Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9.15 - 10.15) |
Cyflwyniad y Cadeirydd Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod. 1.2
Nododd y
Cadeirydd ymddiheuriadau gan Michael Redhouse a Ronnie Alexander; roedd y ddau
wedi darparu sylwadau ar bapurau cyn y cyfarfod. 1.3
Croesawodd
y Cadeirydd Ruth Hatton i'w chyfarfod cyntaf fel Dirprwy Glerc. 1.4
Cytunodd y
Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod ar 21 Mawrth 2019 yn amodol ar fân newid. 1.5
Nododd y
Bwrdd y diweddariad ar Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yng Nghyfnod 1 yn y
Cynulliad ar hyn o bryd. 1.6
Cytunodd y
Bwrdd ar newidiadau arfaethedig i'r weithdrefn Disgyblu a Chwyno yn dilyn
ymgynghoriad â'r Aelodau a'r staff cymorth. Cytunodd y Bwrdd i roi'r
gweithdrefnau ar waith cyn gynted â phosibl. 1.7
Nododd y
Bwrdd y diweddariad ar gaffael larymau diogelwch personol ar gyfer yr Aelodau a
chytunodd i ystyried diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf ar ôl i'r broses
gaffael ddod i ben. 1.8
Cytunodd y
Bwrdd i'r ysgrifenyddiaeth barhau i atgoffa Aelodau Annibynnol a staff cymorth
am y ffyrdd y gallant ymgysylltu â'r Bwrdd a rhannu eu barn ag ef. 1.9
Nododd y
Bwrdd ddiweddariad mewn perthynas ag adnewyddu yswiriant Arferion Cyflogaeth.
Cytunodd y Bwrdd i gael diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf yn dilyn
trafodaethau â Chomisiwn y Cynulliad. 1.10 Nododd y Bwrdd y newidiadau i'r Grwpiau
gwleidyddol yn y Cynulliad dros yr wythnosau diwethaf a chytunodd i fonitro
newidiadau a allai gael effaith ar y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol. |
|
(10.15 - 11.00) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o Reolau'r Cynllun Pensiwn Cofnodion: 2.1
Trafododd
y Bwrdd y cyngor cyfreithiol diweddar ar oblygiadau gwahaniaethu posibl ar sail
oed yn deillio o nifer o ddarpariaethau yng Nghynllun Pensiwn Aelodau'r
Cynulliad. 2.2
Gan mai'r
Bwrdd sy'n gyfrifol am osod rheolau'r Cynllun, cytunodd i wneud rhai newidiadau
i'r rheolau gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben. 2.3
Cytunodd y
Bwrdd hefyd i rannu ei gynigion â'r Bwrdd Pensiynau cyn ymgynghori â
rhanddeiliaid ar y newidiadau hyn yn ddiweddarach yn yr haf. |
|
(11.15 - 12.00) |
Eitem i'w thrafod: Adolygiad chwe mis o hyblygrwydd lwfansau Cofnodion: 3.1
Trafododd
y Bwrdd adolygiad chwe mis o hyblygrwydd lwfansau staffio yn dilyn gweithredu
newidiadau a oedd yn cynnwys cael gwared ar y cap 111 awr ar gyflogi staff
parhaol, cyllidebu costau cyflogau yn ôl y costau gwirioneddol, a newidiadau
i'r opsiynau trosglwyddo sydd ar gael i Aelodau. 3.2
Cytunodd y
Bwrdd i gynnal adolygiad pellach ym mis Tachwedd a mis Ionawr i ganiatáu i'r
newidiadau gael mwy o amser i gael effaith. Cytunodd y Bwrdd i gynnal
ymgynghoriad pellach os oes angen unrhyw newid o ganlyniad i'r ystyriaethau hyn
yn y dyfodol. |
|
(12.45 - 13.45) |
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ail drafodaeth o faterion sy'n codi o dan ran dau Cofnodion: 4.1 Cafodd
y Bwrdd ei ail drafodaeth o'r materion sy'n dod o dan ran dau o'r adolygiad
ynghylch y cymorth a roddir ar gyfer yr Aelodau ac i Bleidiau Gwleidyddol, sef
penodau 7 ac 8 o'r Penderfyniad. 4.2 Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion hyn yn
ei gyfarfod nesaf. |
|
(13.45 - 14.45) |
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Trafodaeth gyntaf o ran tri Cofnodion: 5.1
The Board undertook it first consideration of the issues which fall under part
three of the review focusing on salaries of Members and office holders leaving
office and additional support. 5.2
The Board agreed to return to these issues at its next meeting. |
|
(15.00 - 16.00) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adroddiad drafft ar yr adolygiad o'r cymorth staffio i'r Aelodau Cofnodion: 6.1 Trafododd
a chytunodd y Bwrdd ei adroddiad drafft ar yr adolygiad o'r cymorth staffio i
Aelodau, yn amodol ar fân newidiadau. 6.2
Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi'r adroddiad yn fuan. |