Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd Gynghorwyr Annibynnol newydd y Comisiwn, a fu'n bresennol am ran o'r cyfarfod, a Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes newydd y Cynulliad.

Diolchodd y Llywydd i'r ddau Gomisiynydd newydd am ymgymryd â phortffolios eu rhagflaenwyr, ac fe'u croesawyd i'w cyfarfod Comisiwn ffurfiol cyntaf.

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

1.2

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd Datganiadau o Fuddiant.

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd.

 

2.

Strategaeth y Gyllideb a Chyllideb y Comisiwn 2020-21

Cofnodion:

Dechreuodd y Comisiynwyr drafodaethau cychwynnol ynghylch eu dull gweithredu ar gyfer strategaeth y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21.

 

Trafododd y Comisiynwyr gynigion ar gyfer strategaeth y gyllideb a gofyniad y gyllideb gyffredinol ar gyfer 2020-21 a'r ddwy flynedd ganlynol. Yn benodol, roedd y drafodaeth hon yn canolbwyntio ar flaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer blwyddyn olaf y Cynulliad hwn. Nododd y Comisiynwyr y byddai angen trafodaeth bellach ar y cynnydd yng Nghyfraniadau Pensiwn y Cyflogwr i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.

 

Cytunwyd hefyd ar ymateb i gais y Pwyllgor Cyllid am farn ar ganllawiau cyllidebol.

 

Bydd cyllideb '20 -21 y Comisiwn yn cael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog ym mis Medi.

 

3.

Gwelliannau o ran Diogelwch Amddiffynnol

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr gynigion i wneud gwelliannau i'r diogelwch amddiffynnol mewn mannau mynediad cyhoeddus.

 

Y cynnig yw gwella diogelwch yr ystâd trwy ddarparu lefel briodol o ddiogelwch ac oedi ar y prif fynedfeydd cyhoeddus. Byddai'r cynigion yn addasu’r ddwy fynedfa.

 

Cytunodd y Comisiynwyr i ofyn am farn eu grwpiau ar y newidiadau posibl.

 

Cytunodd y Comisiynwyr na ddylid cyhoeddi'r papur.

 

4.

Paratoadau Comisiwn y Cynulliad ar gyfer gadael yr UE

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr bapur yn adrodd ar y cynnydd o ran ymdrin ag effaith gadael yr UE ar y Cynulliad. Roedd yn amlinellu’r gwaith sy’n cael ei wneud i asesu'r goblygiadau a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gweithgarwch y Cynulliad sy’n gysylltiedig â gadael yr UE. Roedd hefyd yn rhoi asesiad o'r goblygiadau i'n gwasanaethau corfforaethol a pha mor barod ydynt yn y maes hwn.

 

Gofynnodd y Comisiynwyr sut y mae agweddau penodol ar weithrediad y Comisiwn, er enghraifft gofynion Iechyd a Diogelwch, yn cael eu monitro o ran goblygiadau. Nodwyd y papur.

 

5.

Diwygio etholiadol – y wybodaeth ddiweddaraf

Cofnodion:

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y gwaith ar raglen ddiwygio'r Cynulliad, gan ganolbwyntio’n benodol ar faterion polisi sy'n ymwneud â Bil y Senedd ac Etholiadau (Cymru).

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar y dull o ddeddfu ar drefniadau ariannol ac atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol, gan nodi ei fod yn destun barn Pwyllgor(au) a'r Cynulliad yng Nghyfnod 1.

 

Trafodwyd datblygiadau pellach yng nghynnwys arfaethedig y Bil, a thrafodwyd a nodwyd ffordd ymlaen y Llywydd, i gwblhau'r Bil cyn ei gyflwyno.

