Agenda a chofnodion drafft
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jardine
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Mair Parry-Jones
(Pennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi), Chris Warner (Pennaeth Pwyllgorau
Polisi a Deddfwriaeth) a Siân Wilkins (Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a
Phwyllgorau). Nid oedd buddiannau i’w
datgan. |
|
Nodyn cyfathrebu i'r staff - Elisabeth Jones Cofnodion: Cytunodd Elisabeth Jones
i ddrafftio nodyn ar drafodaethau’r Bwrdd Rheoli ar gyfer y dudalen newyddion. |
|
Sesiwn friffio ar ddiogelwch Cyflwyniad Cofnodion: Yn sgil digwyddiadau diogelwch rhyngwladol diweddar, estynnodd y Bwrdd
Rheoli groeso i gynrychiolwyr yr heddlu i drafod y lefel bresennol o fygythiad
yn y DU a sut y gellir lliniaru unrhyw risg bosibl. Roedd hyn yn cynnwys rhoi’r
wybodaeth angenrheidiol i staff er mwyn eu helpu i fod yn ddiogel pe bai
digwyddiad yn codi, gan mai blaenoriaeth y Comisiwn yw diogelwch yr Aelodau a’r
staff. Gwyliodd y Bwrdd fideo, ‘Stay Safe’ – canllaw yn llawn gwybodaeth
a gaiff ei gynhyrchu gan y Swydddfa Gartref, am yr hyn y dylid ei wneud mewn
ymosodiad â gynnau. Er bod trefniadau diogelwch y Comisiwn eisoes yn dda, byddai’r Bwrdd Rheoli
yn gweithredu ar gyngor arbenigol y tîm Diogelwch a’r Heddlu er mwyn parhau i
sicrhau diogelwch yr Aelodau a’r staff. Cytunwyd y bydd y tîm Diogelwch ac
aelodau o’r Bwrdd Rheoli yn llunio cynllun ar gyfer ymateb i ymosodiad â
gynnau. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Dymunodd y Bwrdd yn dda i Virginia Hawkins ar ei secondiad 12 mis yn
Nhŷ'r Arglwyddi wrth iddi ymgymryd â rôl Rheolwr Prosiect, yr Adolygiad
Tâl a Graddfeydd. Rhoddodd Claire Clancy
wybod i'r Bwrdd am ganlyniad Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin mewn perthynas â rôl
y Prif Weithredwr a'r Clerc, pwyllgor yr oedd hi a'r Llywydd wedi cyflwyno
tystiolaeth iddo. Rhoddodd drosolwg
hefyd o'i chyfarfod gyda Chlercod Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban.
Byddai'r Bwrdd Rheoli yn cwrdd nesaf ar eu diwrnod cwrdd i ffwrdd ar 8
Ionawr 2015. |