Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes Deputy Clerk: Ryan Bishop
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan
nodi y cafwyd ymddiheuriadau gan Ann-Marie Harkin a Gareth Lucey, ill dau o
Swyddfa Archwilio Cymru, a chroesawyd Jon Martin a oedd yn bresennol ar eu
rhan. 1.2
Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion 15 Gorffennaf, camau gweithredu a materion yn codi Cofnodion: ACARAC
(05-19) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2019 ACARAC (04-19) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd 2.1
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
15 Gorffennaf. 2.2
O ran y cam gweithredu nad yw wedi'i roi ar
waith ynghylch y Comisiwn Etholiadol (paragraff 2.1), roedd aelodau'r Pwyllgor
wedi cael diweddariad cyn y cyfarfod. 2.3
Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r ddarpariaeth pensiwn cynyddrannol
(paragraff 3.4) yn parhau i fod yn broblem mewn perthynas â chyfrifon 2019-20. 2.4
O ran y sesiwn ar y cyd a awgrymwyd gyda REWAC (paragraff 6.2), cytunwyd
y dylid trefnu cyfarfod arall rhwng dau Gadeirydd y Pwyllgor, sef Manon a Dave. |
|
Sylwadau gan aelod o’r Pwyllgor sy’n gadael Cofnodion: 3.1 Rhoddir
sylw i’r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod. |
|
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd Cofnodion: ACARAC
(05-19) Papur 3 – Adroddiad diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd 4.1
Cyflwynodd Gareth Watts yr adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth
ddiweddaraf i aelodau am waith Llywodraethu a Sicrwydd mewnol diweddar. 4.2
Dosbarthwyd copïau o'r adroddiadau ynglŷn â’r adolygiad o Gynllun
Ymadael Gwirfoddol Comisiwn y Cynulliad ac Adolygiad Effeithiolrwydd y Bwrdd
Gweithredol i aelodau'r Pwyllgor o'r cyfarfod ar 26 Medi 2019. Roedd Gareth
hefyd wedi cynnal Adolygiad Effeithiolrwydd o’r Tîm Arwain ac wedi cyflwyno'r
canlyniad a'r argymhellion mewn perthynas â’r rhain. Byddai Gareth yn rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch y cynnydd mewn perthynas â’r camau
sy’n codi yn sgil y ddau adolygiad. 4.3
Arweiniodd y Tîm Llywodraethu y gwaith o lunio’r Adroddiad Blynyddol a'r
Cyfrifon am y tro cyntaf eleni. Roedd y Tîm wedi gweithio'n agos gyda
chydweithwyr yn y timau Cyllid a Chyfathrebu, gan gwblhau drafftiau cyn y
dyddiadau cau gwreiddiol a bennwyd. Roedd y rheolwyr wedi cytuno ar nifer o
argymhellion ar gyfer adroddiad 2019-20, a byddai’r rhain, ynghyd ag amserlen
arfaethedig, yn cael eu rhannu â’r Pwyllgor maes o law. 4.4
Roedd y Tîm Llywodraethu wedi cyfarfod â Phenaethiaid Gwasanaeth fel
rhan o’r cylch o gyfarfodydd ar faterion llywodraethu blynyddol. Dyma oedd y
blociau adeiladu sylfaenol ar gyfer llunio’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Trefnwyd cyfarfodydd gyda Chyfarwyddwyr i drafod unrhyw faterion a nodwyd o
gyfarfodydd y Pennaeth Gwasanaeth wrth baratoi ar gyfer drafftio Datganiadau
Sicrwydd. 4.5
Roedd adolygiad o’r Asedau Sefydlog wedi’i drefnu, a chytunodd Gareth i
rannu'r papur cwmpasu cyn i hyn gychwyn. 4.6
Roedd adolygiad o ddull y Comisiwn o ymgysylltu â chyflenwyr Cymru
wedi’i gwblhau, a byddai'r adroddiad yn cael ei rannu pan fydd yn barod.
