymryd: swyddogion i ddosbarthu’r papur yn uniongyrchol i Aelodau’r Cynulliad. |
|
Fframwaith ar gyfer adroddiad a datganiad o gyfrifon blynyddol Comisiwn y Cynulliad 2011-12 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bydd Adroddiad Blynyddol
Comisiwn y Cynulliad 2011-12 yn
rhoi trosolwg strategol ar flaenoriaethau strategol Comisiwn y Cynulliad, ac yn
rhoi pwyslais cryf ar adeiladu Cynulliad ar gyfer y dyfodol. Adroddiad
Blynyddol ar gyfer y cyhoedd fydd hwn, ond bydd hefyd o ddiddordeb i Aelodau’r
Cynulliad, eu staff cymorth, y cyfryngau a rhanddeiliaid eraill. Bydd yn ymdrin
â nifer o themâu, gan gynnwys paratoi ar gyfer yr etholiad a’r diddymiad; yr
etholiad a’r aelodaeth newydd; gwaith Comisiwn newydd y Cynulliad a’r
trefniadau ar gyfer busnes y Cynulliad. Cytunodd
y Comisiwn ar gynnwys arfaethedig yr Adroddiad Blynyddol, Cytunwyd i gyhoeddi
adroddiad gwahanol yn amlinellu’r hyn y mae’r Comisiwn wedi’i gyflawni yn ystod
blwyddyn gyntaf y Pedwerydd Cynulliad; adroddiad ar gyfer Aelodau’r Cynulliad
yn bennaf fydd hwn. Cam i’w gymryd: swyddogion i fwrw ymlaen â’r paratoadau angenrheidiol. |
|
Strategaeth cyllideb y Comisiwn 2013-16 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd
sut y dylid ymdrin â chyllideb y Comisiwn ar gyfer 2013-14 a’r ffigurau
dangosol ar gyfer y blynyddoedd sy’n weddill yn nhymor y Pedwerydd Cynulliad
(2014-15 a 2015-16). Y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2013-14 fydd £49.450
miliwn; £13.700 miliwn ar gyfer cyflogau
a chostau Aelodau’r Cynulliad a £35.750 ar gyfer gwasanaethau’r Cynulliad, sef
cynnydd o 5.3% o’i gymharu â chyllideb 2012-13. Mae’r
dulliau arfaethedig o ymdrin â’r gyllideb yn adlewyrchu cytundeb y Comisiwn i gyflwyno’r
cynnydd yn y gyllideb fesul cam, yn unol
ag argymhelliad y Pwyllgor Cyllid. Cytunodd y Comisiwn y dylid paratoi
cyllideb 2013-14 yn unol â’r ffigurau
dangosol. Bydd
rhagor o drafodaethau yng nghyfarfodydd y Comisiwn yn ystod tymor yr haf. Disgwylir
i’r gyllideb derfynol gael ei chymeradwyo yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis
Medi, ac y caiff ei gosod yn ffurfiol erbyn 28 Medi. Cytunodd y
Comisiynwyr i ystyried:
Cam i’w gymryd: swyddogion i fwrw ymlaen, yn unol â’r
dulliau y cytunwyd arnynt. |
|
Ymdrin â cheisiadau am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Comisiwn ddulliau posibl o wella’r modd y caiff ceisiadau am wybodaeth o dan
Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 eu trin, er mwyn symleiddio’r broses a gwneud
gwell defnydd o adnoddau’r Cynulliad. Mae modd
ymdrin â’r rhan fwyaf o’r ceisiadau’n ddidrafferth ond mae llawer gormod o
waith ynghlwm wrth nifer fechan ohonynt oherwydd eu bod yn geisiadau mor eang a
chymhleth. Byddai
cynyddu’r wybodaeth a gyhoeddir yn rhagweithiol yn golygu na fyddai angen ymateb i cynifer o geisiadau
penodol, a byddai hefyd yn dangos ymrwymiad parhaus y Comisiwn i weithio’n
agored ac yn dryloyw. Trafododd y Comisiynwyr y math o
wybodaeth y gellid ei chyhoeddi’n rhagweithiol. Tanlinellwyd y byddai angen
cymryd gofal wrth wneud hynny i sicrhau cydbwysedd rhwng tryloywder a’r angen i
