Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: (45)v5 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 3.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3 - 8. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 3.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.17

 

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.36

 

(60 munud)

4.

Datganiad gan y Prif Weinidog: “Sicrhau Dyfodol Cymru”: Pontio o’r Undeb Ewropeaidd at berthynas newydd ag Ewrop

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.28

 

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod a Chodi Safonau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.47

 

(0 muned)

6.

GOHIRIWYD TAN 7 CHWEFROR 2017: Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel

(0 munud)

7.

TYNNWYD YN ÔL: Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol am Gydraddoldeb 2015-16, gan gynnwys Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am Gydraddoldeb 2016

(60 munud)

8.

Dadl: Gweithio gyda Chymunedau i Greu Amgylcheddau Lleol Gwell

NDM6211 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod effaith gyfunol materion sy'n gysylltiedig ag ansawdd yr amgylchedd lleol ar lesiant cymunedau.

2. Yn cefnogi:

a) pwyslais cynyddol ar weithgareddau atal gyda rhagor o gydweithio ar draws sectorau; a

b) cynnwys dinasyddion yn y gwaith o ganfod a chyflawni atebion ar gyfer gwella'r mannau lle y maent yn byw.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder mai ychydig iawn o Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer sydd wedi cael eu dirymu.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.35

NDM6211 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod effaith gyfunol materion sy'n gysylltiedig ag ansawdd yr amgylchedd lleol ar lesiant cymunedau.

2. Yn cefnogi:

a) pwyslais cynyddol ar weithgareddau atal gyda rhagor o gydweithio ar draws sectorau; a

b) cynnwys dinasyddion yn y gwaith o ganfod a chyflawni atebion ar gyfer gwella'r mannau lle y maent yn byw.

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder mai ychydig iawn o Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer sydd wedi cael eu dirymu.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM6211 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod effaith gyfunol materion sy'n gysylltiedig ag ansawdd yr amgylchedd lleol ar lesiant cymunedau.

2. Yn cefnogi:

a) pwyslais cynyddol ar weithgareddau atal gyda rhagor o gydweithio ar draws sectorau; a

b) cynnwys dinasyddion yn y gwaith o ganfod a chyflawni atebion ar gyfer gwella'r mannau lle y maent yn byw.

3. Yn nodi â phryder mai ychydig iawn o Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer sydd wedi cael eu dirymu.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i diwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9.

Cyfnod pleidleisio