Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 4(v5) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.15

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Bil Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.34

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Tata Steel

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.26

(30 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.19

(5 munud)

6.

Cynnig i atal Rheol Sefydlog

NNDM6017 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 7.1 sy'n ei gwneud yn ofynnol i ystyried cynnig i benodi aelodau'r Comisiwn heb fod yn fwy na 10 diwrnod ar ôl penodi'r Pwyllgor Busnes, er mwyn caniatáu i NNDM6018 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 8 Mehefin 2016.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.52

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

7.

Cynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad

NNDM6018 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 7.1, yn penodi Joyce Watson (Llafur Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Caroline Jones (UKIP Cymru) yn aelodau o Gomisiwn y Cynulliad.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.56