Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30 - 14.45)

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod. Ar ran y Bwrdd, llongyfarchodd y Cadeirydd Ronnie Alexander ar ei benodiad i'r Bwrdd a'i groesawu i'w gyfarfod Bwrdd cyntaf.

 

1.2 Croesawodd y Cadeirydd Lleu Williams, a benodwyd yn Glerc newydd i'r Bwrdd Taliadau. Hefyd, ar ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd i Dan Collier am ei waith i’r Bwrdd a'i longyfarch ar ei ddyrchafiad diweddar.

 

1.3 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai 2017.

 

1.4 Nododd y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017 a dyddiadau ei gyfarfodydd hyd at fis Mawrth 2019. Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio'r dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd ym mis Hydref a mis Tachwedd 2017.

 

1.5 Cytunodd y Bwrdd i estyn gwahoddiad ffurfiol i Gadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i'w gyfarfod ym mis Hydref 2017 i drafod y materion a allai ymwneud â gwaith y Bwrdd yn y dyfodol wrth ddatblygu Penderfyniad sy'n addas i'r Chweched Cynulliad.

 

1.6 Dywedodd yr Ysgrifenyddiaeth wrth y Bwrdd y byddai papur yn amlinellu'r broses a ddefnyddir gan Gymorth Busnes yr Aelodau wrth weinyddu hawliadau yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Hydref.

 

1.7 Trafododd y Bwrdd y broses ar gyfer adolygu diogelwch swyddfeydd a chartrefi'r Aelodau a gofynnodd i'r Ysgrifenyddiaeth atgoffa Aelodau am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt.

 

1.8 Anfonodd y Bwrdd gydymdeimladau at deulu Sam Gould, uwch-gynghorydd Nathan Gill AC, ac at deulu Ben Davies, dirprwy bennaeth staff y Ceidwadwyr Cymreig, yn eu profedigaeth.

 

1.9 Nododd y Bwrdd y cwestiwn a ofynnwyd yn ystod Cwestiynau'r Cynulliad ar 5 Gorffennaf a chytunodd i ystyried rôl interniaethau cyflogedig gydag Aelodau'r Cynulliad fel rhan o'i adolygiad ehangach o gymorth i Aelodau

 

Camau gweithredu:

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn

·         cyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai;

·         gwahodd Cadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i gyfarfod y Bwrdd ym mis Hydref 2017;

·         paratoi papur sy'n amlinellu'r broses y mae Cymorth Busnes yr Aelodau yn ei defnyddio wrth weinyddu hawliadau; ac

·         atgoffa Aelodau o'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt o ran adolygiadau diogelwch.

 

 

 

 

(14.45 - 15.30)

2.

Eitem ar gyfer penderfyniad: Adolygiad o Brisiad Actiwaraidd Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Bwrdd y papur ar yr adolygiad o Brisiad Actiwaraidd Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad.

 

2.2 Cadarnhaodd y Bwrdd eu bod yn fodlon â chyfradd gyfrannu uwch y Comisiwn a chytunwyd i hysbysu Actiwari'r Cynllun, sy'n gosod cyfradd cyfraniad y Comisiwn.

 

Cam gweithredu:

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn hysbysu Actiwari'r Cynllun o safbwyntiau'r Bwrdd.

 

(15.45 - 17.00)

3.

Eitem i'w drafod: Ystyried canlyniadau'r arolwg o Aelodau a Staff Cymorth ar effeithiolrwydd y Penderfyniad

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Bwrdd ganlyniadau'r arolwg o Aelodau a Staff Cymorth ar effeithiolrwydd y Penderfyniad a chytunodd ar:

-     gyhoeddi crynodeb o'r canlyniadau ar wefan y Bwrdd a dwyn y crynodeb hwn at sylw'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad; a

-     ystyried canlyniadau'r arolwg fel rhan o'i adolygiad o strwythur gyrfa Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad a'u telerau ac amodau.

 

Camau gweithredu:

Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth ar:

-     ymgorffori'r canlyniadau perthnasol i bapurau cwmpasu yn y dyfodol, er enghraifft yr adolygiad o strwythur gyrfa Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad; a

-     chyhoeddi adroddiad cryno o'r canlyniadau.