Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Lleu Williams
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00 - 10.00) |
Cyflwyniad y Cadeirydd Cofnodion: 1.1.
Croesawodd y Cadeirydd
aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod. 1.2.
Cytunodd y Bwrdd ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai 2018. Cam gweithredu: Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi
cofnodion y cyfarfod ar 24 Mai 2018. |
|
(10.00 - 11.30) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Cwmpas yr adolygiad Cofnodion: 2.1.
Trafododd y Bwrdd gwmpas
adolygiad y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad a chytunodd ar y
canlynol: - y darpariaethau yn y Penderfyniad y gallai fod angen rhoi
sylw arbennig iddynt yn ystod yr adolygiad; - sut gallai ddymuno grwpio'r materion a godwyd i'w
hystyried; - trafod y dulliau mwyaf priodol o ymgysylltu â
rhanddeiliaid fesul achos. 2.2.
Cytunodd y Bwrdd i drafod
goblygiadau rhaglen y Comisiwn ar gyfer diwygio'r Cynulliad i'r Penderfyniad
pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael. 2.3.
Cadarnhaodd y Bwrdd ei
fwriad i gyhoeddi'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn yr
etholiad cyffredinol. 2.4.
Cytunodd y Bwrdd i drafod
rhaglen waith fanylach ar gyfer yr adolygiad yn ei gyfarfod nesaf. Cam
gweithredu: Yr
ysgrifenyddiaeth i baratoi rhaglen waith fanwl i'r Bwrdd ei drafod yn ei
gyfarfod nesaf. |
|
(11.30 - 12.15) |
Eitem i'w thrafod: Effaith newid Arweinydd ar staff cymorth grŵp Cofnodion: 3.1.
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd
am y tribiwnlys cyflogaeth presennol. |
|
(13.00 - 13.45) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Treuliau eithriadol: Trafod canllawiau a ffurflen gais Cofnodion: 4.1.
Cytunodd y Bwrdd i
dreialu ffurflen gais newydd i'r Aelodau a hoffai wneud cais am dreuliau
eithriadol o dan adran 2.4 o'r Penderfyniad. Camau
gweithredu: Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn: - cyhoeddi'r ffurflen gais; - monitro unrhyw adborth a geir am y ffurflen. |
|
(13.45 - 14.30) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Trafod Adroddiad Blynyddol drafft y Bwrdd Taliadau 2017–18 Cofnodion: 5.1. Trafododd y Bwrdd Adroddiad
Blynyddol drafft y Bwrdd Taliadau 2017-18 ac, yn amodol ar fân newidiadau,
cytunodd i gyhoeddi'r adroddiad maes o law. Camau
gweithredu: Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn: - adlewyrchu'r newidiadau y
gofynnodd y Bwrdd amdanynt yn yr adroddiad; - paratoi'r adroddiad ar gyfer ei
gyhoeddi. |
|
(14.30 - 15.00) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Llywodraethiant Cynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cofnodion: 6.1.
Cytunodd y Bwrdd i
sefydlu corff dynodedig a fyddai'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar ran
staff cymorth. 6.2.
Hefyd, cytunodd y Bwrdd
ar y canlynol: - byddai'r corff yn cynnwys y Pennaeth Pensiynau a
chynrychiolydd o'r Bwrdd a'r Comisiwn; - a dylai gyfarfod yn flynyddol. Cam
gweithredu: Yr
ysgrifenyddiaeth i sefydlu'r corff ac i hysbysu'r Bwrdd am ei weithgareddau. |
|
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 7.1.
Nododd y Bwrdd: - yr ohebiaeth gan y Grŵp Llafur a chytunodd i ymateb
i'r materion a godwyd; - adroddiad y datganiad a chanlyniadau'r arolwg Urddas a
Pharch. Cam
gweithredu: Y Bwrdd i
ymateb i'r Grŵp Llafur. |