Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes Deputy Clerk: Buddug Saer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod gan
ddiolch iddynt am eu hymrwymiad a'u hyblygrwydd. Dywedodd y byddai'n hoffi adolygu’r
broses o ran Adroddiad Blynyddol/Datganiad Cyfrifon 2014-15 a bydd yn cytuno ar
y dull o wneud hynny gyda Claire Clancy a Nicola Callow. Camau gweithredu -
Eric, Claire a Nicola i gytuno ar ddull o adolygu'r broses o ran Adroddiad
Blynyddol/Datganiad Cyfrifon 2014-15 1.2
Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, y camau gweithredu a’r materion sy’n codi Cofnodion: ACARAC (29) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod ar 8
Mehefin 2015 ACARAC (29) Papur 2 –
Crynodeb o’r camau gweithredu 2.1
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
8 Mehefin 2015. 2.2
Rhannu gwybodaeth am dwyll (cam gweithredu 6.4) - cytunodd SAC i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r bwrdd ar yr adeg briodol. 2.3
Symleiddio strwythur y cyfrifon (cam gweithredu
7.2) - gofynnodd y Cadeirydd a ellid ystyried hyn cyn
gynted â phosibl. 2.4
Rôl a chyfrifoldebau’r Uwch-Swyddog Cyfrifol ar
gyfer y Pumed Cynulliad (cam gweithredu 10.2) - cadarnhaodd Claire fod hyn
wedi’i baratoi. 2.5
Rhoddodd Dave Tosh y newyddion diweddaraf i'r
pwyllgor am yr adolygiad cynhwysfawr diweddar o gofrestr risg gorfforaethol y
Comisiwn gan y Bwrdd Rheoli. Mae nifer o
risgiau newydd wedi’u nodi ac maent yn cael eu cofnodi'n llawn. 2.6
Cadarnhaodd Claire fod nifer o risgiau posibl
eraill wedi’u trafod hefyd. Fodd bynnag, roedd y Bwrdd wedi cytuno, gan fod
ganddo hyder yn y rheolaethau sydd ar waith i reoli'r rhain drwy gynllunio’n
effeithiol a darparu amcanion lefel gwasanaeth, nad oedd angen eu cofnodi ar y
gofrestr risg gorfforaethol. Byddai hynny’n helpu i sicrhau ffocws ar y risgiau
hynny a oedd yn peri’r pryder mwyaf i’r Bwrdd Rheoli. |
|
Trafodaeth agored am flaenraglen waith y Pwyllgor Cofnodion: ACARAC (29) Papur 5 - Y
flaenraglen waith 3.1
Croesawodd y Cadeirydd y sylwadau a oedd wedi dod i law ynghylch y
flaenraglen waith a dywedodd y byddai'n gweithio gyda'r tîm clercio i sicrhau
bod eitemau ar yr agenda yn parhau i gael eu trefnu’n unol â digwyddiadau
allweddol a’u bod yn cael eu gwasgaru mor deg â phosibl. 3.2
Byddai fersiwn wedi'i diweddaru yn cael ei dosbarthu i bob aelod cyn cael
ei chyhoeddi ar dudalennau’r pwyllgor ar y wê. Camau gweithredu -
Kathryn Hughes i ddosbarthu’r
flaenraglen waith derfynol i aelodau'r pwyllgor. |
|
Papur i’w nodi ac unrhyw fater arall Cofnodion: Rhestr wirio
cydymffurfiaeth ACARAC (29) Papur 6 -
rhestr wirio cydymffurfiaeth i'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu ACARAC (29) Papur 7 -
rhestr wirio cydymffurfiaeth i'r rhai sy'n gyfrifol am reoli 4.1
Cyflwynodd Ann-Marie Harkin
yr eitem ar y rhestr wirio cydymffurfiaeth, sef rhestr yr oedd Swyddfa
Archwilio Genedlaethol Cymru a Lloegr wedi argymell y dylid ei defnyddio. Roedd
SAC yn ddiolchgar am ymateb prydlon y pwyllgor ac am fod y rhestr wirio
cydymffurfiaeth wedi’i chymeradwyo’n brydlon. Mae’n bosibl y caiff y rhestr ei
chyflwyno mewn fformat gwahanol maes o law, ond mae wedi cael ei hychwanegu at
y flaenraglen waith a gaiff ei hystyried ar adeg briodol y flwyddyn nesaf. 4.2
Holodd
y Cadeirydd am y term a ddefnyddir i ddisgrifio’r pwyllgor, sef y 'rhai sy'n
gyfrifol am lywodraethu', gan atgoffa SAC mai rôl gynghori oedd gan y
pwyllgor. 4.3
Cadarnhaodd
SAC y byddai hynny’n cael ei gywiro yn y dyfodol. Crynodeb Ymadawiadau ACARAC (29) Papur 8 - Crynodeb Ymadawiadau 4.4
Nododd
y Pwyllgor un achos o ymadael â'r gweithdrefnau caffael arferol. |
|
Adroddiad blynyddol a datganiad cyfrifon Cofnodion: ACARAC (29) Papur 3 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon - papur eglurhaol ACARAC (29) Papur 3 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 5.1
Cyflwynodd Claire yr
Adroddiad Blynyddol, a oedd yn cyflwyno naratif cywir a chryf o'r gwaith a
gyflwynwyd gan Gomisiwn y Cynulliad yn 2014-15 yn ei barn hi. 5.2
Cytunodd y pwyllgor fod
hwn yn ddogfen drawiadol a chafodd Claire a'i thîm eu canmol am eu gwaith caled
wrth lunio adroddiad mor gynhwysfawr. 5.3
Cyflwynodd
Nicola y Datganiad Cyfrifon a chadarnhaodd fod y ffigwr alldro terfynol wedi
cynyddu £2000 i £64,000, sy’n gyfwerth â thanwariant o 0.1%. 5.4
Roedd
y camau a gymerwyd o ran yr holl newidiadau a sylwadau a awgrymwyd gan ACARAC a
SAC mewn perthynas â Defnyddio Adnoddau’n Ddoeth a'r Datganiad Cyfrifon wedi’u
rhestru fesul eitem er mwyn darparu trywydd archwilio llawn. 5.5
Daeth y pwyllgor â'r rhan hon o'r
cyfarfod i ben drwy argymell i'r Swyddog Cyfrifyddu y dylai lofnodi’r
cyfrifon. Nododd y Cadeirydd y byddai
unrhyw ganfyddiadau archwilio pellach yn cael eu cynnwys yn y Llythyr Rheoli a
gaiff ei ddosbarthu dros yr haf. Camau
gweithredu -
Cadarnhaodd
Nicola y byddai'n dosbarthu’r Llythyr Rheoli i aelodau'r pwyllgor yn ystod yr
haf. |
|
Adroddiad 2014-15 ISA 260 (gan gynnwys treuliau’r Aelodau) Cofnodion: ACARAC (29) Papur 4 –
Adroddiad ISA 260 2013-14 6.1
Cyflwynodd Ann-Marie adroddiad ar Safon Archwilio Ryngwladol (ISA) 260.
