Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes  Deputy Clerk: Buddug Saer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1        Datganodd Eric Gregory ei fod yn gynrychiolydd busnes ar gyfer yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.  

1.2        Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau eraill.

2.

Cofnodion y cyfarfod ar 20 Mawrth a crynodeb o’r camau i’w cymryd

Cofnodion:

ACARAC (03-17) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod ar 20 Mawrth 2017    

ACARAC (03-17) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd

2.1     Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mawrth a chafodd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu, a nodwyd ym mhapur 2, ei nodi.   

2.2     Trafodwyd dau gam gweithredu fel eitemau ar wahân ar yr agenda, sef:

·         adborth ar yr wythnos ymwybyddiaeth o seibr ddiogelwch, a drafodwyd fel eitem 11; a

·         y meini prawf ar gyfer blaenoriaethu prosiectau, a drafodwyd fel rhan o'r wybodaeth ddiweddaraf am reoli newid a rheoli prosiectau, o dan eitem 12. 

2.3     O ran pwynt gweithredu 7.2 (i roi gwybod am y cynlluniau i gynnal ymarfer meincnodi arall ar gyfer adroddiadau blynyddol a datganiadau llywodraethu gyda chyrff cyhoeddus eraill a rhannu syniadau am arferion gorau â Chomisiwn y Cynulliad), cadarnhaodd Matthew Coe y byddent yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor pe bai digwyddiad meincnodi arall yn cael ei gynnal, a phryd.  [Ers y cyfarfod, mae SAC wedi cadarnhau y bydd ymarfer dilynol yn cael ei gynnal eleni, gan ei fod yn ymarfer da, a byddent yn ystyried a ddylid cynnal ymarfer o'r fath bob blwyddyn.]

2.4     O ran pwynt gweithredu 16.1 (i rannu manylion am y costau presennol ar gyfer hyfforddi gweithwyr achos), cadarnhaodd Dave Tosh fod y contract ar gyfer hyfforddiant untro ar reoli gwaith achos a gynigiwyd i Aelodau Cynulliad a'u staff cymorth am y tro cyntaf ar ddechrau'r Pumed Cynulliad.  Felly, nid oedd unrhyw gostau blaenorol ar gael i'w cymharu.  Roedd y Pwyllgor yn fodlon ar yr esboniad hwn.   

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Archwilio Mewnol

Cofnodion:

ACARAC (03-17) Papur 3 – Y wybodaeth ddiweddaraf am Archwilio Mewnol

ACARAC (03-17) Papur 4 – Adroddiad ar Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS)

3.1     Cyflwynodd Gareth Watts ei adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf. Roedd gwaith maes yn mynd rhagddo ar yr archwiliad o bwyllgorau integredig, a oedd yn ystyried gwaith gan chwe gwasanaeth gwahanol.  Oherwydd cwmpas yr archwiliad hwn, dywedodd Gareth nad oedd y gwaith yn debygol o gael ei gwblhau tan yr hydref.

3.2     Croesawodd y Pwyllgor adroddiad Gareth ar Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS), a gyflwynwyd er mwyn rhoi gwybod i'r Pwyllgor am y newidiadau diweddaraf i'r safonau. Dywedodd Gareth na fyddai angen gwneud unrhyw newidiadau i brosesau'r Comisiwn.        

3.3     Dywedodd Gareth y byddai'n gallu rhannu canlyniad yr ymarfer tendro a gwblhawyd ar gyfer y contract Archwilio Mewnol yn fuan.           

3.4     Nododd y Pwyllgor yr adroddiad Asesu Ansawdd allanol, a ddosbarthwyd y tu allan i'r pwyllgor. Cadarnhaodd Dave Tosh, y Cyfarwyddwr Adnoddau, ei fod yn fodlon ar y sicrwydd a roddwyd. Cadarnhaodd Gareth fod yr asesiad hwn yn seiliedig ar y fersiwn flaenorol o Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus ac y byddai asesiadau yn y dyfodol yn seiliedig ar y fersiwn ddiwygiedig.  

