Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda B - Ty_Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15 - 10.15)

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1.     Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.

1.2.     Cafodd y Cadeirydd ymddiheuriad gan Trevor Reaney. Gwnaeth Trevor sylwadau ar bob eitem cyn y cyfarfod.

1.3.     Croesawodd y Cadeirydd Joanna Adams i'r cyfarfod, a fydd yn helpu'r Bwrdd yn ei rôl fel Uwch-bartner Busnes Aelodau'r Cynulliad.

1.4.     Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd mai hwn fydd cyfarfod olaf Siân Giddins fel Dirprwy Glerc y Bwrdd. Ar ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd i Siân am ei gwaith dros y ddwy flynedd diwethaf a dymunodd yn dda iddi yn ei rôl newydd.

1.5.     Yn amodol ar ddiwygiad mân, derbyniodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod ar 17 Ionawr 2019.

1.6.     Trafododd y Bwrdd oblygiadau posibl y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ar ei gylch gwaith a chytunodd i fonitro hynt y Bil drwy'r Cynulliad.

1.7.     Trafododd y Bwrdd y diwygiadau i'r polisïau a gweithdrefnau perthnasol yn sgil ei benderfyniadau blaenorol i gyflwyno diwrnodau braint a pholisi absenoldeb tosturiol ffurfiol, yn ogystal â diwygio'r Gweithdrefnau Disgyblu a Chwynion. Cytunodd y Bwrdd i rannu'r polisïau a'r gweithdrefnau â'r Grwpiau Cynrychiolwyr cyn eu cyflwyno'n ffurfiol.

1.8.     Nododd y Bwrdd y sylw diweddar yn y cyfryngau i'r lwfans dirwyn i ben a chytunodd i gynnal y darpariaethau presennol.

1.9.     Dywedodd yr ysgrifenyddiaeth wrth y Bwrdd, yn dilyn ei benderfyniad i ysgrifennu at yr holl staff cymorth sy'n gweithio i Aelodau annibynnol y Cynulliad i ofyn iddynt ffurfioli trefniadau ar gyfer ymgysylltu â'r Bwrdd, nad oedd consensws wedi'i gyflawni ynghylch pwy ddylai gynrychioli'r garfan hon o staff. Fel y cyfryw, cytunodd y Bwrdd i rannu gwybodaeth berthnasol â'r holl staff o'r fath yn electronig.

Camau gweithredu:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn gwneud y canlynol:

-        cyhoeddi nodyn y cyfarfod ar 17 Ionawr;

-        dosbarthu'r polisïau a'r gweithdrefnau diwygiedig i'r Grwpiau Cynrychiolwyr;

-        ysgrifennu at yr holl staff cymorth sy'n gweithio i'r Aelodau annibynnol i'w hysbysu o'i phenderfyniad.

 

(10.15 - 11.15)

2.

Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Trydedd ystyriaeth o ran un

Cofnodion:

 

1.1.  Trafododd y Bwrdd y darpariaethau ym mhenodau'r Penderfyniad sy'n ymwneud â Gwariant ar Lety Preswyl, Siwrneiau'r Aelodau a Chostau Swyddfa sy'n dod dan ran un o'r adolygiad.

1.2.     Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar ei gynigion i ddiwygio'r penodau hyn yn y Penderfyniad.

1.3.     7 Mehefin 2019 fyddai'r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad.

Camau gweithredu:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn gwneud y canlynol:

-        cyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;

-        llunio crynodeb o'r ymatebion i'r Bwrdd eu trafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(11.15 - 12.15)

3.

Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ystyriaeth gyntaf o ran dau

Cofnodion:

1.1.  Cynhaliodd y Bwrdd ei drafodaeth gyntaf o'r materion sy'n dod dan ran dau o'r adolygiad ynghylch y cymorth a roddir ar gyfer yr Aelodau ac i Bleidiau Gwleidyddol, sef penodau 7 ac 8 o'r Penderfyniad yn y drefn honno.

1.2.     Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion hyn yn ei gyfarfod nesaf.

 

(13.00 - 14.00)

4.

Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ystyriaeth gyntaf o ran dau (parhad)

Cofnodion:

4.1.     As item 3.

(14.00 - 14.45)

5.

Eitemau i'w trafod: Gwerthuso rôl yr Uwch Gynghorydd: Adroddiad gan Capital People

Cofnodion:

1.1.     Croesawodd y Bwrdd Paul Clayton a Joe Glover, a oedd yn cynrychioli Capital People, i'r cyfarfod.

1.2.     Gwahoddodd y Cadeirydd Paul a Joe i roi trosolwg o'r adroddiad i'r Bwrdd ac i ymateb i'r pwyntiau eglurhad a godwyd.

1.3.     Cytunodd y Bwrdd i drafod y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i gysylltu â Capital People ar ran y Bwrdd i gytuno ar y camau nesaf.

 

(15.00 - 15.30)

6.

Eitem i'w thrafod: Gwerthuso rôl yr Uwch Gynghorydd: Adroddiad gan Capital People (parhad)

Cofnodion:

6.1.     As item 5.

(15.30 - 16.30)

7.

Eitem ar gyfer penderfyniad: Adolygiad blynyddol o Benderfyniad 2019-20

Cofnodion:

1.1.     Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gafwyd i'w gynigion fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad.

Lwfans Costau Swyddfa

1.2.     Nododd y Bwrdd y pryderon a godwyd ynghylch ei gynigion i gynnal y lwfans Costau Swyddfa ar gyfer ei Benderfyniad nesaf. Fodd bynnag, gan nad oedd dim tystiolaeth i awgrymu y dylid cynyddu'r lwfans, cytunodd y Bwrdd i weithredu ei gynigion sy'n cynnal y lwfansau ar y gyfradd bresennol.

Gwariant ar Lety Preswyl

1.3.     Nododd y Bwrdd y gefnogaeth i'w gynigion i ddiwygio'r darpariaethau ynghylch y lwfans ardal ryngol, ar gyfer cynyddu'r gwerth ac egluro ei ddefnydd, a chytunodd i weithredu'r newidiadau yn ei Benderfyniad nesaf.

1.4.     Cytunodd y Bwrdd hefyd i gynyddu'r lwfans ardal allanol 2.4 y cant, sef y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar gyfer mis Medi 2018.

1.5.     Cytunodd y Bwrdd i gynnal yr holl lwfansau eraill sy'n gysylltiedig â Gwariant ar Lety Preswyl.

Camau gweithredu:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn gwneud y canlynol:

-        ysgrifennu'n ffurfiol at Aelodau'r Cynulliad a'r staff cymorth yn cadarnhau'r newidiadau i'r Penderfyniad ar gyfer 2019-20, gan gynnwys manylion eu cyflogau a fydd yn cynyddu 1.2 y cant yn unol â'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE), Enillion Canolrif gros ar gyfer swyddi cyflogeion amser llawn yng Nghymru;

-        cyhoeddi'r Penderfyniad diwygiedig.