barchu preifatrwydd. Cytunwyd y byddai’r Comisiynwyr yn cael cyfle i ystyried y
math o wybodaeth y gellid ei chyhoeddi’n rhagweithiol cyn dod i benderfyniad
terfynol. Nodwyd bod y
gost o ddarparu’r wybodaeth, mewn rhai achosion, yn fwy na’r ‘uchafswm
priodol’. Cytunwyd, mewn achosion o’r fath, ac yn unol â Chod y Cynulliad ar
Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, na fyddai’r Comisiwn yn gwrthod darparu’r
wybodaeth dan sylw (er y byddai ganddo hawl i wneud hynny) ond y byddai’n
cadw’r hawl i beidio â darparu gwybodaeth
pe bai’r costau’n amlwg yn ormodol a phe bai amgylchiadau ychwanegol, a
fyddai’n diogelu buddiannau’r cyhoedd, yn cyfiawnhau arfer yr hawl hwnnw. Cadarnhaodd y
Comisiwn, yn unol â’r Cod, na fyddai’n codi tâl am y wybodaeth, ar wahân i rai
achosion eithriadol. Cytunwyd i gasglu gwybodaeth am y gost o drin ceisiadau,
er mwyn ei chynnwys yn adroddiadau’r Bwrdd Rheoli i’r Comisiwn yn y dyfodol. Camau i’w cymryd: Swyddogion i ddarparu rhagor o
wybodaeth am: ·
gynigion i gyhoeddi gwybodaeth ychwanegol yn
rhagweithiol; · y gost o drin ceisiadau am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Comisiynwyr am eu portffolios Dogfennau ategol:
Cofnodion: Dyma’r eitemau a drafodwyd: Gwasanaethau i’r Aelodau Fel ymateb i sylwadau gan Aelodau’r Cynulliad, bydd swyddogion y Comisiwn yn cynnal arolwg o’r gwasanaethau a gynigir i’r Aelodau i helpu i nodi unrhyw feysydd i’w gwella. John Chick, Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau, fydd yn arwain y gwaith hwn. Archwilio Cytunodd y Comisiwn y byddai’n cael adroddiadau’n rheolaidd gan y Pwyllgor Archwilio i sicrhau bod yr holl Gomisiynwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd gwaith y Pwyllgor hwnnw. Cytunwyd y byddai’n cael ei gynnwys ar agenda cyfarfodydd y Comisiwn pan fyddai hynny’n briodol. Siop y Cynulliad Bydd Siop y Cynulliad yn symud i Gaffi’r Senedd erbyn y Pasg 2012. Mae gwaith ar y gweill i wella’r arwyddion, ac i wneud y rhan honno o’r adeilad yn fwy cyfforddus ac atyniadol, ac i benderfynu ar yr eitemau i’w gwerthu yn y siop. Cytunwyd y byddai hefyd yn bwysig hyfforddi’r staff. Y Mesur Ieithoedd Swyddogol Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wrthi’n ystyried Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol). Allgymorth a digwyddiadau Mae nifer o ddigwyddiadau amlwg wedi’u cynnal ar ystâd y Cynulliad yn ystod yr wythnosau diwethaf ac maent wedi bod yn boblogaidd iawn. Bydd cyflwyniad ar waith ymgysylltu’r Tîm Allgymorth yn cael ei drefnu ar gyfer un o gyfarfodydd y Comisiwn maes o law. Trafodaethau ynghylch cyflogau Mae trafodaethau ar y gweill ynghylch cyflogau staff y Comisiwn. Portffolios y Comisiynwyr Cytunwyd y dylid egluro’r modd y mae’r gwaith yn y cael ei ddosbarthu rhwng y portffolios a, lle bo hynny’n briodol, y dylid ei addasu i adlewyrchu profiadau yn ystod y flwyddyn gyntaf. |
|
Rhaglen dreigl Comisiwn y Cynulliad Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y rhaglen dreigl. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Nid oedd unrhyw
fater arall i’w drafod. |