Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

1.2

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

1.3

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion 4 Mawrth yn gofnod cywir.

 

2.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Urddas a Pharch

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Creu'r Diwylliant Cywir'. 

Nododd y Comisiynwyr hefyd y bydd yr Arolwg Urddas a Pharch blynyddol nesaf yn cael ei anfon at Aelodau'r Cynulliad, eu staff a staff y Comisiwn ar ôl toriad y Pasg.       

Trafododd y Comisiynwyr sut yr oeddent am ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Safonau i ganiatáu i bobl roi gwybod am ddigwyddiadau’n ddienw.  Cytunwyd y byddent yn ailystyried y mater yn dilyn yr arolwg Urddas a Pharch sydd ar y gweill.

Trafodwyd hefyd ganlyniadau'r ymarfer ‘siopa dirgel’ a gynhaliwyd ddiwedd 2018, a nodwyd y wybodaeth a ddaeth i law.

Cytunodd y Comisiynwyr i ymateb i'r Pwyllgor yn nodi'r penderfyniad i ailystyried yr argymhelliad i ganiatáu i bobl roi gwybod am ddigwyddiadau’n ddienw, a rhannu'r tabl diweddaru a'r adroddiad ar yr ymarfer siopa dirgel, gan ddisgwyl y bydd yr ymateb hwn yn cael ei gyhoeddi.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio’r Cynulliad

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am hynt y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).  Tynnodd y Llywydd sylw at sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y bu’n bresennol ynddi, a soniodd wrth y Comisiynwyr am y trafodaethau sy’n mynd rhagddynt mewn perthynas â chydweithio â Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth am addysg dinasyddiaeth.  Trafododd y Comisiynwyr y wybodaeth gan nodi bod trafodaethau'n mynd rhagddynt yng Nghyfnod 2 ynglŷn â'r dull o ariannu’r Comisiwn Etholiadol a’i atebolrwydd.

 

4.

Cyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad

Cofnodion:

Cyflwynwyd papur i'r Comisiynwyr yn egluro sut y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau pensiwn y cyflogwr, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2019, yn effeithio ar Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. 

Cadarnhaodd y papur fod gwybodaeth wedi dod i law gan Swyddfa'r Cabinet yn nodi y bydd cyfraniadau pensiwn y cyflogwr i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn codi o 21 y cant i 28 y cant ar gyfartaledd. 

Nododd y Comisiynwyr y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.  Trafodwyd yr angen i baratoi cyllideb atodol i ddiwallu'r angen hwn a chytunwyd ar y cam o gyflwyno Memorandwm Esboniadol a fydd yn sicrhau cynnydd o £0.965 miliwn yn y gyllideb staffio (cyfraniadau pensiwn).

Nododd y Comisiynwyr y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan gytuno ar ei gynnwys.

Bydd y Memorandwm Esboniadol (Cyllideb Atodol) yn cael ei osod yn unol â'r Rheolau Sefydlog yn ystod mis Mai/Mehefin 2019.

 

5.

Dangosyddion Perfformiad Corfforaethol

Cofnodion:

Roedd y Comisiynwyr wedi cytuno i ystyried set newydd o ddangosyddion perfformiad corfforaethol. 

Mae'r Dangosyddion Perfformiad newydd yn parhau i gyd-fynd â nodau a blaenoriaethau'r Comisiwn, ond maent yn awr yn cynnwys dwy set o ddangosyddion byrrach a mwy penodol.  Cytunodd y Comisiynwyr ar: 

a.    Set o fesurau strategol o berfformiad corfforaethol cyffredinol; a

b.    Set o fesurau sy'n 'ymestyn' y sefydliad i ddatblygu perfformiad mewn meysydd y gellid eu gwella.

Trafododd y Comisiynwyr natur y targedau ymestynnol, gan groesawu eu datblygiad.  Gofynnwyd am naratif disgrifiadol ynghylch yr agweddau hynny ar y dangosyddion sy’n ymwneud â chaffael, iaith ac ymgysylltu. 

Bydd y dangosyddion newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd (2019-20).

Cytunodd y Comisiynwyr y bydd gwybodaeth yn ymwneud â’r ddwy set o ddangosyddion yn cael ei chynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol, yn hytrach nag mewn adroddiad perfformiad ar wahân.

 

 

6.