 

Nododd y Comisiynwyr hefyd yr amserlen ar gyfer cyflwyno a chraffu ar y Bil a'r mater yn ymwneud â chymhwysedd; yr asesiad ariannol wedi'i ddiweddaru o'r Bil a'u rolau a’u cyfrifoldebau cytunedig mewn perthynas â rhaglen ddiwygio'r Cynulliad ac yn arbennig y cyfnod craffu ar gyfer Bil y Senedd ac Etholiadau (Cymru).

 

6.

Cynulliad Dinasyddion

Cofnodion:

Roedd y Comisiynwyr yn gefnogol i’r cynigion o sefydlu Cynulliad Dinasyddion sy'n gynrychioliadol yn ddemograffig fel rhan o raglen i nodi ugeinfed pen-blwydd y Cynulliad.

 

Cytunodd y Comisiynwyr i ofyn am farn eu grwpiau yr wythnos hon ar gynigion i gynnal Cynulliad Dinasyddion dros ddau ddiwrnod ym mis Mehefin/Gorffennaf 2019.

 

Byddai'r ffocws ar ddau brif fater:

          y prif heriau sy'n wynebu Cymru yn ystod yr ugain mlynedd nesaf; a

          sut y gall democratiaeth Cymru, a'r Cynulliad yn benodol, ymateb yn well i'r heriau hynny h.y. gwella democratiaeth Cymru.

 

Cytunodd y Comisiynwyr fod swyddogion yn mynd ar drywydd sefydlu Cynulliad Dinasyddion yn ystod haf 2019, yn amodol ar yr adborth gan grwpiau.

 

7.

Polisi ar gyfer darparu henebion, cofebion a phlaciau

Cofnodion:

Roedd y Comisiynwyr wedi gofyn am ddrafftio polisi yn ymwneud â gosod cofebion ar ystâd y Cynulliad. Trafodwyd proses lle byddai'r Comisiwn yn trafod cynigion ac yn gwneud penderfyniadau, a thrafodwyd canllawiau cysylltiedig i gynigwyr hefyd.

 

Gofynnodd y Comisiynwyr am addasiadau i'r polisi drafft, ac am iddo gael ei ddosbarthu er mwyn iddynt gytuno arno.   

 

8.

Papurau i’w nodi:

8.1

Ymgysylltiad rhyngwladol - adroddiad cynnydd

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr ddiweddariad i gyflwyno'r gwaith a nodir yn y Fframwaith ar gyfer Ymgysylltiad Rhyngwladol y Cynulliad yn ystod y Pumed Cynulliad. Codwyd y potensial i weithio'n agosach gyda Chwnsleriaid Anrhydeddus.

 

8.2

Pwyllgor Cynghori Comisiwn y Cynulliad ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu (REWAC) - Cylch Gorchwyl

Cofnodion:

Darparwyd i'r Aelodau ddiweddariad o gylch gorchwyl y Pwyllgor Taliadau, gan ehangu ei ffocws o'r hyn yr oedd yn canolbwyntio arno'n flaenorol. Nodwyd hyn. Roedd hyn yn adlewyrchu awydd i wneud defnydd da o'r ystod arbenigedd a ddaw gan y Cynghorwyr Annibynnol newydd. Nodwyd penodiad Cadeiryddion REWAC ac ACARAC:

·         Cadeirydd ACARAC - Bob Evans

·         Cadeirydd REWAC - Sarah Pinch

 

8.3

Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nodwyd y diweddariad arferol.

 

8.4

Cofnodion cyfarfod ACARAC ym mis Tachwedd

Cofnodion:

Nodwyd cofnodion y cyfarfod ACARAC.

 

9.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Gwnaed y Comisiynwyr yn ymwybodol fod argymhellion wedi'u gwneud gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a'r Pwyllgor Safonau iddynt eu hystyried - ac y byddai ymatebion drafft yn cael eu dosbarthu iddynt eu hystyried cyn bo hir.

 

Yn y cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cefnogi cynnig i enwebu Bob Evans fel un o gynrychiolwyr y Comisiwn Pensiynau ACau, a phenodiad Cyfarwyddwr Newydd Busnes y Cynulliad.