3.5     Estynnodd y Pwyllgor longyfarchiadau i Nia Morgan a'i thîm am drosglwyddo data yn llwyddiannus i'r system gyllid newydd.  Rhoddodd Nia ddiolch i'w thîm am eu gwaith caled wrth roi'r prosiect hwn ar waith, yn enwedig o gofio'r rhwymedigaethau ar ddiwedd y flwyddyn a'r ffaith bod llai o adnoddau ar gael.       

Cam i’w gymryd

-         Gareth Watts i rannu canlyniadau'r ymarfer tendro Archwilio Mewnol ag aelodau Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad drwy e-bost. 

 

4.

Yr Adroddiadau Archwilio Mewnol diweddaraf

Cofnodion:

ACARAC (03-17) Papur 5 – Adroddiad Archwilio ar Lwfansau Aelodau'r Cynulliad

ACARAC (03-17) Papur 6 – Adroddiad ymgynghorol yr adran Archwilio Mewnol ar y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (TIAA)

4.1     Cyflwynodd Gareth ddau adroddiad archwilio a groesawyd gan y Pwyllgor.

4.2     O ran yr archwiliad o lwfansau Aelodau'r Cynulliad, rhoddodd Gareth wybod fod gweithdrefnau cadarn ar waith ar gyfer hawliadau treuliau Aelodau'r Cynulliad.  Dywedodd hefyd fod y gwaith o ddirprwyo awdurdod yn ffurfiol i reolwyr swyddfa, fel y gallent gyflwyno hawliadau ar ran Aelodau'r Cynulliad, wedi gwella effeithlonrwydd.  Cadarnhaodd Suzy Davies fod Aelodau'r Cynulliad yn llwyr ddeall eu bod yn atebol am y treuliau y byddant yn eu hawlio, er gwaetha'r ffaith y gallant ddirprwyo'r awdurdod hwn.

4.3     Yn ogystal â phrofi'r grantiau adsefydlu a dalwyd i Aelodau'r Cynulliad a adawodd yn dilyn etholiad 2016 a'r taliadau dileu swydd a dalwyd i'w staff cymorth, bu Gareth hefyd yn profi prosesau recriwtio staff.   Mae'r rheolwyr wedi derbyn pob un o'r tri argymhelliad a wnaed ganddo.

4.4     O ran yr archwiliad ymgynghorol o'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol,  dywedodd Gareth fod natur ddibwys yr argymhellion yn galonogol, ac yn brawf o'r holl waith paratoi a wnaed gan y Comisiwn.   Cyfeiriodd hefyd at weithgor a oedd wedi'i sefydlu a chynllun gweithredu lefel uchel a oedd yn cael ei fonitro'n agos gan Alison Bond, Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth y Comisiwn.  Roedd aelodau'r Pwyllgor yn canmol y cynllun gweithredu cynhwysfawr a ddosbarthwyd.

4.5     Dywedodd Dave fod y Cynulliad, ynghyd â deddfwrfeydd a sefydliadau eraill, yn disgwyl canllawiau manwl pellach gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, a bod disgwyl i hynny gyrraedd yn yr hydref. Unwaith y bydd y canllawiau hyn yn barod, câi'r cynllun gweithredu ei adolygu a byddai'n cynnwys ffocws ar roi cyngor i Aelodau'r Cynulliad fel rheolwyr data.     

4.6     Roedd y Pwyllgor yn fodlon iawn ar yr holl waith paratoi a wnaed a chanlyniad yr adroddiad ymgynghorol, ond gwnaethant annog y swyddogion i beidio â llaesu dwylo.  Cytunwyd y dylid atgoffa Aelodau Cynulliad a'u staff am eu rhwymedigaethau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data presennol yn ogystal ag unrhyw newidiadau yn y dyfodol.          

 Cam gweithredu

-         Gareth i baratoi diweddariad ar argymhellion yr archwiliad o lwfansau Aelodau'r Cynulliad yng nghyfarfod yr hydref.

 

5.