Gofynnodd Suzy a oedd unrhyw themâu neu faterion o ran yr
amgylchedd/cynaliadwyedd wedi codi o'r adolygiad. Nododd Gareth fod yr
adroddiad yn cyfeirio at asesiadau effaith ond cytunodd i ystyried sut y gellid
trafod y rhain ymhellach. 4.7
O ran yr adolygiad sydd ar y gweill o Newidiadau Rheoli Prosiect,
nodwyd, er bod y Comisiwn wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn ystod y
blynyddoedd diwethaf, bod hyn yn amserol o ystyried y newid strwythur a roddwyd
ar waith mewn perthynas â llywodraethu prosiectau. Cytunodd y Cadeirydd i
ddychwelyd at y pwnc hwn ar ôl i'r archwiliad ddod i ben. Yn y cyfamser,
cytunodd Gareth i rannu’r papur cwmpasu amlinellol ag aelodau'r Pwyllgor, pan
fydd ar gael. 4.8
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor ynghylch unrhyw gynlluniau ar
gyfer adolygu'r defnydd o ystâd y Cynulliad, dywedodd Arwyn Jones y byddai hyn
yn rhan o'r strategaeth ymgysylltu ehangach. 4.9
Nododd Hugh Widdis fod yr adolygiad o effaith yr Adolygiad Capasiti yn
mynd rhagddo. Dywedodd Gareth fod y themâu sy'n dod i'r amlwg yn gyson i raddau
helaeth â'r rhai a godwyd yn ystod sesiwn dystiolaeth y Comisiwn yng nghyfarfod
y Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref. Ychwanegodd y byddai'r adolygiad hwn yn
canolbwyntio ar sicrwydd o ran gwireddu manteision. 4.10 Ail-bwysleisiodd Hugh pa mor bwysig yw cynnal archwiliadau o feysydd y Gyfarwyddiaeth Busnes, lle bo hynny’n briodol. Cytunodd Gareth, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Trafod yr adroddiadau Archwilio Mewnol diweddaraf Cofnodion: ACARAC (05-19) Papur 4 - Rheoli Absenoldeb 5.1
Gwahoddodd y Cadeirydd Gareth a Lowri
Williams, Pennaeth AD, i gyflwyno'r adroddiad archwilio mewnol ar Reoli
Absenoldeb. Esboniodd Gareth fod yr archwiliad wedi dod i'r casgliad bod y
rheolaethau a'r mecanweithiau sylfaenol ar waith yn gweithio, ac yn cynnwys
nifer fach o argymhellion cymharol fach. Disgrifiodd Lowri sut yr oedd AD yn
gweithio gyda'r Tîm Arwain a'r meysydd gwasanaeth i sicrhau bod digon o
ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i staff drwy'r polisïau a'r
gweithdrefnau sydd ar waith a bod y rhain yn cael eu defnyddio'n effeithiol. 5.2
Trafododd aelodau a swyddogion y Pwyllgor
amrywiol agweddau ar yr adroddiad gan gynnwys defnyddio data am absenoldebau.
Roedd hyn yn cynnwys trafodaeth ynghylch pa mor ddefnyddiol yw meincnodi
cyfraddau absenoldeb yn erbyn sefydliadau eraill y gwasanaeth sifil/sector
cyhoeddus ac a oedd lle i feincnodi yn erbyn deddfwrfeydd eraill. Gwnaeth Hugh
annog swyddogion i barhau i fonitro data am absenoldebau, yn enwedig pan oedd
pwysau parhaus ar adnoddau staff. 5.3
Diolchodd y Cadeirydd i Gareth a Lowri am
gyflwyno a thrafod manylion yr adroddiad gyda'r Pwyllgor, a chytunwyd ar y cyd
eu bod yn adlewyrchiad cadarnhaol o'r rheolaethau sydd ar waith, gan gydnabod y
rhai y gellid eu cryfhau. Gofynnodd i gael diweddariad o’r gwaith o weithredu’r
argymhellion yn gynnar yn 2020. Camau
i’w cymryd: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o weithredu argymhellion yr
adolygiad ar Reoli Absenoldeb. |
|
Adolygu HMT/canllawiau eraill ar gyfer Pwyllgorau Archwilio a Sicrwydd Risg (Cadeirydd a Phennaeth Archwilio Mewnol) Cofnodion: 6.1 Dywedodd
Gareth na fu unrhyw ddiweddariadau i Lawlyfr Pwyllgor Archwilio Risg a Sicrwydd
Trysorlys EM. 6.2 Roedd
Kathryn wedi dosbarthu fersiwn wedi'i diweddaru o Lyfr Oren Trysorlys EM ar
Reoli Risg i aelodau'r Pwyllgor cyn y cyfarfod. Dywedodd Gareth ei fod wedi
