Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawyd Bob Evans, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad, i'r cyfarfod.

Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies.

 

1.2

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mehefin.

 

2.

Adroddiad blynyddol ACARAC

Cofnodion:

Cyflwynodd Bob Evans Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad i'r Comisiynwyr. Tynnodd sylw at nifer o agweddau ar y gwaith y canolbwyntiodd y Pwyllgor arno yn ystod y flwyddyn flaenorol, a nododd y casgliad bod trefniadau llywodraethu'r Comisiwn yn rhai cryf, cadarn a dibynadwy.  

 

Soniodd am gwblhau Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn, gan roi sicrwydd ynglŷn â'i barodrwydd.  Gan edrych ymlaen, soniodd fod y cyfnod i ddod yn debygol o barhau i fod yn heriol, ac y byddai'n werthfawr cadw hyblygrwydd ac ystwythder staff y Comisiwn.

 

Nododd y Pwyllgor adroddiad blynyddol ACARAC.

 

3.

Adroddiad blynyddol a chyfrifon

Copi caled yn unig

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019.

 

Gwnaethant nodi un mater a oedd wedi codi ers eu trafodion blaenorol, yn ymwneud â dyfarniad diweddar iawn yn y Goruchaf Lys a oedd wedi effeithio ar rwymedigaethau Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad yng nghyfrifon y Comisiwn.

 

Byddai'r adroddiad yn cael ei gymeradwyo gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'i osod cyn diwedd tymor yr haf.

 

4.

Staff contract

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr wybodaeth ynghylch yr isafswm cyflog fesul awr ar gyfer staff contract, a delir ar gyfradd gyfredol y Living Wage Foundation.

 

Gwnaethant gytuno mewn egwyddor i gysylltu isafswm cyfradd cyflog contractwyr â chyfraddau staff a gyflogir yn uniongyrchol, a gofynnwyd am i'r goblygiadau i'r gyllideb gael eu harchwilio, fel y gellid eu cynnwys yn y trafodaethau parhaus o strategaeth y gyllideb.

 

5.

Diwygio'r Cynulliad - y wybodaeth ddiweddaraf

A.    Bil Senedd ac Etholiadau Cymru: Cyllido ac Atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol  

B.    Bil Senedd ac Etholiadau Cymru: Gwelliannau

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr ddwy brif thema parthed diwygio'r Cynulliad. Yn gyntaf, trafodwyd materion ynghylch ariannu'r Comisiwn Etholiadol a'i atebolrwydd yng nghyd-destun Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed hyd yma ac, wedi trafod y mater, cytunasant i barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i fireinio'r polisi a'r cynigion deddfwriaethol. 

 

Yn ail, trafododd y Comisiynwyr argymhellion gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Cyllid, a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau mewn perthynas a Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Trafodwyd yr ymatebion i'r argymhellion, a chytunwyd i drafod ymhellach y posibiliad o anghymwyso Staff y Comisiwn rhag ymgeisio mewn etholiad.

 

6.

Adroddiad blynyddol drafft ar Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar y gyfres o adroddiadau sy'n ymdrin â gweithgareddau amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019. Fe wnaethant gefnogi'r cynnig i gyhoeddi'r adroddiad monitro ar ddata am y gweithlu a'r amrywiaeth o ran recriwtio ac adroddiad ar archwiliad cyflog cyfartal a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fel adroddiadau ar wahân er mwyn gwella tryloywder.

 

Croesawodd y Comisiynwyr y ffaith y byddai'r Comisiwn yn un o'r sefydliadau sector cyhoeddus cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi rhywfaint o'r data. 

 

7.

Diweddariad ar Urddas a Pharch

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau'r arolwg Urddas a Pharch a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Fe wnaethant drafod y duedd gadarnhaol ac roeddent yn gefnogol i'r cynlluniau i lansio ymgyrch 'hawl i herio', gan gytuno i roi eu cefnogaeth bersonol. Trafodwyd pwysigrwydd rhoi hyder i bobl ar bob lefel ddeall lle mae ymddygiadau yn amhriodol.

 

8.

Cynnig am gofeb

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar gynnig gan Mick Antoniw AC am gofeb i'r Capten Archibald Dickson.

 

9.

Papurau i’w nodi:

9.1

Y wybodaeth ddiweddaraf am yr ugainmlwyddiant

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr ddiweddariad pellach ar gynlluniau i nodi ugainmlwyddiant datganoli yng Nghymru, rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2019.

 

9.2

Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y diweddariad arferol am benderfyniadau RAD diweddar.

 

9.3

Cofnodion drafft o gyfarfod ACARAC ym mis Mehefin

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod ACARAC a gyflwynwyd yn ôl yr arfer.

 

10.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

·         Penodiadau – wedi ymgynghori â hwy ym mis Ebrill, cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y broses i benodi ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu.

·         Cyfeiriodd Joyce Watson at yr ohebiaeth a gafodd gan David Emery. Nododd y Comisiynwyr eu bod yn fodlon i'r trefniadau cyfredol aros yn ddigyfnewid.

Yn y cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, cytunodd y Comisiynwyr ar newidiadau i'r Cod Ymddygiad i Ymwelwyr.