Ystyried unrhyw sylwadau yn sgil yr adroddiadau a ddosbarthwyd y tu allan i'r Pwyllgor

Cofnodion:

ACARAC (03-17) Papur 7 – Adroddiad ar yr Adolygiad o'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau

ACARAC (03-17) Papur 8 – Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad o'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau

ACARAC (03-17) Papur 9 – Adolygiad o’r balansau terfynol (trosglwyddo data o CODA i NAV)

5.1     Croesawodd y Pwyllgor y tri adroddiad, ac roeddent wedi rhannu eu sylwadau arnynt â Gareth y tu allan i'r cyfarfod. 

5.2     Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar swyddogaethau a chyfrifoldebau Bwrdd Rheoli'r Comisiwn a'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau.  Dywedodd Manon ei bod hi a'r Cyfarwyddwyr ar fin adolygu aelodaeth a rolau pob bwrdd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n addas i'r diben a sicrhau bod y cyfrifoldebau a'r prosesau o ran gwneud penderfyniadau yn glir.

5.3     Wrth ymateb i gwestiynau am faint y mae penderfyniadau'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn cael eu herio, cyfeiriodd Dave at faint y mae'r cynigion sy'n cael eu cyflwyno i'r bwrdd yn cael eu herio, ac roedd y Pwyllgor o'r farn y gallai'r broses honno fod yn gliriach.  Cytunodd Manon i ystyried ffyrdd amgen o gyfleu penderfyniadau'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn ehangach, gan gynnwys gyda'r Comisiynwyr, a byddai'n rhannu canlyniadau'r adolygiad o'r strwythurau llywodraethu yn dilyn diwrnod cwrdd i ffwrdd.   

5.4     Croesawodd y Pwyllgor yr adolygiad cadarnhaol hwn, y camau gweithredu y cytunwyd arnynt a'r ffordd ragweithiol yr aed ati i wahodd gwaith craffu allanol.  

Camau i’w cymryd

-         Manon i ystyried ffyrdd o gyfleu penderfyniadau'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn ehangach.

-         Manon i rannu canlyniadau'r adolygiad o strwythurau llywodraethu ar ôl diwrnod cwrdd i ffwrdd y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau.

 

6.

Adroddiad Blynyddol yr adran Archwilio Mewnol

Cofnodion:

ACARAC (03-17) Papur 10 – Adroddiad blynyddol a barn yr adran Archwilio Mewnol 2016-17

6.1        Cymeradwyodd y Pwyllgor adroddiad blynyddol Gareth, a oedd yn cydnabod bod prosesau digonol ac effeithiol ar waith o ran rheoli risg, rheolaeth a llywodraethu. Estynnwyd llongyfarchiadau i Gareth am ei waith a chyfraniad parhaus yr adran archwilio mewnol o ran darparu sicrwydd.  Roeddent yn croesawu'r ffocws ar effaith a chanlyniadau'r gwaith archwilio yn arbennig ac yn annog canolbwyntio ymhellach ar hyn yn adroddiadau'r dyfodol. Roeddent yn falch o glywed hefyd fod aelod o'r tîm i fod i ddechrau hyfforddiant archwilio mewnol er mwyn cefnogi ei waith ymhellach.

 

7.

Adroddiad Blynyddol ar Dwyll

Cofnodion:

ACARAC (03-17) Papur 11 – Adroddiad Blynyddol ar Dwyll

7.1     Cyflwynodd Gareth yr adroddiad a chadarnhaodd nad oedd unrhyw achosion o weithgarwch twyllodrus wedi dod i'w sylw yn ystod 2016-17, boed yn dwyll gwirioneddol neu'n achosion o amheuaeth o dwyll.  Nododd y Pwyllgor yr adroddiad ac argymhellodd y dylai adroddiadau yn y dyfodol gynnwys asesiad cyffredinol o sicrwydd.

7.2     Pan holwyd Gareth, nododd yntau pwy sydd â chyfrifoldeb am ganfod twyll, a oedd yn cynnwys y Cyfarwyddwr Cyllid, y Pennaeth Archwilio Mewnol a'r Pennaeth TGCh, a chytunodd i rannu rhestr o'r bobl hyn â'r Pwyllgor.  Nododd y Pwyllgor fod TIAA a Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn rhannu gwybodaeth â Gareth a Nia, a byddai'r drefn honno'n parhau. 

Camau i’w cymryd

-         Gareth i rannu manylion am gyfrifoldebau ar gyfer canfod twyll â'r Pwyllgor.

-         Gareth i gynnwys asesiad cyffredinol o sicrwydd yn ei bapur diweddaru nesaf ac mewn adroddiadau blynyddol ar dwyll yn y dyfodol.

 

8.

Y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar danwariant Comisiwn y Cynulliad

Cofnodion:

8.1     Cafodd gohebiaeth ddiweddar rhwng Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad a Suzy Davies, y Comisiynydd, ei dosbarthu cyn y cyfarfod.  Trafododd y Pwyllgor ffyrdd y gellid briffio'r Pwyllgor Cyllid a'r Comisiynwyr am benderfyniadau ynglŷn â meysydd o wariant sylweddol a blaenoriaethu mewn ffordd a fyddai'n dangos diwydrwydd dyladwy a phroses gadarn o wneud penderfyniadau ac yn sicrhau rhagor o dryloywder yn ystod y flwyddyn.

8.2     Rhoddodd Ann-Marie Harkin wybod am gais a wnaed gan Gadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad i Archwilydd Cyffredinol Cymru i wneud cymhariaeth â sefydliadau eraill o ran cyfrifoldebau pwyllgor am graffu neu gymeradwyo penderfyniadau gwario mawr.

Cam i’w gymryd

-         Manon i friffio ACARAC ar ôl bod yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid.


ACARAC (03-17) Papur 12 – Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon drafft 2016-17 – papur cwmpasu

ACARAC (03-17) Papur 12 – Atodiad A Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon drafft 2016-17

9.1     Diolchodd Manon a Nia i'r Pwyllgor am y sylwadau a roddwyd eisoes ar yr Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon drafft.   

9.2     Gwnaeth y Pwyllgor ddiolch i Manon, Nia a'u timau am gael gweld yr adroddiad yn gynnar a'u hannog i sicrhau bod yr ystadegau yn yr adroddiad yn cyd-fynd â'r dangosyddion perfformiad allweddol. 

9.3     Byddai fersiwn derfynol o'r adroddiad yn cael ei chyflwyno yng nghyfarfod mis Gorffennaf. 

 

9.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Archwilio Allanol

Cofnodion:

ACARAC (03-17) Papur 13 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Swyddfa Archwilio Cymru 2016-17

10.1    Rhoddodd Ann-Marie Harkin ddiolch, ar ran ei thîm yn Swyddfa Archwilio Cymru am gefnogaeth a chydweithrediad y tîm Cyllid a staff eraill y Comisiwn.  Diolchodd y Cadeirydd i Swyddfa Archwilio Cymru am gyflwyno'r Adroddiad Datganiadau Ariannol (ISA260) a'r Llythyr Rheoli yn gynnar.  Cadarnhaodd Ann-Marie fod hwn yn archwiliad syml gyda set o gyfrifon o safon uchel a chadarnhaodd nad oedd unrhyw faterion yn codi o'u gwaith archwilio ac nad oedd unrhyw faterion arwyddocaol i'w trafod.

10.2    Gwnaeth y Cadeirydd gydnabod safon ragorol y cyfrifon, a adlewyrchwyd yn yr adroddiad ISA260: nid oedd dim camddatganiadau heb eu cywiro, dim gwendidau perthnasol o ran rheolaeth fewnol a dim argymhellion yn codi.  Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn weddill ers 2015-16 ychwaith.  Gwnaeth y Pwyllgor ganmol pawb a fu'n rhan o'r broses archwilio, yn enwedig Nia a'i thîm.  

10.3    Diolchodd Nia i bawb am eu sylwadau a dywedodd y byddai ffocws ychwanegol ar ragweld gwariant yn y dyfodol. 

 

10.