darganfod, mewn Fforwm Archwilio Mewnol Penaethiaid diweddar, y gallai hyn
newid gan ei fod yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, a disgwylir iddo gael ei
gyhoeddi’n llawn yn gynnar yn 2020. Byddai'n gweithio gyda'i gymheiriaid i
lunio ymateb i'r ymgynghoriad, a chadarnhaodd nad oedd dim a fyddai'n effeithio
ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor. 6.3 Cafodd y
Pwyllgor wybod bod disgwyl i ganlyniadau ymgynghoriad gan Sefydliad yr
Archwilwyr Mewnol ar dair llinell y model amddiffyn ar gyfer fframweithiau
sicrwydd gael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr. Byddai Gareth yn ystyried hyn, ynghyd
â chanllawiau newydd Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol ar gyfer archwiliadau
mewnol yn y sector gwasanaethau ariannol i asesu unrhyw effaith ar gyfer
dulliau'r Comisiwn. |
|
Adroddiad diweddaru Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: ACARAC (05-19) Papur 5 – Y wybodaeth
ddiweddaraf gan Swyddfa Archwilio Cymru 7.1 Cyflwynodd y Cadeirydd Jon Martin i'r cyfarfod,
a oedd yn bresennol ar ran Ann-Marie Harkin a Gareth Lucey, yr oedd ill dau
wedi anfon ymddiheuriadau ymlaen llaw. 7.2 Dywedodd Jon wrth y Pwyllgor fod cyfarfod
adolygu gyda Nia wedi nodi rhai mân welliannau ar gyfer y broses o archwilio
cyfrifon y flwyddyn nesaf. 7.3 Gan fod y cyfarfod hwn yn gynharach na'r arfer,
nodwyd y byddai cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn
nesaf yn cael ei rhannu y tu allan i’r cyfarfod pan fydd ar gael. 7.4 Mewn ymateb i gwestiynau gan Aled ynghylch
cyfrifiadau o’r ffioedd archwilio, nododd Jon y byddai Swyddfa Archwilio Cymru
yn darparu nodyn y tu allan i gyfarfod y Pwyllgor ar hyn. Camau i’w
cymryd: Bydd
Cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru yn cael ei ddosbarthu i aelodau'r
Pwyllgor y tu allan i'r cyfarfod, ynghyd â nodyn byr ynghylch sut y mae’r ffi
archwilio flynyddol yn cael ei chyfrif |
|
Diweddariad ar Ddiogelwch Seiber Cofnodion: ACARAC (05-19) Papur 6 – Diweddariad ar
seiberddiogelwch 8.1
Croesawodd y Cadeirydd Mark Nielson, Pennaeth
TGCh, a Jamie Hancock, Pennaeth Seilwaith a Gweithrediadau, i'r cyfarfod, gan
eu gwahodd i amlinellu manylion eu diweddariad ar seiberddiogelwch. Roedd y
papur yn cynnwys crynodeb o'r cynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion a nodwyd
yn Adroddiad Archwilio Mewnol mis Ebrill 2019, ac amlygodd Mark y canlynol: i. newid pwrpas swydd i gwmpasu diogelwch a
chydymffurfiaeth; ii. cyflwyno safonau gofynnol i bob cais a oedd wedi
cael canlyniadau ar unwaith o ran rhwystro mynediad; iii. achos busnes dros sefydlu gwasanaethau cwmwl
ychwanegol ar gyfer cadw data wrth gefn a’i adfer, a fyddai’n cael ei drafod
gan y Bwrdd Gweithredol ym mis Tachwedd; iv. gweithredu rheolyddion mewn perthynas â dyfeisiau y
gellir eu tynnu (gyriannau USB); v.
ymarfer arall i addysgu defnyddwyr ynghylch y
risgiau o we-rwydo a gynhaliwyd; vi. cynlluniau ar gyfer codi rhagor o ymwybyddiaeth yn
ystod yr wythnos ymwybyddiaeth Seiberddiogelwch, sydd wedi’i threfnu ar gyfer
diwedd mis Tachwedd. 8.2
Mewn ymateb i gwestiynau am fforddiadwyedd a
rhagor o ddibyniaeth ar Microsoft, rhoddodd Mark sicrwydd i aelodau’r Pwyllgor
fod yr holl waith a amlinellwyd yn yr adroddiad wedi’i gynnwys yn y cynlluniau
cyllideb presennol ac nad oedd adroddiad archwilio diweddar y TIAA wedi amlygu
unrhyw broblemau na phryderon. Dywedodd hefyd, ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr
allanol, fod rhagor o sicrwydd wedi’i roi o ran y trefniadau presennol.
