Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 15(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Cwestiwn Brys 1

Dechreuodd yr eitem am 14.20

 

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith

 

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad Ford y bydd yn cynhyrchu llai o beiriannau yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr? EAQ(5)0037(EI)

 

Cwestiwn Brys 2

Dechreuodd yr eitem am 14.38

 

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Fyrddau Iechyd Prifysgolion Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a'r Fro a Hywel Da yn sgil eu codi i statws ymyrraeth wedi'i thargedu? EAQ(5)0036(HWS)

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.01

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: yr UE – trefniadau pontio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.25

(60 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.20

 

(30 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Digwyddiadau Chwaraeon Rhyngwladol o bwys

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.04

(60 munud)

6.

Dadl ar y Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau 2016-18

NDM6082 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau, fel y'u hamlinellir yn Camddefnyddio Sylweddau: Cynllun Cyflawni 2016-18.

Dogfen Ategol
Camddefnyddio Sylweddau: Cynllun Cyflawni 2016-18

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y problemau cynhenid o ran darparu gwasanaethau trin camddefnyddio sylweddau ledled Cymru, o gofio bod yr ystadegau diweddaraf gan Gronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yn dangos mai dim ond 13 y cant o unigolion a ystyriwyd yn rhydd o sylweddau erbyn diwedd y driniaeth o bob un a gafodd eu cyfeirio i asiantaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru.

'Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau'

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fyfyrio ar y data diweddaraf gan GIG Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau a chyflwyno cynigion a fydd yn sicrhau bod camddefnyddwyr sylweddau yn cael gafael ar driniaeth amserol ac effeithiol.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.48

 

NDM6082 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau, fel y'u hamlinellir yn Camddefnyddio Sylweddau: Cynllun Cyflawni 2016-18.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y problemau cynhenid o ran darparu gwasanaethau trin camddefnyddio sylweddau ledled Cymru, o gofio bod yr ystadegau diweddaraf gan Gronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yn dangos mai dim ond 13 y cant o unigolion a ystyriwyd yn rhydd o sylweddau erbyn diwedd y driniaeth o bob un a gafodd eu cyfeirio i asiantaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru.

 

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fyfyrio ar y data diweddaraf gan GIG Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau a chyflwyno cynigion a fydd yn sicrhau bod camddefnyddwyr sylweddau yn cael gafael ar driniaeth amserol ac effeithiol.

 

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

NDM6082 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:


1. Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau, fel y'u hamlinellir yn Camddefnyddio Sylweddau: Cynllun Cyflawni 2016-18.

2. Yn cydnabod y problemau cynhenid o ran darparu gwasanaethau trin camddefnyddio sylweddau ledled Cymru, o gofio bod yr ystadegau diweddaraf gan Gronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yn dangos mai dim ond 13 y cant o unigolion a ystyriwyd yn rhydd o sylweddau erbyn diwedd y driniaeth o bob un a gafodd eu cyfeirio i asiantaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fyfyrio ar y data diweddaraf gan GIG Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau a chyflwyno cynigion a fydd yn sicrhau bod camddefnyddwyr sylweddau yn cael gafael ar driniaeth amserol ac effeithiol.

 

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio.