Agenda a Chofnodion
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriad gan Suzy Davies. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Nid oedd dim
datganiadau ffurfiol i’w datgan. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mai. |
|
Strategaeth y Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22 Cofnodion: Cynhaliodd y Comisiynwyr eu trafodaeth gyntaf am gyllideb ddrafft Comisiwn
y Senedd 2021-22. Gwnaethant ystyried blaenoriaethau a heriau sy'n debygol o
godi yn y cyfnod sydd i ddod, a rhoi eu barn er mwyn llywio’r gwaith paratoi
pellach sydd i'w wneud ar y gyllideb ddrafft. Gwnaethant ystyried rhinweddau a
goblygiadau cymharol gwahanol senarios a mynegi y byddai’n well ganddynt ostwng
y cynnydd a ragwelir yn y gyllideb o 2.48% i 1% er mwyn adlewyrchu’r hinsawdd
economaidd debygol. Gwnaethant fyfyrio ar y ffaith y disgwylir datblygiadau
pellach yn ystod y cyfnod hyd at yr hydref. Cytunodd y Comisiynwyr y dylid cynnwys cyllideb tair blynedd yn nogfen
gyllideb ddrafft 2021-22, a pharhau i symud y ffocws oddi ar cap staffio sefydlog
ar gyfer y sefydliad i ffocws tymor hirach ar y gyllideb weithredol gyfan. At hynny, gofynnodd y Comisiynwyr am roi ystyriaeth bellach o'r geiriad o
ran diweddaru Nodau Strategol y Comisiwn ar gyfer y Chweched Senedd. Bydd y gyllideb
ddrafft yn cael ei gosod erbyn 1 Hydref, yn ôl y gofyn. |
|
Diweddariad COVID-19 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y diweddariad ac roeddent yn gefnogol i baratoadau
gael eu gwneud ar gyfer dychwelyd i'r ystâd. Gwnaethant gefnogi'r dull o ymdrin
â chynlluniau ar gyfer dychwelyd i'r ystâd mewn unrhyw fodd, gyda’r trefniadau
cychwynnol yn seiliedig ar gael 10 y cant o bobl yn yr ystâd, er mwyn profi ein
trefniadau’n drylwyr a chynnal amgylchedd diogel, cyn belled ag y bo modd. At hynny, gwnaethant
drafod y persbectif ehangach o ran gwersi a ddysgwyd a ffyrdd newydd o weithio
ar gyfer dyfodol sy’n fwy gwydn a hyblyg. |
|
Pontio dros gyfnod yr etholiad: Diddymiad - Defnyddio Adnoddau Cofnodion: Ystyriodd y Comisiynwyr bapur wnaeth roi’r wybodaeth angenrheidiol iddynt i
wneud y penderfyniadau perthnasol o bwys mawr yngylch i ba raddau y dylai
Aelodau allu cyrchu a defnyddio Adnoddau'r Senedd yn ystod y diddymiad, lle
gellir defnyddio disgresiwn. Gwnaeth y Comisiynwyr benderfyniadau mewn saith maes fel bod gwybodaeth a
chanllawiau manwl yn cael eu rhoi i'r Aelodau yn amserol, gan eu galluogi i
baratoi'n briodol ar gyfer cyfnod y Diddymiad. Cytunodd y Comisiynwyr i alluogi mynediad cyfyngedig at adnoddau’r Senedd
ar gyfer gwaith achos a thasgau gweinyddol arferol yn unig, gan gynnwys
galluogi swyddfeydd etholaethol neu ranbarthol i gael eu defnyddio at y
dibenion hynny’n unig. Gallai swyddfeydd Aelodau fod ar gael at ddibenion personol yn unig – er
enghraifft ar gyfer ymgyrchu – os yw’r Aelodau'n rhentu'r adnoddau swyddfa a
TGCh, a chodir 100 y cant o’r gost arnynt. Byddai angen gosod y trefniant hwnnw
yn ei le cyn cyfnod y Diddymiad. Gellir rhentu ffonau symudol a ffonau clyfar trwy gydol cyfnod y Diddymiad,
neu eu rhoi yn ôl. Bydd mynediad i Ystâd y Senedd yn ystod cyfnod y Diddymiad ar gyfer Aelodau
a'u staff yn cael ei gyfyngu i'r ardaloedd cyhoeddus, ac eithrio deiliaid
swyddi y mae eu cyfrifoldebau’n parhau, lle cânt fynediad at ddibenion eu
swyddogaethau fel deiliaid swyddi. Cytunodd y Comisiynwyr i ddarparu cefnogaeth all-leoli i'r Aelodau a'u
staff. Nododd y Comisiynwyr
bod disgwyliad i’r rheini sy’n rhoi’r gorau i fod yn Aelodau i anelu at ddirwyn
eu swyddfeydd i ben cyn pen chwe wythnos ar ôl diddymu'r Pumed Senedd. |
|
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cofnodion: Cymeradwyodd y
Comisiynwyr adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod
o 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020. |
|
Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar y fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol 2019-20
ar Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r adroddiad monitro data am y gweithlu ac
arferion recriwtio, a'r adroddiad ar gyflog cyfartal a’r bwlch cyflog rhwng y
rhywiau, ynghyd ag unrhyw gamau wrth symud i’r dyfodol. Mae’r adroddiadau hyn yn amlinellu’r cynnydd gan dimau ar draws Comisiwn y
Senedd wrth gyflawni ein hamcanion Amrywiaeth a Chynhwysiant a nodir yn y
Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant. Canolbwyntiodd trafodaethau’r
Comisiynwyr ar y data BAME, a’r gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi gwelliannau
pellach i ddenu ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a chefnogaeth
i’r rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu. Trafododd y
Comisiynwyr y cyflawniad diweddar o gyrraedd achrediad Platinwm Buddsoddwyr
Mewn Pobl, a diolchwyd i'r staff am yr holl waith oedd ynghlwm wrth hynny. |
|
Adroddiad Blynyddol ar Gydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol Cofnodion: Yn unol â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012,
bu'r Comisiynwyr yn ystyried adroddiad o'r gwaith a wnaed ar draws y sefydliad
yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, i alluogi'r Comisiwn i gynnal ei ymrwymiad i
ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol. Cymeradwyodd y
Comisiynwyr yr Adroddiad. |
|
Cynaliadwyedd - Adroddiad Blynyddol 2019-20 Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr i’r Adroddiad Blynyddol ar Gynaliadwyedd 2019-20
gael ei gyhoeddi. Amlygodd yr adroddiad
ar berfformiad cynaliadwyedd ystâd a gweithrediadau'r Senedd dros y flwyddyn
ddiwethaf gyflawniadau amgylcheddol allweddol o ran perfformiad yn erbyn
targedau, defnyddio cyfleustodau, ôl troed carbon y sefydliad a'r defnydd o
adnoddau cyfyngedig. At hynny, bu’r Comisiynwyr yn ystyried y gwelliannau a
wnaed i'r ystâd yn ogystal â'r dulliau gweithredu, a chytunwyd ar welliannau a
gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. |
|
Penodiadau i’r Bwrdd Taliadau Cofnodion: Caiff penodiadau i'r Bwrdd Taliadau eu gwneud gan y
Comisiwn. Cadarnhaodd y Comisiynwyr ddau benodiad newydd a dau ailbenodiad i'r
Bwrdd Cydnabyddiaeth annibynnol, ar y sail a nodwyd ym Mesur Cynulliad
Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010. Wrth wneud hynny fe wnaethant gadarnhau eu
bod yn fodlon nad oedd yr un o'r rhai a gynigiwyd i'w penodi wedi'u gwahardd
rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd. Bydd y penodiadau newydd yn dechrau ar 21 Medi
2020. Penododd y Comisiynwyr
Elizabeth Haywood yn Gadeirydd, a Hugh Widdis yn aelod o'r Bwrdd i lenwi swyddi
sydd ar fin bod yn wag, am dymor o bum mlynedd, ac ailbenodwyd Mike Redhouse
a'r Fonesig Jane Roberts yn aelodau o'r Bwrdd am ail dymor o bum mlynedd. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Senedd Y wybodaeth
ddiweddaraf, ar lafar Cofnodion: Diweddarwyd y
Comisiynwyr yn fras ynghylch rhoi newid enw’r Senedd ar waith, ac agor y broses
o gofrestru pleidleisiau i bobl ifanc. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau o ran y dogfennau awdurdodi recriwtio) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o’r
penderfyniadau recriwtio a fyddai ar gael ym mhob un o gyfarfodydd y Comisiwn. |
|
Cofnodion cyfarfod ACARAC ym mis Ebrill Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y diweddariad arferol ynghylch
cyfarfod ARAC. |
|
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr gais am wybodaeth gan y Pwyllgor
Cyllid ac, oherwydd prinder amser, cytunwyd i ddeiliad y portffolio ymateb ar
eu rhan, ac y byddai’n rhannu’n ymateb â’r Comisiynwyr hefyd. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Ers y cyfarfod diwethaf, mae’r Comisiynwyr wedi gwneud un
penderfyniad brys yn ymwneud ag ymestyn y cyfnod ar gyfer canslo gweithgareddau
ymgysylltu cyhoeddus wyneb yn wyneb. |