Ychwanegodd Jamie fod y cyngor yn dangos y byddai trefnu contract allanol gyda
darparwyr eraill yn peri mwy o risg ar hyn o bryd. Byddai aelodau'r Pwyllgor yn
cael eu gwahodd i ymweld â'r safle yn y ganolfan ddata leol, ac fe’u hanogwyd i
ddod. 8.3
Cyflwynodd Jamie a Mark y Radar Risg TGCh
wedi'i ddiweddaru, gan dynnu sylw at welliannau a wnaed ers i TGCh ddod yn
swyddogaeth fewnol, yn enwedig o ran hyblygrwydd y gwasanaethau y gellid eu
darparu, a'r meysydd i'w gwella ymhellach wrth symud ymlaen. 8.4
Diolchodd y Cadeirydd i Mark a Jamie, a
gofynnodd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o ddibyniaethau
contract Microsoft ym mis Ionawr. Camau i’w cymryd:Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddibyniaethau contract Microsoft yng
nghyfarfod mis Ionawr. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb Cofnodion: ACARAC (05-19) Papur 7 – Diweddariad ar
Sefyllfa Ariannol 2019-20 a Chyllideb 2020-21 9.1
Aeth Nia drwy’r papur gyda’r Aelodau, gan nodi’r
sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2019-20, a chyflwyno’r wybodaeth
ddiweddaraf am y gwaith i gymeradwyo cynigion cyllideb 2020-21. 9.2
Diolchodd y Cadeirydd i Nia am y wybodaeth a
nododd y Pwyllgor y papur. |
|
Adborth ar y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus diweddar Cofnodion: 10.1 Rhoddodd Nia ddiweddariad i aelodau'r Pwyllgor
ynghylch ymddangosiadau diweddar gerbron y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus. Dywedodd nad oedd unrhyw faterion o bwys wedi'u nodi yn
ystod y sesiynau tystiolaeth, a'i bod yn gallu rhoi sicrwydd ynghylch
trefniadau ar gyfer swyddfa'r Comisiynydd Safonau. 10.2 Disgwylir i adroddiad y Pwyllgor Cyllid, a’r ymateb
arfaethedig, gael eu trafod gan y Comisiwn ym mis Tachwedd. Byddai Nia yn
dosbarthu’r rhain i aelodau'r Pwyllgor pan gytunir ar yr ymateb. 10.3 Mewn ymateb i gwestiynau gan Aled ynghylch lefelau'r
tanwario mewn perthynas â chostau staffio Aelodau'r Cynulliad, eglurodd Nia fod
hyn yn gysylltiedig, yn rhannol, â'r gyllideb a neilltuwyd ar gyfer trosiant
staff. Dywedodd Manon, yn dilyn argymhellion blaenorol a wnaed gan y Pwyllgor
Cyllid, y byddai unrhyw danwariant yn y maes hwn bellach yn cael ei ddychwelyd
i Gronfa Gyfunol Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Camau i’w cymryd:Dosbarthu adroddiad y Pwyllgor Cyllid ac ymateb y Comisiwn i aelodau'r
Pwyllgor. |
|
Adroddiad Risgiau Corfforaethol Cofnodion: ACARAC
(05-19) Papur 8 – Risgiau Corfforaethol 11.1 Cyflwynodd Dave y papur, a oedd yn rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf i'r Pwyllgor am statws Risgiau Corfforaethol y Comisiwn. 11.2 Nododd Hugh statws risg y Legislative Workbench, a
