Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 27(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: yr UE – Trefniadau Pontio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.16 |
|
Cwestiynau Brys Cwestiwn
Brys 1 Dechreuodd
yr eitem am 15.12 I’r
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Dir Benfro): A wnaiff y Gweinidog esbonio pam y cafodd y gweinyddwyr
eu galw i Main Port Engineering yn Sir Benfro, er gwaethaf i'r cwmni gael grant
o £650,000 gan Lywodraeth Cymru? Cwestiwn
Brys 2 Dechreuodd
yr eitem am 15.30 I’r
Ysgrifennydd y Cabinet dros lechyd, Llesiant a Chwaraeon: Paul Davies
(Preseli Sir Benfro):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau paediatrig yn Ysbyty
Llwyn Helyg? Cwestiwn
Brys 3 Dechreuodd
yr eitem am 15.40 I’r
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Simon Thomas
(Caolbarth a Gorllewin Cymru):
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i drydedd
rhedfa yn Heathrow? Cwestiwn
Brys 4 Dechreuodd
yr eitem am 15.51 I’r
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Lee Waters
(Llanelli):
Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i Lywodraeth y DU ynghylch
penderfyniad y Swyddfa Gartref i beidio â chynnal ymchwiliad i ddigwyddiadau yn
Orgreave? |
||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.02 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Yr Adolygiad Seneddol i Wasanaethau Iechyd a Gofal Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.33 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Canolfan Gofal Arbenigol a Chritigol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.00 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Y Targed o 20,000 o Dai Fforddiadwy Dogfennau
Ategol Darpariaeth
tai fforddiadwy yng Nghymru, 2015-16
(Saesneg yn unig) Nodyn
Cyngor Technegol 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy (2006) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.28 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Tasglu Gweinidogol ar y Cymoedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.58 |
|
(0 munud) |
GOHIRIWYD TAN 22 TACHWEDD: Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Canolbwyntio ar Allforion |
|
(0 munud) |
GOHIRIWYD TAN 15 TACHWEDD: Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Parodrwydd ar gyfer y Gaeaf |
|
(60 munud) |
Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2015-2016 NDM6127 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16,
"Tuag at Gymru Decach" Adroddiad
Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16, "Tuag at
Gymru Decach" Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Undebau Llafur a'r Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hyrwyddo hawliau mamau ifanc beichiog a mamau
newydd yn y gwaith yn well. Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi'r clinig hunaniaeth rhywedd i Gymru sydd i gael ei sefydlu yn sgil
trafodaethau Plaid Cymru mewn perthynas â chyllideb 2017-18. Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi'r saith brif her y mae angen mynd i'r afael â hwy yng Nghymru yn ystod y
pum mlynedd nesaf, fel y nodwyd gan y Comisiwn, ac y bydd angen ymdrechion
sylweddol ar ran sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, ac ar ran
unigolion i leihau'r heriau hyn. Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
croesawu cydnabyddiaeth y Comisiwn bod angen ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a
chymunedol a'i rymuso. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.31 NDM6127 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad Blynyddol
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16, "Tuag at Gymru
Decach" Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda'r Undebau Llafur a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
i hyrwyddo hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd yn y gwaith yn well. Derbyniwyd gwelliant 1 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 2.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r clinig
hunaniaeth rhywedd i Gymru sydd i gael ei sefydlu yn sgil trafodaethau Plaid
Cymru mewn perthynas â chyllideb 2017-18. Derbyniwyd gwelliant 2 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant
3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r saith brif her
y mae angen mynd i'r afael â hwy yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf, fel
y nodwyd gan y Comisiwn, ac y bydd angen ymdrechion sylweddol ar ran
sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, ac ar ran unigolion i
leihau'r heriau hyn. Derbyniwyd gwelliant 3 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant
4. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu
cydnabyddiaeth y Comisiwn bod angen ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a
chymunedol a'i rymuso. Derbyniwyd gwelliant 4 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. NDM6127 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.Yn nodi Adroddiad
Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16, "Tuag at
Gymru Decach" 2.Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda'r Undebau Llafur a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
i hyrwyddo hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd yn y gwaith yn well. 3. Yn nodi'r clinig hunaniaeth
rhywedd i Gymru sydd i gael ei sefydlu yn sgil trafodaethau Plaid Cymru mewn
perthynas â chyllideb 2017-18. 4. Yn nodi'r saith brif
her y mae angen mynd i'r afael â hwy yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf,
fel y nodwyd gan y Comisiwn, ac y bydd angen ymdrechion sylweddol ar ran
sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, ac ar ran unigolion i
leihau'r heriau hyn. 5. Yn croesawu
cydnabyddiaeth y Comisiwn bod angen ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a
chymunedol a'i rymuso. Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod pleidleisio. |