Adborth ar yr wythnos ymwybyddiaeth o seibr ddiogelwch - Eitem lafar

Cofnodion:

11.1    Rhoddodd Suzy wybod bod adborth gan Aelodau'r Cynulliad am eu hymwybyddiaeth o'r wythnos ymwybyddiaeth a seibr ddiogelwch yn gyffredinol yn awgrymu nad oedd y neges wedi treiddio yn ôl y bwriad.

11.2    Cytunodd Dave i rannu'r adborth hwn gyda'r Pennaeth TGCh er mwyn sefydlu dull effeithiol o rannu'r negeseuon pwerus a phwysig hyn ag Aelodau'r Cynulliad a'u staff.     

Cam i’w gymryd

-         Dave i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am godi ymwybyddiaeth o seibr ddiogelwch ag Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth.

 

11.

Y wybodaeth ddiweddaraf am reoli newid a rheoli prosiectau - Eitem lafar

Cofnodion:

12.1     Yn ogystal ag argymhelliad y Pwyllgor, rhoddodd Dave wybod i'r Pwyllgor bod gwaith ar y gweill i ddatblygu canllawiau ar flaenoriaethu prosiectau ar gyfer y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau.  Cydnabuwyd hefyd y gellid dogfennu materion fel her a sicrwydd o ran achosion busnes yn well.  Croesawodd y Pwyllgor y newydd hwn a gofynnodd am gael diweddariad pan fyddai rhagor o wybodaeth ar gael.    

Cam i’w gymryd

-         Dave i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am hynt y canllawiau ar flaenoriaethu prosiectau.     

 

12.

Adroddiad ar Risgiau Corfforaethol

Cofnodion:

ACARAC (03-17) Papur 14 - Risgiau Corfforaethol

ACARAC (03-17) Papur 14 – Atodiad A – Adroddiad Cryno ar Risgiau Corfforaethol

ACARAC (03-17) Papur 14 – Atodiad B – Adroddiad ar Risgiau Corfforaethol a nodwyd

13.1     Rhoddodd Dave wybod i'r Pwyllgor bod y Bwrdd Rheoli wedi adolygu'r gofrestr ar 25 Mai, a bod perchnogion risg wedi adolygu eu risgiau eto cyn i'r papur hwn gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor.  Gofynnwyd i'r Pwyllgor nodi'r newidiadau i'r gofrestr.

13.2     Dywedodd Dave fod trafodaethau'n parhau rhwng yr aelodau perthnasol o'r Bwrdd Rheoli i sicrhau dull cydlynol a strategol o ymdrin ag effaith gronnol risgiau cyfansoddiadol a risgiau corfforaethol eraill.  Roedd y dull i'w weld yn fuddiol a byddai'r ymatebion i'r risgiau yn cael eu trafod ymhellach ar ddiwrnod cwrdd i ffwrdd nesaf y Bwrdd Rheoli.  Croesawodd y Pwyllgor y ffordd y nodwyd risgiau rhyng-gysylltiedig yn Atodiad C o'r papur. 

13.3     Diolchodd y Pwyllgor i'r swyddogion am gyflwyno manylion am eu hadolygiad ac am ddiweddaru'r gofrestr risgiau corfforaethol a nododd pa mor ddifrifol oedd y risgiau o ran seibr ddiogelwch a gadael yr UE.  Gwnaeth hefyd argymell y dylid golygu'r disgrifiad o'r risg o ran seibr ddiogelwch.   

Cam i’w gymryd

-         Dave i ystyried golygu'r disgrifiad o'r risg o ran seibr ddiogelwch (ICT16).

 

13.

Archwiliad beirniadol o risg a nodwyd neu risg sy'n dod i'r amlwg – Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol

Cofnodion:

ACARAC (03-17) Papur 15 – Risg o ran y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol

14.1        Croesawodd y Pwyllgor Alison Bond i'r cyfarfod a dweud wrthi fod y cynllun gweithredu manwl yn dangos bod paratoadau'r Comisiwn yn fwy datblygedig na sefydliadau eraill. 

