Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 17(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Ni ofynnwyd cwestiwn 9. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.21

(60 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu: Symud Cymru Ymlaen

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.33

(45 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y Rhaglen Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon: hynt y rhaglen a'r wybodaeth ddiweddaraf

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.37

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i recriwtio a hyfforddi meddygon teulu ychwanegol ynghyd â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal sylfaenol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.05

(30 munud)

6.

Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth diweddaraf ar Teithio llesol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.52

(15 munud)

7.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog)

NDM6090 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) sy'n ymwneud â gwarchod eiddo diwylliannol mewn achos o wrthdaro arfog, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mehefin 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Bil Eiddio Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) [HL] 2016-17 — Senedd y DU (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.25

NDM6090 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) sy'n ymwneud â gwarchod eiddo diwylliannol mewn achos o wrthdaro arfog, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio.

Votes Summary 20.09.17

Dogfennau ategol: