Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AC.

 

1.2

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

1.3

Cofnodion o’r cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Ionawr.

2.

Ein hanghenion o ran adeiladau yn y dyfodol

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr ddiweddariad am y trafodaethau parhaus ynghylch diwallu anghenion y Cynulliad a’r Comisiwn o ran adeiladau yn y dyfodol.

3.

Costau cysylltiedig â Swyddfa’r Aelodau a gyllidir yn ganolog gan Gomisiwn y Cynulliad

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y costau, heblaw’r rhai a ddarperir gan y Penderfyniad, y mae’r Aelodau yn mynd iddynt wrth redeg eu swyddfeydd.

 

Cytunwyd ar gynigion i adolygu’r ffordd y caiff cyllidebau cysylltiedig â swyddfa eu rheoli dros y tymor byr a’r tymor hir gyda’r bwriad o sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd y gwariant ychwanegol hwn yn ymwneud â Swyddfeydd Aelodau.

 

Cytunodd y Comisiynwyr hefyd ar ymgynghori â’r Aelodau ynghylch cyflwyno camau interim tuag at y dull gweithredu hwn.

4.

Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar Lobïo - ymateb

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr argymhellion y Pwyllgor Safonau Ymddygiad mewn perthynas â’i ymchwiliad i’r trefniadau ar gyfer tryloywder ynghylch lobïo.

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar ymatebion i’r pedwar argymhelliad, er mwyn ymateb i’r Pwyllgor Safonau.

5.

Gwaith craffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyfrifon 2016-17 - ymateb

Cofnodion:

Cafodd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf am waith craffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyfrifon 2016-17, yn enwedig y ddau argymhelliad yn ei adroddiad terfynol yn ymwneud â’r Comisiwn.

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

6.

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb y Comisiwn 2018-19 - ymateb

Cofnodion:

Wedi rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor Cyllid eisoes, trafododd y Comisiynwyr weddill yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor yn ei adroddiad ar Gyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2018-19, yn ymwneud ag adeiladau a’r Adolygiad Capasiti.

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid.

7.

Dirprwyo o ran cyfrifoldebau gweithredol

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr i ddirprwyo’r cyfrifoldeb gweithredol a nodwyd i’r Prif Weithredwr.

8.

Prisiad actiwaraidd Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad

Cofnodion:

Gofynnwyd i’r Comisiynwyr roi eu barn ynghylch a ddylid mabwysiadu rhagamcanion poblogaeth diweddaraf Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2016 i’w defnyddio ym mhrisiad y Cynllun Pensiwn Aelodau. Cytunwyd y dylid.

9.

Adroddiad ar ddyfarnu contractau - rheoli cyfleusterau

Cofnodion:

Ymgynghorodd y Prif Weithredwr a’r Clerc â’r Comisiynwyr, yn unol â’r Dirprwyo, ar ddyfarnu’r contract ar gyfer Rheoli Cyfleusterau.

 

Gwerth elfen gwasanaethau’r contract yw ychydig o dan £2.5 miliwn am bedair blynedd y contract. Fodd bynnag, mae’r contract hwn hefyd yn gyfrwng ar gyfer gweithgarwch cynnal a chadw a phrosiectau gwella ar yr ystâd. Felly, gallai cyfanswm gwerth y contract godi uwchlaw’r trothwy sy’n golygu bod angen cynnal yr ymgynghoriad hwn.

 

Nododd y Comisiynwyr ganlyniad y broses ar gyfer gwerthuso tendro a chymeradwyodd ddyfarnu’r contract.

10.

Papurau i’w nodi:

10.1

Y wybodaeth ddiweddaraf am Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg y Cynulliad (ACARAC)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod ACARAC a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2018.  

10.2

Diweddariad y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr ddiweddariad mis Chwefror gan y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau.

11.

Unrhyw fater arall

Wedi'i nodi ar hyn o bryd:

·         Adolygiad Capasiti - cynlluniau o ran cyfathrebu, a rhagair

·         Cynghorwyr Annibynnol y Comisiwn [nodi cychwynnol]

·         Strategaeth y Comisiwn 2020/21 – diwrnod cwrdd i ffwrdd [y posibilrwydd o gynnal diwrnod o’r fath]

 

Cofnodion:

Adolygiad Capasiti - Cytunodd y Comisiynwyr ar ragair eu hadroddiad.

 

Cynnig ynghylch Dippy - Cytunodd y Comisiwn i ffurfioli’r cynnig i drosglwyddo arddangosfa Dippy i safle Parc Cathays yr Amgueddfa Genedlaethol, yn dilyn trafodaethau ag Amgueddfa Bud Natur a chyfarwyddwr cyffredinol Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

 

 

Ystyriwyd y materion canlynol, a’u cytuno, drwy ohebiaeth yn y cyfnod cyn y cyfarfod hwn:

              Adroddiad terfynol yr adolygiad capasiti

              Cytundeb dangosol ynghylch cyfeiriad y polisi Urddas a Pharch