Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Microsoft Teams
Cyswllt: Lleu Williams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd Cofnodion: 1.1 Croesawodd
y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd
datganiadau o fuddiant. 1.3 Yn amodol ar
destun ychwanegol i baragraff 4.1, cytunodd y Bwrdd ar gofnodion 2 Ebrill fel
rhai cywir. 1.4 Nododd y
Bwrdd y diweddariad am wariant mewn perthynas â Covid-19 a nifer yr Aelodau
sydd wedi cymryd y Lwfans Gweithio o Gartref. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at
yr Aelodau i'w hatgoffa o'r cymorth sydd ar gael a rhoi sicrwydd iddynt bod y
Bwrdd yn barod i’w cynorthwyo yn ystod y cyfnod heriol hwn. Cytunodd y Bwrdd i
ystyried diweddariad pellach mewn perthynas â Covid-19 yn y cyfarfod nesaf, gan
gynnwys gwaith paratoi rhag ofn y byddai'n rhaid delio ag ail don o’r feirws. 1.5 Roedd y
Bwrdd hefyd o'r farn y gallai fod cynnydd yn y dyfodol yn y costau sy'n
gysylltiedig â DSE ar gyfer gweithio o gartref mewn perthynas ag iechyd a
diogelwch gweithwyr. Nododd y Bwrdd y cyngor ar wefan yr Awdurdod Gweithredol
Iechyd a Diogelwch, yn arbennig mewn perthynas â gweithio unigol. Er bod y
Bwrdd yn cydnabod bod gwariant ar deithio gan Aelodau er enghraifft yn llai ac
felly y gallai dalu'r costau sy'n gysylltiedig â chymorth mewn perthynas â Covid-19,
byddai angen cadw llygad ar hyn. Nododd y Bwrdd fod y Comisiwn yn bwriadu
cynnal arolwg gyda’r Aelodau i weld a yw eu gofynion o ran offer TGCh yn cael
eu bodloni, a phwysleisiodd ei gyngor y dylai'r Aelodau gaffael offer a
gymeradwyir gan y Comisiwn er y gallai’r gost fod ychydig yn uwch. 1.6 Trafododd y
Bwrdd ddiweddariad ar ddatblygu Contractau a Llawlyfr Staff Cymorth. Cafodd y
Bwrdd sicrwydd o’r ffaith y cafwyd adborth cychwynnol cadarnhaol gan grwpiau’r
pleidiau a phenaethiaid staff. Cytunodd y Bwrdd i dynnu sylw'r Bwrdd sy’n ei
olynu at y mater hwn yn ei nodyn trosglwyddo. 1.7 Nododd y
Bwrdd ddiweddariad ar y defnydd o ddyfeisiau diogelwch personol a chytunodd i
drafod gwybodaeth bellach yn ei gyfarfod nesaf. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai
angen cynnwys y mater hwn yn y nodyn trosglwyddo i'r Bwrdd sy’n ei olynu. 1.8 Nododd y
Bwrdd ddiweddariad ynghylch apeliadau a gofynnodd am gael tynnu sylw’r Bwrdd at
unrhyw apeliadau ynghylch Covid-19 er gwybodaeth ar ôl iddynt gael eu cwblhau. 1.9 Nododd y Bwrdd
fod y taliadau goramser ar gyfer aelodau teulu wedi'u cyhoeddi am y tro cyntaf
a chytunodd y dylid eu hystyried adeg y cyhoeddiad nesaf, y flwyddyn nesaf. 1.10 Trafododd y
Bwrdd y trefniadau ar gyfer trosglwyddo i'r Bwrdd sy’n ei olynu ym mis Medi 2020,
a chytunwyd i drafod hyn ymhellach yn y cyfarfod nesaf. Camau
gweithredu: -
Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion cyfarfod
mis Ebrill, yn amodol ar y newid bach a nodir uchod. -
Paratoi papur i'r Bwrdd ei drafod yn y cyfarfod
nesaf mewn perthynas â'r cymorth a ddarperir mewn perthynas â Covid-19. |
|
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd Cofnodion: 2.1 Trafododd y Bwrdd destun terfynol y
Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd. 2.2 Yn amodol ar welliant i'r adroddiad i egluro'r
sefyllfa bresennol sy'n ymwneud â theithio gan Aelodau i Aelod-wladwriaethau'r
UE ar ôl i'r DU roi'r gorau i fod yn aelod o'r UE, cytunodd y Bwrdd ar yr
adroddiad ar yr Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd. 2.3 Trafododd y Bwrdd y trefniadau cyhoeddi ar
gyfer y Penderfyniad a chytunodd, oherwydd yr amgylchiadau presennol gyda
Covid-19, y byddai'n fwy priodol gohirio’r cyhoeddi o wythnos. 2.4 Roedd y Bwrdd yn dymuno rhoi diolch arbennig i
Huw Gapper am ei waith rhagorol yn cynorthwyo'r Bwrdd i gyhoeddi Penderfyniad y
mae’n falch ohono ac sy'n crisialu gwaith ac ethos y Bwrdd dros y pum mlynedd
diwethaf. Camau gweithredu: -
Yr ysgrifenyddiaeth i wneud yr holl drefniadau ar gyfer
cyhoeddi’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd a'r adroddiad cysylltiedig
ar 4 Mehefin 2020. |
|
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Etifeddiaeth y Bwrdd Cofnodion: 3.1 Trafododd y
Bwrdd ei etifeddiaeth i'r Bwrdd olynol. Cytunodd y Bwrdd fod y Penderfyniad ar
gyfer y Chweched Senedd yn crisialu ei waith dros y pum mlynedd diwethaf, ac
felly penderfynodd beidio â chyhoeddi adroddiad etifeddiaeth. 3.2 Nododd y
Bwrdd ddiweddariad llafar gan Gareth Watts, Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd,
ynghylch yr Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd yn ystod ei gyfnod gweithredol.
Cytunodd y Bwrdd i drafod yr adroddiad terfynol yn ei gyfarfod nesaf, gan
gynnwys a fyddai’n cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn yr haf. Camau
gweithredu: -
Yr ysgrifenyddiaeth i roi nodyn trosglwyddo drafft i'r
Bwrdd ar gyfer y Bwrdd nesaf, i gytuno arno yn y cyfarfod nesaf. -
Paratoi’r Adroddiad ar yr Adolygiad o
Effeithiolrwydd y Bwrdd, i'w drafod a chytuno arno yn y cyfarfod nesaf. |