Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00 - 10.00)

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1      Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.

1.2      Llongyfarchodd y Bwrdd Adrian Crompton ar ei benodiad diweddar fel Archwilydd Cyffredinol Cymru. Ar ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd Adrian am ei waith, arweiniad a chymorth yn ei rôl fel uwch gynghorydd i'r Bwrdd.

1.3      Croesawodd y Cadeirydd Craig Stephenson i'r cyfarfod, a fydd yn cefnogi'r Bwrdd yn sgil ymadawiad Adrian.

1.4      Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2018.

1.5      Trafododd y Bwrdd y darpariaethau yn y Penderfyniad o ran y treuliau eithriadol a chytunodd i drafod y mater eto yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf.

1.6      Trafododd y Bwrdd ei flaenraglen waith a chytunodd i edrych ar y mater eto ar ôl iddo gytuno ar gwmpas adolygiad y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.

 

Camau gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod ar 15 Mawrth 2018.

 

(10.00 - 12.00)

2.

Eitem i'w thrafod: Yr adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar y rhwystrau a'r cymhellion dros sefyll mewn etholiad i'r Cynulliad

Cofnodion:

2.1.     Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Roger Awan-Scully a Dr Huw Pritchard, a oedd yn cynrychioli tîm ymchwil Canolfan Llywodraethiant Cymru ar gyfer yr adolygiad, i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Dr Diana Stirbu a oedd i fod i drafod yr adroddiad dros fideogynadledda, ond nad oedd yn gallu cymryd rhan oherwydd problemau technegol annisgwyl.

2.2.     Trafododd y Bwrdd yr adroddiad gyda'r tîm ymchwil.

2.3.     Yn ystod y trafodaethau preifat ar yr adroddiad, trafododd y Bwrdd y camau nesaf ar gyfer yr adolygiad.

 

Camau gweithredu

Yr ysgrifenyddiaeth i ofyn am farn y tîm ymchwil o ran camau nesaf arfaethedig y Bwrdd.

(13.00 - 15.00)

3.

Eitem i'w thrafod: Adolygiad o gefnogaeth staffio i’r Aelodau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

Ymgynghori ar hyblygrwydd y lwfansau i Aelodau’r Cynulliad

3.1.     Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a chytunodd i weithredu'r newidiadau canlynol o 1 Hydref 2018:

-    dileu'r terfyn o 111 o oriau ar staff a gyflogir yn barhaol;

-    caniatáu i'r Aelodau drosglwyddo hyd at 25 y cant o'u Lwfans Costau Swyddfa a'r arian llawn gan y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu yn eu Lwfans Staffio.

3.2.     Cytunodd y Bwrdd gan y byddai'r newidiadau i'r weithdrefn trosglwyddo ariannol yn cael eu gweithredu hanner ffordd drwy'r flwyddyn ariannol, byddai'r swm sydd ar gael i'w drosglwyddo yn pro rata ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19.

3.3.     Cytunodd y Bwrdd i gyfrifo'r balans sy'n weddill o'r Lwfans Staffio ar y gost wirioneddol yn hytrach na chyfanswm y gost uchaf fel yw'r arfer ar hyn o bryd. Byddai'r newid hwn yn cael ei weithredo o 1 Ebrill 2019 er mwyn caniatáu i roi systemau priodol ar waith i helpu Aelodau i reoli unrhyw anwadalrwydd yn y gyllideb.

3.4.     Cytunodd y Bwrdd hefyd i gyhoeddi gwariant pob Aelod unigol ar ei Lwfans Staffio ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Bydd yr un weithdrefn a ddefnyddir i gyhoeddi gwariant arall yn erbyn pob Aelod unigol yn cael ei dilyn er mwyn cyhoeddi'r wybodaeth. Pe bai Aelod ond yn cyflogi un aelod o staff cymorth o fewn y flwyddyn ariannol, ni fydd y wybodaeth honno'n cael ei chyhoeddi.

3.5.     Cytunodd y Bwrdd i roi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad mewn unrhyw ddeunydd y bydd yn ei gynhyrchu ar ddiwedd yr adolygiad.

 

Camau gweithredu

Yr ysgrifenyddiaeth i:

-    roi gwybod i Aelodau a staff cymorth am y newidiadau sydd i ddod;

-    paratoi Penderfyniad diwygiedig i'w gyhoeddi ym mis Hydref 2018;

-    paratoi canllawiau ar gyfer Aelodau a staff cymorth.

 

Ymgynghori ar hyblygrwydd y lwfansau i Bleidiau Gwleidyddol

3.6.     Trafododd y Bwrdd oblygiadau'r newidiadau hyn ar y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol a chytunodd i ymgynghori ar y cynigion a ganlyn:

-    cyllidebu Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol ar bwyntiau cyflog gwirioneddol;

-    cyhoeddi’r gwariant y mae pob Plaid Wleidyddol yn ei wneud ar ei Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol;

-    cael gwared ar y ddarpariaeth yn y Penderfyniad sy'n caniatáu ar gyfer trosglwyddo unrhyw arian newydd o Lwfans Staffio yr Aelod i'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol.

3.7.     Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai 20 Gorffennaf 2018.

3.8.     Cytunodd y Bwrdd i edrych eto ar y materion eraill a nodir yn ystod yr adolygiad yn ystod tymor yr hydref.

 

Camau gweithredu

Yr ysgrifenyddiaeth i:

-    gyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;

-    paratoi crynodeb o'r ymatebion er mwyn i'r Bwrdd eu hystyried.

 

 

(15.15 - 15.45)

4.

Eitem i'w thrafod: Adolygu effeithiolrwydd y Bwrdd

Cofnodion:

4.1.     Trafododd y Bwrdd y materion a godwyd fel rhan o'i adolygiad canol tymor a chytunodd ei fod yn fodlon â gwaith gweithredu mewnol y Bwrdd.

 

Cam gweithredu

Y Bwrdd i gynnal adolygiad llawn o'i effeithiolrwydd tuag at ddiwedd ei dymor.

 

(15.45 - 16.15)

5.

Eitem i'w thrafod: Polisi Urddas a Pharch

Cofnodion:

5.1.     Nododd y Bwrdd y Polisi Urddas a Pharch diwygiedig a gafodd ei gymeradwyo gan y Cynulliad yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 16 Mai.

5.2.     Gan fod y Polisi wedi'i gymeradwyo, cytunodd y Bwrdd i adolygu'r polisïau y mae'n gyfrifol amdanynt. Cytunodd y Bwrdd y byddai'r gwaith hwn yn cael ei wneud ar ôl i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad gwblhau ei ymchwiliad i'r Adolygiad o'r Cod Ymddygiad i Aelodau’r Cynulliad.

 

Cam gweithredu

Yr ysgrifenyddiaeth i roi gwybod i'r grwpiau cynrychioliadol am y gwaith y bydd y Bwrdd yn ei wneud.

 

6.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

6.1.     Nododd y Bwrdd yr ohebiaeth gan IPSA ar ei ymgynghoriad ar daliadau Aelodau Seneddol a pholisi cyhoeddi'r IPSA.

 

Cam gweithredu:

Y Bwrdd i ymateb i'r llythyr i ofyn ei fod yn cael gwybod am ganlyniad y gwaith a wneir o ystyried ei fod yn berthnasol yn uniongyrchol i'w waith.