Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.a

Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Diweddarwyd y Comisiynwyr i’r perwyl fod disgwyl ymateb i'r cynnig gan reolwyr mewn perthynas â thaliad costau byw – a gynigiwyd i Ochr yr Undebau Llafur gyda chytundeb y Comisiynydd – ddydd Mawrth.

1.b

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

1.c

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2023

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 10 Gorffennaf.

1.d

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Awst 2023

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 15 Awst.

1.e

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 6 Medi 2023

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 6 Medi.

2.

Cyllideb Ddrafft 2024-25

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cyllideb Ddrafft 2024-25 i’r Comisiynwyr i’w chytuno. Amlygwyd y newidiadau i’r gyllideb ers cyfarfod y Comisiwn ar 6 Medi. Roedd y rhain yn cynnwys y gofyniad y gyllideb weithredol a chyfanswm gofyniad y gyllideb ar gyfer 2024-25, darpariaethau wedi'u neilltuo ar gyfer Diwygio'r Senedd a hefyd

Costau rhaglen Ffyrdd o Weithio, mân newid i’r gyllideb staffio sylfaenol, cyfuno taliad i’w wneud i staff cymorth a chynllun Pensiwn yr Aelodau.

Rhoddwyd diweddariad pellach gan gynnwys mewn perthynas â meysydd lle roedd yn hysbys y gellid disgwyl newid, ond lle na fyddai manylion ar gael o fewn terfynau amser y gofynion ar y Comisiwn i osod y gyllideb. Roedd y rhain yn cynnwys gwaith i'w wneud gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar daliadau i Staff Cymorth yr Aelodau/Aelodau o’r Senedd, a chyflogau staff cymorth. Cydnabuwyd y byddai'n rhaid mynd i'r afael â'r rhain, o bosibl drwy brosesau'r gyllideb atodol, unwaith y byddai'r manylion ar gael pe bai'r rhagdybiaethau cyllidebol yn annigonol.

Trafododd y Comisiynwyr arwyddocâd gorfod cydbwyso'r broses o ddarparu rhaglenni newid sylweddol ochr yn ochr â'r her i ddarparu'n briodol ar gyfer busnes fel arfer, a gofynnwyd am ragor o wybodaeth yn y cyfarfod nesaf i lywio ystyriaethau blaenoriaethu a phenderfyniadau polisi o ran cynhyrchu incwm.

At hynny, gofynnodd y Comisiynwyr am nodiadau byr i nodi dadansoddiad o Floc Cymru ac i ddarparu gwybodaeth am reoli contractau a oedd wedi arwain at arbedion costau, a drafodwyd mewn perthynas â llungopïwyr.

Gwnaeth y Comisiynwyr nodi Datganiad o Egwyddorion y Pwyllgor Cyllid (dim newid ers 2019) a’r llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

Cymeradwyodd y Comisiynwyr Gyllideb Ddrafft 2024-25 i’w gosod, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a drafodwyd.

3.

Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig drafft ar gyfer y cyfnod 2024-25 i 2026-27, a buont yn ystyried y berthynas rhwng y dull hwn o gynllunio mwy manwl yn y tymor hwy, a’r cylch gosod cyllideb blynyddol.

Trafododd y Comisiynwyr yr ymagwedd at y tymor canolig a'r fframwaith fel arf i gynllunio ar gyfer – a rheoli ac ymateb yn effeithiol i – unrhyw fwlch rhwng yr adnoddau sydd eu hangen, a'r adnoddau sydd ar gael mewn modd strategol. Byddai'r fframwaith yn nodi gofynion y gyllideb a ragwelir ar gyfer 2025-26 a 2026-27, wedi'u gosod ar sail 'senario twf a reolir' yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig; yn cynnig Sefydliad Targed y Comisiwn bob blwyddyn ariannol fel rhan o'r Cynllun Gweithlu, fel y prif ddull strategol ar gyfer alinio blaenoriaethau adnoddau ag argaeledd adnoddau; ac yn mabwysiadu strategaeth datblygu staff drwy'r Cynllun Gweithlu i sicrhau bod adnoddau pobl yn cyd-fynd â blaenoriaethau.

Nododd y Comisiynwyr y bwriadwyd i’r ddogfen fod yn ddogfen weithredol i lywio'r gwaith o bennu cyllideb flynyddol y Comisiwn, a'i flaenoriaethau mewnol. Buont yn myfyrio ar y berthynas ag ymarfer arbed costau'r flwyddyn gyfredol, a gofyn am gynnal iteriad pellach o waith er mwyn nodi meysydd i'w trafod gan y Comisiwn yn ei gyfarfod nesaf mewn perthynas â blaenoriaethu darpariaeth gwasanaeth, arbed costau a chynhyrchu incwm.

Trafododd y Comisiynwyr lesiant staff a'r offer sydd ar gael i gefnogi hyn. Gwnaethant groesawu gwybodaeth am y ddarpariaeth newydd o ran y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, a oedd ar fin cychwyn ar gyfer staff y Comisiwn, yr Aelodau a'u staff. Buont hefyd yn ystyried nifer o fanylion penodol, a gofyn am nodyn ynghylch teleffoni, a threfniadau ar gyfer cael gwared ar offer TGCh.

Nododd y Comisiynwyr grynodeb gweithredol y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig, ar sail y gwaith pellach sydd i'w wneud.

4.

