Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jardine 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Watts (Pennaeth Llywodraethu ac Archwilio) a Rhuanedd Richards (Cynghorwr Polisi y Llywydd)

 

 

2.

Nodyn cyfathrebu i staff - Sian Wilkins

Cofnodion:

Bydd Siân Wilkins yn drafftio nodyn am drafodaethau’r Bwrdd Rheoli ar gyfer tudalen newyddion y staff.

 

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Rheoli a gynhaliwyd ar 15 Awst yn gywir. 

 

 

4.

Diweddariad ynghylch Blaenoriaethau Corfforaethol

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Rhoddodd Manon Antoniazzi y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd Rheoli ynghylch deilliannau'r Comisiwn o'r diwrnod cwrdd i ffwrdd a gafwyd ar 12 Medi lle trafododd y Comisiynwyr, ymhlith pethau eraill, eu blaenoriaethau a dull strategaeth y gyllideb. Clywodd y Bwrdd fod y Comisiynwyr wedi cytuno i barhau â strategaeth y gyllideb a baratowyd yr adeg hon y llynedd, ar yr amod y gellir trafod ymhellach a chytuno'n derfynol ar bethau yng nghyfarfod y Comisiwn ar 25 Medi.

Wrth drafod strategaeth y gyllideb, roedd y Comisiynwyr am gael dealltwriaeth well o'r niferoedd staffio presennol. Mae'r Llywydd wedi gofyn i Manon gynnal adolygiad capasiti rhwng nawr a diwedd y flwyddyn er mwyn sicrhau y gall y Cynulliad ddal i gefnogi blaenoriaethau'r Comisiwn yn wyneb pwysau allanol cynyddol.

Byddai'r adolygiad hefyd o gymorth i'r Comisiynwyr ddeall sut y mae adnoddau wedi'u dyrannu o fewn y sefydliad ar hyn o bryd, a gwerthuso ai dyma'r defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o adnoddau i gyflawni amcanion y Comisiwn ar gyfer y Pumed Cynulliad a thu hwnt.

Dywedodd Manon mai tîm y Dadansoddwyr Busnes fyddai'n arwain yr adolygiad, â chymorth gan gydweithwyr yn y Gwasanaeth Adnoddau Dynol, Trawsnewid Strategol a'r Undebau Llafur. Byddai'r argymhellion a ddaw yn sgil yr adolygiad yn cael eu trafod yn eu tro yng nghyfarfod y Bwrdd Rheoli, lle caiff yr holl wasanaethau eu cynrychioli.

Byddai'r adolygiad yn un byr ag iddo ffocws, gan fwriadu i unrhyw argymhellion gael eu cyflwyno i'r Comisiwn erbyn diwedd y flwyddyn.

 

 

5.

Risgiau Corfforaethol

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Atgoffodd Dave Tosh y Bwrdd fod dechrau'r tymor newydd yn gyfle i ddiweddaru cofrestrau risg gorfforaethol ar draws y sefydliad.

Dylid parhau i roi gwybod ar lefel y Gwasanaeth am risgiau newydd a risgiau sy'n newid, a dylai Penaethiaid Gwasanaeth a Hyrwyddwyr Risg ystyried beth y dylid ei nodi ar gyfer y Gofrestr Risg Gorfforaethol, cyn adolygiad ffurfiol y Bwrdd Rheoli fis Hydref.

1.1        CAM I'W GYMRYD:

·  Gofynnodd y Bwrdd Rheoli i'r cofrestrau risg gorfforaethol gael eu hadolygu a'u diweddaru cyn eu trafod yn ffurfiol yng nghyfarfod y Bwrdd Rheoli ar 23 Hydref.

 

 

6.

Blaengynllun y Comisiwn a'r Bwrdd Rheoli

Papur i’w nodi:

 

Cofnodion:

Trafododd y Bwrdd flaenraglen waith y Bwrdd Rheoli a Chomisiwn y Cynulliad.

Gofynnodd Manon i'r Bwrdd nodi'r terfynau amser yn y papur a dywedwyd y dylid rhoi gwybod i'r ysgrifenyddiaeth mewn da bryd os oes unrhyw broblemau o ran bodloni'r terfynau amser hynny.

 

7.

Adroddiad ar Reoli Cyllid - Awst 2017

Papur i’w nodi

 

Cofnodion:

Trafododd y Bwrdd yr Adroddiad ar Reoli Cyllid ar gyfer mis Awst, a hynny cyn i'r adolygiad nesaf gael ei gynnal ddiwedd mis Medi. Mae'r sefyllfa ariannol ar gyfer eleni yn parhau i fod yn heriol, felly bydd angen bod yn ofalus wrth reoli arian er mwyn cadw o fewn y gyllideb. Gofynnwyd i'r Bwrdd adolygu'r ffigurau ar gyfer eu meysydd gwasanaeth i sicrhau eu bod yn fanwl gywir.

Nododd Nia Morgan y bydd gofyn i'r Bwrdd gynorthwyo gyda'r gwaith o gasglu'r wybodaeth ofynnol gan y bydd yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Atgoffwyd y Bwrdd y bydd Catharine Bray yn Bennaeth Cyllid dros dro tra bo Lisa Bowkett ar gyfnod mamolaeth ac y byddai Catharine yn cwrdd ag aelodau'r Bwrdd Rheoli yn unigol dros yr wythnosau sydd i ddod.

 

 

8.

Grid cynllunio'r cyfryngau

Papur i’w nodi

 

Cofnodion:

1.1     Cyflwynodd Non Gwilym y grid i'r Bwrdd, gan egluro y bwriedir iddo ddarparu rhagolwg o ymrwymiadau'r tîm Cyfathrebu, gan gynnwys cyfnodau penodol o bwysau, a hynny hyd at ddiwedd 2017. Nododd Non y byddai'r grid yn dibynnu ar ddiweddariadau rheolaidd gan feysydd gwasanaeth er mwyn iddo fod yn offeryn defnyddiol a chytunodd y Bwrdd i drafod ymhellach y ffordd fwyaf priodol i sicrhau y caiff y ddogfen ei rhannu'n fwy hwylus at ddibenion cynllunio.

1.2     Cydnabu'r Bwrdd i'r Cynulliad gael ei ddangos mewn goleuni da yn sgil digwyddiadau'r haf a dywedwyd y byddai'r grid yn helpu i sicrhau na châi cyfleoedd eu colli yn y dyfodol drwy ddarparu trosolwg o weithgareddau ar lefel strategol.

1.3     CAMAU I'W CYMRYD

·  Y wybodaeth ddiweddaraf am y grid cyfathrebu i gael ei hanfon at Non Gwilym

 

 

8.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Cafwyd cais gan Kathryn Hughes i ddiweddaru Cynlluniau Gwasanaethau Corfforaethol.