Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau gan aelodau'r Comisiwn.

Roedd Eric Gregory wedi ymddiheuro nad oedd yn gallu dod i'r cyfarfod yn ôl y bwriad.

 

1.2

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Nid oedd buddiannau i’w datgan.

 

1.3

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

2.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid a'r Dathliadau Ugain Mlynedd

Cofnodion:

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid

 

Clywodd y Comisiynwyr am ddigwyddiad llawn cyntaf y Senedd Ieuenctid, a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol.

Dywedodd y Llywydd y bu’n brofiad cynhyrfus ac roedd yn canmol pawb a fu ynghlwm wrth y digwyddiad a’r holl waith paratoi. 

Gellir gweld cyfarfod y Senedd Ieuenctid yma:http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/79aa22a2-0253-4a7e-badb-3baf239e5ff3?autostart=True

 

Trefniadau i nodi’r ffaith bod ugain mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol

 

Cafodd y Comisiynwyr wybod am y trefniadau i nodi’r ffaith bod ugain mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y dathliadau’n dechrau ar ddyddiad yr etholiad cyntaf, sef 6 Mai.

Cytunodd y Comisiynwyr fod hyn yn gyfle unigryw i feithrin cysylltiadau â phobl Cymru. Trafodwyd  cyfleoedd i gynnwys Aelodau’r Cynulliad yn y gweithgareddau ac i roi cyfle iddynt arwain digwyddiadau yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau eu hunain, gan danlinellu ei bod yn arbennig o bwysig estyn allan i gymunedau difreintiedig nad ydynt yn ymwneud fawr ddim â’r broses wleidyddol.

Trafododd y Comisiynwyr ei bod yn bwysig i Aelodau'r Cynulliad  ymrwymo i gymryd rhan yn y mathau hyn o weithgareddau, naill ei fel unigolion neu fel rhan o bwyllgorau, gan ddysgu o brofiadau Senedd@.

Cafwyd trafodaeth fanwl ynghylch y posibilrwydd o gynnal Cynulliad Dinasyddion a'r posibilrwydd y gallai hyn ysgogi pobl i feddwl sut y byddent yn gallu cyfrannu at waith y Cynulliad yn y dyfodol.  Roedd gwahanol fodelau ar gael, ac roedd y cynnig yn ffafrio gofyn i gwmni arbenigol recriwtio cyfranogwyr ar sail demograffeg gytbwys.

3.

Capasiti adnoddau'r Cynulliad

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y sefyllfa ddiweddaraf o ran adnoddau staffio. Yn benodol, cafwyd trafodaeth am y risg a oedd yn wynebu’r sefydliad os na fydd digon o staff i ddiwallu anghenion, a nodwyd yn flaenorol fel pwysau posibl, yn ymwneud â gwaith Brexit.

 

Cytunodd y Comisiwn i awdurdodi swyddogion i drafod a datblygu cynllun busnes ar gyfer cynyddu nifer y staff fel bod deg mwy na’r uchafswm presennol, a hynny drwy gadw o fewn y gyllideb bresennol. Byddai angen trafod hyn ymhellach gyda'r Comisiwn a'r Pwyllgor Cyllid.

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Cynulliad

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Llywydd wybodaeth i'r Comisiynwyr am y datblygiadau diweddaraf ers cyflwyno Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ar 12 Chwefror. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno ar yr amserlen ar gyfer y Bil, gan gynnwys cwblhau cyfnod 1 cyn toriad yr haf a chwblhau’r cyfnod diwygio dros dymor yr hydref. Byddai'r Llywydd yn rhoi tystiolaeth i bwyllgorau fel rhan o'u gwaith craffu deddfwriaethol - i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 11 Mawrth ac i'r Pwyllgor Cyllid ar 4 Ebrill.

 

Gofynnodd y Llywydd i'r Comisiynwyr i fod yn rhagweithiol a rhoi gwybod am unrhyw bryderon sy’n codi neu sy’n cael eu trafod mewn fforymau eraill mewn perthynas â’r Bil wrth i’r broses ddeddfwriaethol fynd rhagddi.

5.

Papurau i’w nodi:

5.1

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf a gaiff ei chyflwyno’n rheolaidd ym mhob un o gyfarfodydd y Comisiwn.

 

6.

Unrhyw Fater Arall

·         Llythyr gan Joyce Watson

Cofnodion:

·         Isafswm cyflog - soniodd Joyce Watson am y setliad cyflog a gafodd staff y Comisiwn yn ddiweddar, gan ei groesawu fel cytundeb cadarnhaol. Fodd bynnag, roedd yn teimlo y dylai isafswm cyflog staff sy'n gweithio yma dan gontract gyfateb i’n hisafswm cyflog ni. Roedd y comisiynwyr yn gefnogol o ran egwyddor a gofynnwyd am ragor o wybodaeth er mwyn medru penderfynu ar y mater mewn cyfarfod arall.

 

·         Tribiwnlys - Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am Dribiwnlys Cyflogaeth a oedd yn mynd rhagddo.

 

 

Yn ystod y cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cwblhau eu Polisi ar gyfer darparu henebion, cofebion a phlaciau, a chytunwyd ar Ymatebion i argymhellion y Pwyllgor Safonau a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.