Diwygio'r Senedd (diweddariad ar lafar)

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad llafar i’r Comisiynwyr yn dilyn cyflwyno Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Fe'u hysbyswyd bod darpariaethau'r Bil wedi bod yn unol â'r disgwyl i raddau helaeth, yn cyd-fynd yn fras ag argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig a/neu'r Pwyllgor Busnes, er bod rhai darpariaethau wedi'u cynnwys nad oedd Swyddogion wedi bod yn ymwybodol ohonynt o'r blaen (e.e. dyletswydd a osodwyd. ar y Llywydd mewn perthynas ag adolygiad o rannu swyddi ar ddechrau’r Seithfed Senedd).

 

Roedd y darpariaethau’n cynnwys cynyddu maint y Senedd i 96 Aelod; cynyddu’r terfyn deddfwriaethol ar Weinidogion Llywodraeth Cymru; cynyddu uchafswm nifer y Dirprwy Lywyddion y caniateir eu hethol o’r tu mewn i’r Senedd i ddau; newid system etholiadol y Senedd fel bod pob Aelod yn cael ei ethol drwy system rhestr gyfrannol gaeedig, gyda phleidleisiau'n cael eu trosi'n seddi drwy fformiwla D'Hondt; ac ailbwrpasu ac ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gan gynnwys rhoi iddo'r swyddogaethau angenrheidiol i sefydlu etholaethau newydd yn y Senedd, ac i gynnal adolygiadau parhaus o ffiniau etholaethau'r Senedd.

 

Hysbyswyd y Comisiynwyr bod darpariaethau ychwanegol yn cynnwys y canlynol: 

·         Dychwelyd i’r amser arferol rhwng etholiadau cyffredinol arferol y Senedd, sef pedair blynedd;

·         ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr i’r Senedd ac Aelodau o’r Senedd fod yn preswylio yng Nghymru;

·         adolygiad o weithrediad ac effaith y darpariaethau deddfwriaethol newydd yn dilyn etholiadau 2026 a 2030; a

·         mecanwaith ar gyfer ystyriaeth y Senedd o rannu swyddi sy'n ymwneud â'r Senedd, yn y Seithfed Senedd.

O fewn yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil byddai'r Comisiwn yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid ar 11 Hydref ac i Bwyllgor y Bil Diwygio ar 26 Hydref.

5.

Ffyrdd o Weithio – Datblygiad Dylunio Prosiect Siambr 26

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i’r Comisiynwyr am y prosiect a’r gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu’r opsiwn a’r dyluniad a ffefrir ar gyfer Siambr gynyddol ar gyfer 96 Aelod, ar gyfer y Seithfed Senedd.

Cytunwyd ar y weledigaeth lefel uchel a’r cwmpas ar gyfer y prosiect, i alluogi’r gwaith o gaffael gwasanaethau dylunio a phensaernïol i ddechrau ym mis Hydref, ar y sail y dylai gwaith archwilio ystyried yn eang y posibiliadau o fewn ffiniau senedd gylchol, a bod gofynion o ran hygyrchedd i'w cynnwys yn y fanyleb, ac y dylai tendrau ar gyfer gwasanaethau dylunio a phensaernïol fynd y tu hwnt i faterion hygyrchedd ffisegol.

Nododd y Comisiynwyr y gwaith arfaethedig ar gyfer y prosiect, a chroesawyd y ffaith y byddai grŵp cyfeirio o Aelodau yn cymryd rhan yn yr hyn a fyddai’n broses ailadroddol, a fyddai’n dychwelyd i’r Comisiwn ar gyfer penderfyniadau, ar yr adeg briodol.

6.

Adolygiad o’r Polisi Defnydd o'r Ystâd

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i'r Comisiynwyr am y materion a godwyd drwy'r ymarfer ymgynghori ar y defnydd o'r ystâd; a gwnaethant nodi crynodeb byr o’r cynnydd a wnaed eisoes gan Dîm Digwyddiadau a Lleoliadau’r Senedd o ran adolygu sawl agwedd ar y broses sy’n gysylltiedig â defnyddio’r ystâd. Byddai papur pellach yn cael ei ddarparu yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn amlinellu atebion posibl i rai o'r materion a godwyd.

7.

Papurau i'w nodi:

7.a

Diweddariad ar Faterion Cynllunio

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y ceisiadau cynllunio diweddar a adolygwyd a'r ymgysylltiad cynhyrchiol â datblygwyr a swyddogion Cynllunio; a'r Ymgynghoriad a gynlluniwyd yn ystod yr haf a'r hydref 2023 gan yr Awdurdod Lleol mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer Bae Caerdydd.

7.b

Llythyr oddi wrth y Prif Weinidog at y Llywydd ynglŷn â: Costau Diwygio'r Senedd

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y llythyr a gafwyd oddi wrth y Prif Weinidog yn ymwneud ag amcangyfrifon costau ar gyfer Diwygio’r Senedd.

7.c

Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) dyddiedig 12 Mehefin

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad a ddarperir fel mater o drefn i’r Comisiwn am gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.

7.d

Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn.

8.

Unrhyw fusnes arall

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater arall.

 

Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf, roedd y Comisiwn, drwy fwyafrif, wedi cefnogi’r cynnig rheoli mewn perthynas â thaliad costau byw, a gafodd ei gynnig, wedyn, i Ochr yr Undebau Llafur.