Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd ·
Cofnodion
y cyfarfod ar 16 Ionawr 2020 – Papur 1 ·
Papur
diweddaru a’r rhaglen waith – Papur 2 ·
Trafod
y llythyr gan y Pwyllgor Busnes – Papur 3 Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro
Aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan y Fonesig Dawn Primarolo. Dewiswyd Trevor Reaney yn
Gadeirydd Dros Dro ar gyfer y cyfarfod hwn. 1.3 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr. 1.4 Cyn y cyfarfod, cyfarfu'r Bwrdd â'r Grŵp Cynrychiolwyr Aelodau a
Grŵp Cynrychiolwyr y staff cymorth, a oedd yn adeiladol ac a groesawyd yn
fawr. Nododd y Bwrdd y byddai materion a godwyd yn y cyfarfodydd hynny yn
llywio ei adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. 1.5 Trafododd y Bwrdd pa adnoddau ychwanegol y gallai eu gweithredu i wneud ei
orau i liniaru unrhyw risg posibl i ddiogelwch staff cymorth wrth iddynt wneud
eu gwaith. Cytunodd y Bwrdd i dalu am un ddyfais diogelwch personol ychwanegol
ar gyfer swyddfa pob Aelod (yn ychwanegol at y dyfeisiau a ddarperir i'r
Aelodau eu hunain). 1.6 Nododd y Bwrdd y bydd y Cynulliad yn cynnal wythnos o fusnes yng ngogledd
ddwyrain Cymru ym mis Mehefin 2020. Cytunodd y Bwrdd, ar gyfer yr wythnos hon
yn unig, y gellid defnyddio'r nifer cyfyngedig o deithiau yn ôl a blaen gan
staff cymorth rhwng etholaeth /rhanbarth yr Aelod a'r lleoliad yng ngogledd
ddwyrain Cymru a amlinellwyd yn y Penderfyniad. 1.7 Trafododd y Bwrdd gais gan y Llywydd i ystyried diwygio cyfradd cyflog
Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i adlewyrchu cynnydd o ran ei
gyfrifoldebau. 1.8 Cytunodd y Bwrdd y dylid talu’r Cadeirydd ar y gyfradd cyflog lefel uwch i
gadeiryddion pwyllgorau. Cytunodd y Bwrdd y byddai'r gyfradd hon yn gymwys o 1
Mawrth 2020 tan ddiwedd y Pumed Cynulliad. 1.9 Nododd a chytunodd y Bwrdd ei Flaenraglen Waith am weddill ei gyfnod. Camau
gweithredu: -
Yr Ysgrifenyddiaeth i roi gwybod
i’r Llywydd am y penderfyniad i dalu rôl Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
ar y gyfradd gyflog lefel uwch ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn. -
Yr ysgrifenyddiaeth i anfon y
llythyr yn sgîl penderfyniad y Bwrdd cyn gynted â phosibl. |
|
Eitem ar gyfer penderfyniad: Adolygiad o’r llawlyfr staff cymorth ·
Papur
cwmpasu’r adolygiad – Papur 4, Atodiadau 1 - 6 Cofnodion: 2.1
Croesawodd y Bwrdd Joanna Adams i'r
cyfarfod. 2.2
Trafododd y Bwrdd gwmpas adolygiad
o'r llawlyfr i staff cymorth. 2.3
Cytunodd y Bwrdd, yn dilyn
trafodaeth ar yr adolygiad o'r llawlyfr, y byddai'n briodol adnewyddu'r
contract presennol i adlewyrchu'r newidiadau i’r llawlyfr. Byddai hyn yn
sicrhau eu bod yn gydnaws â’i gilydd a'u bod yn addas ar gyfer y Chweched
Senedd. 2.4
Nododd y Bwrdd y byddai Cymorth
Busnes i’r Aelodau yn trafod hyn ymhellach gyda'r Grwpiau Cynrychiolwyr dros yr
wythnosau nesaf. |
|
Eitem ar gyfer penderfyniad: Ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad a’r cynigion newid enw ·
Papur
trosolwg – Papur 5 ·
Ymatebion
i’r ymgynghoriad – Papur 5 – Atodiad A Cofnodion: 3.1
Trafododd
y Bwrdd yr ymatebion a gafodd i'r ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o'r
Penderfyniad ar gyfer 2020-21 a’r cynigion o ran y newid enw. 3.2
Penderfynodd
y Bwrdd gynyddu’r lwfans gwariant ar lety preswyl ar gyfer Aelodau ardal
allanol 1.7 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd hyn yn cynyddu'r
lwfans i £9,720 y flwyddyn (sef £810 fesul mis calendr). 3.3
Cytunodd
y Bwrdd i gynyddu'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol 3.86 y cant a fydd yn
golygu bod y lwfans yn £999,070 ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. 3.4
Cytunodd
y Bwrdd i gael gwared ar gyfyngiadau ar allu'r Aelodau i recriwtio ar gyfer
contractau cyfnod penodol drwy ddiwygio'r Polisi Recriwtio. Byddai recriwtio
o'r fath yn destun cyfyngiad o 18 mis yn lle'r cyfyngiad chwe mis presennol.