gofynnodd am ragor o fanylion ynghylch y datrysiad ymarferol a awgrymir yn y
papur. Dywedodd Siwan y byddai hyn yn ddwys o ran adnoddau ac na fyddai’n
ddigonol nac yn ymarferol yn y tymor hwy. Cydnabu'r Pwyllgor fod y risg hon, a
oedd wedi codi o amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Comisiwn, yn anochel yn y
tymor byr, ac roedd yn fodlon ar y camau sy’n cael eu cymryd i leddfu’r risg. 11.3 Dywedodd Dave, ar ôl i'r gwaith o wella elfennau
seiberddiogelwch y system gyfredol gael ei gwblhau, y byddai'r sgôr risg yn
lleihau’n sylweddol. Wrth edrych ymlaen, roedd y Bwrdd Gweithredol wedi cytuno
i gynnal ymarfer caffael ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a oedd i fod i ddechrau
ym mis Tachwedd 2019. Cafodd y Pwyllgor sicrwydd o’r diweddariad hwn. 11.4 Mewn ymateb i sylwadau gan Suzy, cytunodd y
swyddogion i adolygu’r graddfeydd risg wleidyddol mewn perthynas â Diwygio’r
Cynulliad. |
|
Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi'i nodi neu risg newydd Cofnodion: ACARAC (05-19) Papur 9 - Risg Brexit 12.1
Croesawodd y Cadeirydd Siwan Davies,
Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad, Kathryn Potter, Pennaeth y Gwasanaeth Ymchwil, a
Manon George, Cydlynydd Brexit, i’r cyfarfod, a diolchodd iddynt am y papur yn
amlinellu dull y Comisiwn ar gyfer rheoli’r risgiau sy’n ymwneud â Brexit. 12.2
O ystyried yr ansicrwydd hirsefydlog ynghylch
amseriad Brexit, hysbyswyd y Pwyllgor fod un o'r heriau mwyaf yn ymwneud â
chynllunio sut y byddai'r Cynulliad yn sicrhau’r adnoddau ar gyfer y gwaith y
mae angen iddo ei gyflawni fel deddfwrfa. 12.3
Dywedodd Kathryn fod y dull ailadroddol a
roddwyd ar waith hyd yma, drwy ymarferion cynllunio senarios rheolaidd, wedi
gweithio'n dda, a’i fod wedi helpu i nodi pwysau a phroblemau a allai godi yn
sgil canlyniadau amrywiol Brexit. 12.4
Gofynnodd Ann pa mor effeithiol yw’r Fforwm
Rhyng-seneddol ar Brexit, ac a oedd swyddogion yn cael y wybodaeth ddiweddaraf
am drafodaethau. Dywedodd Manon George fod holl seneddau'r DU yn cael eu
cynrychioli ac yn cymryd rhan mewn deialog werthfawr ar lefel wleidyddol a
swyddogol. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Comisiwn i fod i gynnal cyfarfod nesaf y
fforwm yn ddiweddarach eleni. 12.5 Diolchodd y Cadeirydd i Siwan, Kathryn a Manon am
ddod, gan roi diweddariad calonogol mewn perthynas â'r risg hon. |
|
Torri rheolau gwybodaeth Cofnodion: 13.1 Nododd y Pwyllgor fod dau achos o dorri rheolau
gwybodaeth wedi’u cofnodi ond penderfynwyd na ddylid cymryd unrhyw gamau
pellach. |
|
Adborth gan REWAC Cofnodion: 14.1 Rhoddodd Ann
ddiweddariad ar feysydd a drafodwyd yn ystod y flwyddyn mewn cyfarfodydd REWAC.