Y wybodaeth ddiweddaraf am gapasiti o ran adnoddau'r Comisiwn

Cofnodion:

Yn eu cyfarfod diwethaf, trafododd y Comisiynwyr gynigion i lacio’r cap presennol o  491 o swyddi, er mwyn sicrhau adnoddau ychwanegol, a hynny’n bennaf i fynd i'r afael â heriau Brexit.  Roeddent wedi gofyn am ragor o fanylion am y swyddi ychwanegol disgwyliedig.

Cytunodd y Comisiynwyr i ganiatáu'r cam o gynyddu'r gweithlu mewn modd cymedrol a rheoledig, sef creu hyd at 10 swydd newydd uwchlaw'r 491 presennol, gan ddechrau gyda'r chwe swydd y cyflwynwyd cais amdanynt eisoes.

Cytunodd y Comisiynwyr y dylid hysbysu'r Pwyllgor Cyllid.

 

7.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Ymadael Gwirfoddol

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Ymadael Gwirfoddol, a chadarnhawyd y byddai 25 aelod o staff yn gadael o ganlyniad i’r cynllun.

 

8.

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon 2017-18

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr wybod am waith craffu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC) mewn perthynas â Chyfrifon 2017-18.  Roedd y Pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad ar y broses flynyddol o graffu ar y cyfrifon ac adroddiadau blynyddol amrywiaeth o sefydliadau sy’n cael eu hariannu o’r pwrs cyhoeddus. 

Mae'r adroddiad terfynol yn cynnwys 40 o argymhellion, ac mae naw ohonynt yn ymwneud â'r Comisiwn.  Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad, a chytunwyd y byddai'r Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu yn drafftio ymateb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Caiff y Comisiynwyr weld copi o’r ymateb cyn y caiff ei anfon at y Pwyllgor.

 

9.

Papurau i’w nodi:

9.1

Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i nodi 20 mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf ar roddwyd iddynt am y trefniadau i nodi ugain mlynedd ers sefydlu'r Cynulliad. Cytunwyd y byddent yn cael diweddariad pellach am ddigwyddiadau'r hydref cyn toriad yr haf, a chynigiodd y Comisiynwyr eu cefnogaeth i'r broses o ddarparu trefniadau.

 

9.2

Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg (ACARAC) – y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Chwefror

Cofnodion:

Yn ôl yr arfer, nododd y Comisiynwyr gofnodion y cyfarfod ACARAC a gyflwynwyd. Fel y deiliad portffolio sy'n mynychu cyfarfodydd ACARAC, roedd Suzy Davies yn dymuno atgoffa’r aelodau eu bod yn Rheolwyr Data yng nghyd-destun GDPR, a bod hyfforddiant ar gael i’w cynorthwyo yn y cyswllt hwn.

 

9.3

Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau’r Ddogfen Awdurdodi Recriwtio (RAD))

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf a gyflwynir yn rheolaidd ym mhob un o gyfarfodydd y Comisiwn.     

 

10.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

·         Bwriad i recriwtio Cyfarwyddwr

Er mwyn cyflawni gofyniad Dirprwyaeth y Comisiwn, ymgynghorodd Manon â'r Comisiwn ynghylch ei bwriad i benodi Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, a hynny er mwyn llenwi'r swydd wag a fydd yn codi maes o law. Nododd hefyd y byddai trefniadau dros dro yn cael eu gwneud i ddarparu'r math o gymorth a ddarperir ar hyn o bryd gan y Prif Gynghorydd Cyfreithiol, sy'n ymadael, gan ychwanegu y byddai'r gydnabyddiaeth ariannol a'r telerau ac amodau o dan y trefniant dros dro yn wahanol i'r trefniadau ar gyfer deiliad presennol y swydd.

·         Sgam ffôn

Clywodd y Comisiynwyr am sgâm dros y ffôn sy'n defnyddio rhai o rifau ffôn y Cynulliad.  Gofynnwyd i’r aelodau gysylltu â'u rheolwr Cyfrif TGCh os ydynt yn cael galwadau ymwneud â’r sgâm.

·         Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Roedd y Pwyllgor Cyllid wedi ysgrifennu at y Comisiwn yn gofyn iddo roi tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

Cytunodd y Comisiynwyr i'r Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros Gyllideb a Llywodraethu ymateb ar eu rhan.