Cytunodd y Bwrdd y byddai'r penderfyniad yn dod i rym o'r flwyddyn ariannol
nesaf. 3.5
Cytunodd
y Bwrdd i ddiwygio'r Polisi Recriwtio i adlewyrchu'r penderfyniad hwn. Bydd y
Polisi Recriwtio yn parhau i nodi y bydd pob penodiad sy'n hwy na chwe mis yn
destun proses recriwtio agored a theg. 3.6
Cytunodd
y Bwrdd hefyd i ddiwygio'r adran ar Gymorth Dros Dro yn y Penderfyniad ar gyfer
y flwyddyn i ddod i adlewyrchu penderfyniad y Bwrdd. 3.7
Nododd
y Bwrdd y bydd newid enw'r Cynulliad i'r Senedd yn digwydd ar 6 Mai 2020.
Cynigiodd y Bwrdd ei bod yn rhesymol na ddylai Aelodau allu hawlio costau
diweddaru eitemau o ganlyniad i'r newid enw, fel arwyddion swyddfa, cyn
etholiad nesaf y Cynulliad. 3.8
Cytunodd
y Bwrdd i beidio â chaniatáu i Aelodau hawlio costau adnewyddu eitemau sy'n
gysylltiedig â newid enw cyn yr etholiad nesaf. Mae'r Bwrdd yn cadw at ei farn
flaenorol fod hwn yn ddull priodol oherwydd y trosiant posibl yn nifer yr
Aelodau mewn etholiad a hyd oes fer arwyddion newydd. 3.9
Cyhoeddir
fersiwn wedi'i diweddaru o'r Penderfyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf
maes o law. |
|
Eitem ar gyfer penderfyniad: Adolygiad o effeithiolrwydd y of the Bwrdd ·
Papur
cwmpasu’r adolygiad – Papur 6 Cofnodion: 4.1
Croesawodd
y Bwrdd Gareth Watts, y Pennaeth Llywodraethu, i'r cyfarfod. 4.2
Ystyriodd
y Bwrdd gynigion i gynnal adolygiad diwedd tymor o'i effeithiolrwydd, gan
gynnwys cwmpas yr adolygiad, y cylch gorchwyl drafft a'r themâu i edrych arnynt
ymhellach. 4.3
Cytunodd
y Bwrdd i gynnal adolygiad diwedd tymor a fydd yn ystyried effeithiolrwydd
perfformiad y Bwrdd dros ei gyfnod; sut mae wedi cyflawni ei swyddogaethau yn
unol â Mesur 2010, a sut mae wedi cyflawni ei waith yn ôl ei strategaeth. 4.4
Disgwylir
y bydd yr adolygiad wedi’i gwblhau erbyn mis Mai 2020 ac y bydd yn llywio
adroddiad etifeddiaeth y Bwrdd, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd ei
gyfnod. Cam gweithredu: -
Yr
ysgrifenyddiaeth i gynnal adolygiad o effeithiolrwydd gwaith y Bwrdd ac adrodd
yn ôl i'r Bwrdd yn ddiweddarach yn nhymor y gwanwyn. |
|
Eitem ar gyfer penderfyniad: Yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth ·
Papur
trosolwg – Papur 7 Cofnodion: 5.1
Bu'r Bwrdd yn ystyried ac yn trafod
opsiynau a chostau ar gyfer darparu yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth
yr Aelodau. 5.2
Cytunodd y Bwrdd i gynnal y trefniadau
yswiriant presennol. Cam gweithredu: -
Cytunodd
y Bwrdd i ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad yn nodi y bydd y trefniadau
yswiriant cyfredol yn cael eu cynnal ac y bydd cost yr yswiriant Atebolrwydd
Arferion Cyflogaeth yn cael ei thalu gan Gomisiwn y Cynulliad. |