Mae hefyd yn aelod o’r Pwyllgor hwn. Roedd y trafodaethau hyd yn hyn wedi
canolbwyntio ar ganlyniadau arolygon staff a chynigion ar gyfer arolygon yn y
dyfodol, Strategaeth Pobl y Comisiwn, a Strategaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd y
Comisiwn. 14.2 Gan fod y Cyfarwyddwr
Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn newydd, cytunodd yr aelodau i ailedrych ar y
strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd mewn cyfarfod yn y dyfodol. 14.3
Cytunodd y Pwyllgor, yn amodol ar
gymeradwyaeth REWAC, i rannu cofnodion cyfarfod rhwng y ddau bwyllgor, a rhannu
gwybodaeth arall o bryd i'w gilydd, megis risgiau corfforaethol. 14.4 Roedd y
Cadeirydd a'r swyddogion yn awyddus i sicrhau bod cylchoedd gwaith gwahanol pob
Pwyllgor yn glir, gan hwyluso ymgyfnewid effeithiol ar yr un pryd. |
|
Arolwg effeithiolrwydd y Pwyllgor Cofnodion: 15.1 Cytunodd y Cadeirydd y byddai'r arolwg yn cael
ei rannu y tu allan i'r Pwyllgor er mwyn cael sylwadau gan aelodau’r Pwyllgor. Camau i’w cymryd:Bydd sylwadau ar amseriad a chynnwys arolwg effeithiolrwydd y Pwyllgor
yn cael eu hanfon at y Cadeirydd a’r Tîm Clercio |
|
Cyflwyno Adroddiad Blynyddol ACARAC i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: 16.1 Byddai'r Cadeirydd yn rhoi adborth y tu allan
i'r Pwyllgor ynghylch cyflwyno Adroddiad Blynyddol ACARAC i Gomisiwn y
Cynulliad ym mis Gorffennaf 2019. |
|
Crynodeb o’r Ymadawiadau Cofnodion: ACARAC
(05-19) Papur 10 – Crynodeb o’r ymadawiadau 17.1 Nododd y Pwyllgor y gwyriadau oddi ar y
gweithdrefnau caffael arferol a nodwyd yn y papur. |
|
Blaenraglen Waith Cofnodion: ACARAC (05-19) Papur 11 - Y flaenraglen waith 18.1 Gan na
thrafodwyd yr eitem hon - byddai aelodau'r Pwyllgor yn cael eu gwahodd i roi
sylwadau y tu allan i'r Pwyllgor. |
|
Sylwadau gan aelod o'r Pwyllgor sy'n gadael (wedi'i symud o Eitem 3) Cofnodion: 12.1
Diolchodd y Cadeirydd i Hugh am ei gyfraniadau gwerthfawr yn ystod ei
gyfnod fel aelod o ACARAC, a gwahoddodd ef i rannu ei sylwadau am gyfnod ei
swydd. 12.2
Diolchodd Hugh i aelodau a swyddogion presennol a blaenorol y Pwyllgor
am y diwylliant agored a chadarnhaol a brofodd fel aelod o’r Pwyllgor ers ymuno
yn 2013. Teimlai fod lefel y cydweithredu yn ffactor allweddol o ran
effeithiolrwydd gwaith llywodraethu’r Comisiwn. Soniodd yn fras am rai o’r
uchafbwyntiau yn ystod ei gyfnod o weithio gydag ACARAC, gan nodi’r canlynol: i.
y newidiadau i'r proffil risg corfforaethol, gan nodi’r cynnydd yn erbyn
meysydd fel parhad busnes, gwasanaethau TGCh, y cyfryngau cymdeithasol a
diogelu; ii.
yr ethos o welliant parhaus, a’r defnydd o sicrwydd ansawdd mewnol ac
allanol; iii.
sut roedd y cyfarfodydd rheolaidd ar faterion llywodraethu gyda
Phenaethiaid Gwasanaeth a Chyfarwyddwyr wedi helpu i gadw golwg ar lywodraethu
yn ystod y flwyddyn; iv.
y prosesau llyfn ar gyfer archwilio cyfrifon y Comisiwn; v.
ymdrin yn effeithiol â newidiadau i'r defnydd o danwariant mewn
perthynas â Phenderfyniad y Bwrdd Taliadau; vi.
yr aeddfedrwydd a ddangoswyd gan y Comisiwn wrth gofnodi a rheoli
risgiau, yn enwedig o ran Brexit a newid cyfansoddiadol; vii.
sut roedd ymchwilio’n ddwfn i risgiau unigol a thrafodaethau manwl wedi
helpu aelodau’r Pwyllgor i ddysgu mwy am y sefydliad; ac viii. y gwerth
ychwanegol gan gyflwynwyr allanol yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor. 12.3
Diolchodd y Cadeirydd i Hugh am ei gyfraniadau at yr holl bwyntiau hyn.
Nododd hefyd y gwerth yr oedd Hugh wedi'i ychwanegu at y gwaith o graffu a
herio Datganiadau Sicrwydd y Comisiwn. Diolchodd Manon iddo am ei gyfraniadau,
yn benodol o ran risg a sicrwydd, a hefyd am ei gyfraniad wrth benodi
Cynghorwyr Annibynnol newydd. Trefnwyd i gynnal y cyfarfod nesaf ar 20
Ionawr 2020. |