Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd
ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn. Croesawyd Arwyn Jones,
y Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, i'w gyfarfod cyntaf. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Nid oedd buddiannau
i'w datgan. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf. |
|
Cyllideb Ddrafft y Comisiwn 20-21 Cofnodion: Trafododd y
Comisiynwyr eu cyllideb ddrafft arfaethedig ar gyfer 2020-21 ymhellach wrth
baratoi ar gyfer ei gosod ar 1 Hydref fan bellaf. Gwnaethant drafod
newidiadau yn y gyllideb weithredol a chyffredinol ynghyd â blaenoriaethau
arian prosiect. Gwnaethant nodi hefyd y diwygiadau sy'n ofynnol i gyfrif am y
Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 16 newydd – Prydlesi a llythyr a
anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Trafododd y Comisiynwyr
Gyllideb Ddrafft 2020-21, a’i chymeradwyo, yn amodol ar rai mân addasiadau i’r
naratif. |
|
Gosod Ffenestri Newydd yn Nhŷ Hywel Cofnodion: Trafododd y
Comisiynwyr gynigion ar gyfer gosod ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel, sy'n
agosáu at ddiwedd eu hoes weithredol, ac rydym yn gweld nifer gynyddol o ddiffygion
nad oes modd o’u trwsio. Cytunodd y Comisiynwyr
y dylid cynnal astudiaeth ddichonoldeb, ac y dylid adrodd ar y canlyniad maes o
law. |
|
Diweddariad ar Ddiwygio’r Cynulliad ·
Diweddariad ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) – y
Comisiwn Etholiadol ·
Diweddariad ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) –
Materion nad ydynt yn ymwneud â’r Comisiwn Etholiadol Cofnodion: 4A - Diweddariad ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) -
Y Comisiwn Etholiadol Cafodd y Comisiynwyr
ddiweddariad ar gynigion sy’n ymwneud â’r gwelliannau arfaethedig mewn
perthynas ag ariannu’r Comisiwn Etholiadol a’i atebolrwydd yn y Bil a
diweddariad i’r amserlen ddeddfwriaethol. Gwnaethant drafod
model arfaethedig y Cwnsler Cyffredinol ar gyfer ariannu'r Comisiwn Etholiadol
a goblygiadau dulliau gweithredu gwahanol fel y nodwyd yn ei ohebiaeth â'r
Pwyllgor Cyllid. Gwnaethant nodi hefyd y byddai angen cydsyniad Gweinidog y
Goron yn Llywodraeth y DU ar y gwelliannau arfaethedig ac y byddai angen ei
gael ymhell o fewn yr amserlenni arferol er mwyn osgoi unrhyw oedi cyn cael
Cydsyniad Brenhinol i'r Bil. Cytunodd y Comisiynwyr
mai eu ffafriaeth o hyd yw gweld y Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu'n
uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru. Bydd y Llywydd yn trafod y mater ymhellach
â'r Comisiynwyr i gytuno ar eu hymateb yn ystod Cyfnod 2 ar ôl cael barn y
Pwyllgor Cyllid a rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru. 4A - Diweddariad ar y
Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) - materion nad ydynt yn gysylltiedig â’r
Comisiwn Etholiadol Roedd y Comisiwn wedi
gofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’r posibilrwydd o anghymhwyso staff
y Comisiwn rhag sefyll etholiad i'r Cynulliad, a chyhoeddi gwariant
etholiadau'r Cynulliad. Trafododd y
Comisiynwyr sut y dylai'r Llywydd ymdrin â'r materion hyn yn ystod gwaith
craffu Cyfnod 2 ar y Bil a hefyd sut i ymateb i ddiwygiadau eraill y gellid eu
gosod. Nododd y Comisiynwyr y
cynnydd ynghylch cynigion i godi ymwybyddiaeth mewn perthynas â chyflwyno
pleidleisiau yn 16 oed ar gyfer etholiadau’r Cynulliad a chroesawyd y newyddion
y byddent yn cael rhagor o wybodaeth yn eu cyfarfod nesaf. |
|
Mynd â busnes y Cynulliad o Gaerdydd Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
gynigion ar gyfer mynd â busnes y Cynulliad i leoliad y tu allan i Gaerdydd a
chytunwyd y byddai'r Llywydd yn ysgrifennu at Gadeiryddion grwpiau ac arweinwyr
pleidiau’n amlinellu'r achos ac yn ceisio eu barn am lefel y diddordeb yn y
math hwn o waith ymgysylltu. |
|
Costau sy’n gysylltiedig â Swyddfeydd Aelodau a ariennir yn ganolog gan y Comisiwn Cofnodion: Ar ôl cytuno yn 2018 i
geisio sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd mewn perthynas â chostau yr eir
iddynt gan Aelodau am redeg eu swyddfeydd, ar wahân i’r rheini y mae’r
Penderfyniad yn darparu ar eu cyfer, trafododd y Comisiynwyr ddata yn ymwneud â
gwariant dros gyfnod o 12 mis. Cytunodd y comisiynwyr
i siarad â’u grwpiau ynghylch y newidiadau arfaethedig i’r ffordd y caiff y
costau hyn eu rheoli, gyda’r bwriad o gytuno ar yr argymhellion er mwyn
hwyluso’r gwelliant hwn. |
|
Diweddariad ar Brexit Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
wybodaeth a roddwyd am baratoadau ar gyfer senarios amrywiol yn ymwneud â
Brexit ar ochr busnes ac ochr gwasanaethau corfforaethol y Comisiwn. |
|
Ugain mlwyddiant – Gŵyl GWLAD Cofnodion: Trafododd a nododd y
Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am raglen Gŵyl GWLAD. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y
diweddariad arferol ar benderfyniadau RAD diweddar. |
|
Cofnodion cyfarfod ACARAC a gynhaliwyd fis Gorffennaf (drafft) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
gofnodion cyfarfod ACARAC a gyflwynwyd yn ôl yr arfer. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i’r
Comisiynwyr am hysbysiad cynllunio a ddaeth i law yn ymwneud â datblygu llinell
sip arfaethedig dros dro ym Mae Caerdydd. Yn y cyfnod ers y
cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno ar yr Adroddiad
Amgylcheddol Blynyddol. |