14.2        Rhoddodd Alison wybod i'r Pwyllgor am ei chamau gweithredu lefel uchel byrdymor a hirdymor, gan esbonio sut y mae'r rhain yn lliniaru'r risg o beidio â bod mor barod â phosibl ar gyfer y Rheoliad newydd cyn gweld y canllawiau y bwriadwyd iddynt gael eu cyhoeddi gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn yr hydref.  Eglurodd hefyd sut y byddai'r gweithgor yn nodi risgiau a materion pellach, ac yn profi prosesau newydd cyn i'r Rheoliad ddod i rym ym mis Mai 2018.

14.3        Er bod yr adroddiad archwilio ymgynghorol yn gadarnhaol, gofynnodd Alison i aelodau'r Pwyllgor ystyried a rhannu manylion am unrhyw gysylltiadau o sefydliadau eraill y gallai ymgysylltu â nhw.     

Cam i’w gymryd

-         Aelodau ACARAC i roi gwybod am eu cysylltiadau perthnasol o ran y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol i'r Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth.

 

14.

Adroddiad Blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth 2016-17

Cofnodion:

ACARAC (03-17) Papur 16 – Adroddiad Blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth 2016-17

15.1     Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad, gan gytuno ei fod yn cynnig lefel ychwanegol o sicrwydd.  Awgrymodd aelodau'r Pwyllgor y dylai'r datganiadau ansoddol gael eu hategu gan dystiolaeth feintiol mwy penodol mewn adroddiadau yn y dyfodol.

15.2     Roedd Dave am gofnodi'n ffurfiol ei ddiolch i Alison Bond am ei gwaith caled a'i hymrwymiad i gynnal a gwella safonau llywodraethu gwybodaeth ym mhob rhan o'r sefydliad, fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn, ac am ei gwaith wrth baratoi ar gyfer y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol newydd.    

15.

Ystyried y dull gweithredu wrth adolygu effeithiolrwydd y Pwyllgor (adroddiad erbyn mis Chwefror 2018)

Cofnodion:

ACARAC (03-17) Papur 17 – Cwestiynau'r arolwg blaenorol (2015)

16.1     Cytunodd y Pwyllgor ar amserlen ar gyfer yr arolwg nesaf, a fyddai'n cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2017, a'r adroddiad ym mis Chwefror 2018.  Cytunodd aelodau'r Pwyllgor i anfon unrhyw awgrymiadau ar gyfer diwygio cwestiynau'r arolwg at y tîm clercio erbyn mis Awst.

Cam i’w gymryd

-         Aelodau ACARAC i anfon awgrymiadau ar gyfer diwygio cwestiynau'r arolwg at y tîm clercio.

 

16.

Cytuno ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu

Cofnodion:

ACARAC (03-17) Papur 18 – Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad

2016-17

17.1    Cytunwyd ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor heb unrhyw newidiadau pellach.  Byddai'r tîm clercio yn trefnu iddo gael ei gyfieithu yn barod i gael ei gyflwyno gan y Cadeirydd yng nghyfarfod Comisiwn y Cynulliad ym mis Gorffennaf. 

 

17.

Crynodeb o'r ymadawiadau

Cofnodion:

ACARAC (03-17) Papur 19 – Crynodeb o’r ymadawiadau 

18.1     Nododd y Pwyllgor bum achos o ymadael â'r gweithdrefnau caffael arferol.  Cadarnhaodd Dave mai'r wlad sy'n cynnal Cynhadledd Seneddwragedd y Gymanwlad sy'n talu am y llety bob amser.  Nodwyd hefyd fod mwy o achosion o ymadael a'r gweithdrefnau arferol yn cael eu nodi oherwydd y rheolaethau gwell yn sgil y system gyllid newydd. Croesawyd awgrym Manon y dylid monitro'r rhain yn agos. 

 

18.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

ACARAC (03-17) Papur 20 - Y flaenraglen waith

19.1     Gofynnodd y Cadeirydd i'r Pwyllgor adolygu'r flaenraglen waith ac anfon unrhyw awgrymiadau at y tîm clercio erbyn mis Awst.

Cam i’w gymryd

-         Aelodau ACARAC i anfon awgrymiadau ar y flaenraglen waith at y tîm clercio.

 

Mae'r cyfarfod nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 18 Gorffennaf 2017.