Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jardine
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant. |
|
Nodyn cyfathrebu i staff Cofnodion: Cytunodd Chris Warner i ddrafftio nodyn am drafodaeth y Bwrdd Rheoli ar
gyfer y dudalen newyddion staff. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf yn gywir. |
|
Cynllunio capasiti Cofnodion: Neilltuwyd y cyfarfod Bwrdd Rheoli
hwn i gynllunio'r gweithlu, fel rhan o'r cynllunio blynyddol ar gyfer capasiti
ac adnoddau. Diben hyn oedd trafod pa adnoddau ychwanegol neu adnoddau gwahanol
y mae eu hangen ar bob Cyfarwyddiaeth yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor
hir i gyflawni nodau strategol y sefydliad yn sgil heriau sylweddol y Pumed
Cynulliad. Nod y cyfarfod oedd pennu lle'r oedd
yn bosibl rhoi cyfeiriad clir o ran ariannu adnoddau a herio unrhyw beth sy'n peri
amheuaeth. Rhoddodd Nia Morgan drosolwg o'r
gyllideb ddrafft a bennwyd yn ddiweddar ar gyfer 2017-18, a oedd yn seiliedig
ar gynnydd yn sgil chwyddiant ynghyd ag un y cant. Disgwylir i adroddiad y
Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y gyllideb gael ei gyhoeddi ar 21 Tachwedd.
Amlinellodd Nia'r effaith ariannol o gynyddu niferoedd staff hefyd, ynghyd â'r
swm a glustnodwyd i brosiectau eisoes, gan flaenoriaethu fel y bo'n briodol. Diolchodd Claire Clancy i'r Bwrdd am
ei waith wrth baratoi a mynegi'r opsiynau a'r dadleuon, gan nodi'r ymdeimlad o
her a oedd eisoes i'w gael cyn y cyfarfod. Dechreuodd y Bwrdd Rheoli graffu ar gynlluniau meysydd gwasanaeth gyda'r
Gyfarwyddiaeth Busnes, ac amlinellodd Adrian Crompton yr heriau allweddol sy'n
effeithio ar yr adnoddau sydd eu hangen, sef: cynnydd yn nifer y pwyllgorau;
wythnos busnes estynedig; a blaenoriaethau'r Comisiwn a'r Llywydd newydd. Y ffactorau eraill sy'n effeithio ar
adnoddau yw'r pwyslais cynyddol ar ymgysylltu mewn pwyllgorau; rhaglen
FySenedd, a fyddai'n cael effaith ar sgiliau ac arferion gwaith ar draws y
sefydliad; a newidiadau cyfansoddiadol yn sgil Bil Cymru a Brexit. Er gwaethaf
ailstrwythuro staff a sgiliau, mae'r galw am adnoddau'n parhau, a'r
blaenoriaethau pennaf yw cefnogi ymgysylltiad digidol a strwythur newydd y
pwyllgorau. Yn dilyn hynny, amlinellodd Dave
Tosh y gofynion a nodwyd gan y Gyfarwyddiaeth Adnoddau, sef yr heriau ar gyfer
Diogelwch drwy gydol yr wythnos busnes estynedig ac amserlen y pwyllgor yn
benodol, a'r pwysau a ddaw yn sgil hynny ar yr adran Ystadau ar gyfer cynnwys
yr holl bwyllgorau. Byddai gofynion eraill yn unol â newidiadau strwythurol
gyda chynllun i aildrefnu gwasanaethau wrth i amser fynd yn ei flaen. Amlinellodd Craig Stephenson y
blaenoriaethau ar gyfer Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau'r Comisiwn, gyda'r
Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau'n canolbwyntio ar y paratoadau
ar gyfer y Prif Weithredwr newydd a darparu gwydnwch a safon uchel wrth
gyflwyno negeseuon allweddol gan y Llywydd. Bu'r adolygiad Digwyddiadau sydd ar
waith ar hyn o bryd yn hwb i effeithlonrwydd, a disgwylir i'w ganlyniad gael ei
ystyried gan y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau ym mis Tachwedd. Bu mwy o alw am
gyfieithu ar y pryd yn arbennig yn y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi yn sgil y
cynnydd hwn mewn oriau busnes. Yna, ystyriodd y Bwrdd Rheoli y
rhestr lawn o gynigion a ddaeth i law, a phenderfynu beth oedd y prif
flaenoriaethau, gan gytuno ar 20 o gynigion i'w cyflwyno i'r Bwrdd Buddsoddi ac
Adnoddau. Cytunwyd mewn egwyddor ar ddwy swydd arall yn yr adran TGCh, gyda
chais i ystyried ymhellach sut i ledaenu'r adnoddau ar draws y tîm. Byddai'r
swyddi na gafodd eu cymeradwyo'n cael eu hailystyried yn y cyfarfod nesaf er
mwyn eu harchwilio ymhellach ac ystyried amseriad a blaenoriaethu. Byddai'r
graddau y mae'r cynigion wedi rhoi ystyriaeth ddigonol i'r Cynllun Ieithoedd
Swyddogol yn cael eu hystyried bryd hynny hefyd. Byddai angen i'r Bwrdd Rheoli fod yn eglur ynghylch y gofynion dros y
misoedd nesaf er mwyn paratoi'n effeithiol ar gyfer cyllideb y flwyddyn
ganlynol. Camau i’w cymryd:
Cytunodd y Bwrdd Rheoli y byddai'r materion a godwyd yn y sesiwn
ymwybyddiaeth iechyd meddwl a gynhaliwyd gan Amser i Newid Cymru y diwrnod
hwnnw yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf (Camau i'w cymryd) |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Nid oedd unrhyw fater arall. Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 3
Tachwedd 2016. |