Cadarnhaodd eu bod wedi cael yr holl ddogfennau gan Gomisiwn y Cynulliad ar
amser a rhoddodd ddiolch i dîm Nicola am eu cymorth. Dywedodd wrth y pwyllgor fod y cyfrifon yn
ddiduedd, yn deg ac yn glir. Dyma’r prif bwyntiau a nodwyd: ·
Newid yn y polisi cyfrifyddu ar gyfer asedau TGCh. Mae SAC yn dal o'r farn
bod y newid o ran trin asedau TGCh yn gyfystyr â newid i’r polisi cyfrifyddu,
sy’n golygu bod angen addasiad blwyddyn flaenorol. Mae’r tîm rheoli o’r farn
nad oes angen addasiad cyfnod blaenorol, yn unol ag ISA8. ·
Darpariaethau dadfeiliad ar gyfer eiddo ar brydles. ·
Cyfraniadau pensiwn staff cymorth Aelodau'r Cynulliad. ·
Cyfrifyddu a chostau Aelodau'r Cynulliad – cronni gwyliau staff cymorth. 6.2
Diolchodd y Cadeirydd i SAC am dynnu sylw at y pwyntiau hyn. O ran y pwynt
cyntaf, cytunodd y Pwyllgor nad yw’r newid o ran trin asedau TGCh yn gyfystyr â
newid i’r polisi cyfrifyddu ac roedd yn fodlon i’r cyfrifon aros yr un
fath. 6.3
O ran y pwynt ynghylch dadfeiliad, rhoddodd Nicola ragor o wybodaeth i
ategu barn y rheolwyr, gan gadarnhau bod y tîm Rheoli Ystadau a Chyfleusterau
wedi llunio rhaglen cynnal a chadw 10 mlynedd dreigl ar gyfer Tŷ Hywel a bod y dyraniad ar gyfer gwelliannau
mewn cyllidebau cyfredol ac yn y dyfodol yn parhau i fod yn addas. Er mwyn rhoi
sicrwydd ychwanegol, byddai Nicola yn ystyried awgrym SAC o gael barn
annibynnol ar gyflwr a gofynion cynnal a chadw Tŷ Hywel.
Roedd y pwyllgor yn cefnogi penderfyniad y rheolwyr. 6.4
O ran cyfraniadau pensiwn, rhoddodd Nicola wybod i’r pwyllgor y byddai
trafodaethau pellach yn cael eu cynnal â'r Bwrdd Taliadau i sicrhau bod yr
effaith yn sgil aberthu cyflog staff cymorth yn glir. Câi’r adroddiad ar ISA 260 ei ddiwygio i
ddangos mai i Aelodau'r Cynulliad, ac nid Comisiwn y Cynulliad, y talwyd yr
ad-daliad gan CThEM. Roedd y pwyllgor yn cefnogi penderfyniad y rheolwyr. 6.5
O ran y pwynt olaf ynghylch cyfrifyddu a chostau Aelodau'r Cynulliad,
dywedodd SAC fod eu hymholiadau hyd yma yn golygu nad oeddent yn gallu ffurfio
barn glir ynghylch a fyddai’n briodol i staff cymorth allu cronni gwyliau nad oeddent
wedi’u defnyddio. Gan nad oedd y symiau o dan sylw yn berthnasol, dywedodd SAC
y byddai’n derbyn y drefn gyfredol ac yn ymdrin yn llawn â’r mater yn
2015-16. Roedd aelodau'r pwyllgor yn
cefnogi’r penderfyniad hwn. Gan ymateb i
ymholiad gan un o aelodau'r pwyllgor, dywedodd SAC nad oedd modd cadarnhau a
fyddai angen addasiad ôl-weithredol pan fyddai’r driniaeth gyfrifyddu yn gwneud
hyn oll yn glir, ond byddai’n sicrhau bod yn cael ei ddiweddaru’n gyson. 6.6
Cadarnhaodd SAC mai dim ond y Swyddog Cyfrifyddu a ddylai lofnodi’r Llythyr
o Gynrychiolaeth, ac nid ACARAC hefyd. 6.7 Diolchodd y Cadeirydd i SAC am y cyflwyniad ar ISA 260, ac anogwyd Nicola, ei thîm a SAC i adolygu’r broses archwilio ar gyfer 2014-15 er ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |