Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 107(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/12/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 7 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif
Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.19 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad Personol – Darren Millar Dechreuodd
yr eitem am 14.33 Gwnaeth
Darren Millar ddatganiad personol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Cynllun Gweithredu Economaidd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.39 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.29 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Cysylltu Cymru, agwedd strategol tuag at Drafnidiaeth Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.07 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 NDM6609 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau
Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol)
(Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd
2017. Dogfen
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.58 NDM6609
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig
(Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio
yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2016-2017 NDM6608 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb
a Hawliau Dynol Cymru 2016-2017 Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau
Dynol Cymru 2016-2017 Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith bod nod y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn cael ei
lesteirio gan y diffyg cynnydd o ran gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod,
Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais
Rhywiol (Cymru) 2015 Gwelliant
2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod nod y Comisiwn Cydraddoldeb
a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn golygu bod angen
gweithredu'r addweidion ehangach a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ystod hynt
Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Gwelliant
3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi â phryder y cynnydd mewn troseddau casineb yr adroddwyd
arnynt yng Nghymru. Gwelliant
4. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod ymdrechion y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael
eu hymgorffori yn y gwaith a gaiff ei wneud o dan Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2017 yn golygu y bydd angen "deialog
gwirioneddol rhwng cymunedau, unigolion a’u gwasanaethau cyhoeddus " yn
unol â'r hyn y galwodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol amdano yn ei
chynllun strategol drafft. Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol – Cynllun Strategol
Drafft 2017-23 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.16 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6608 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adolygiad
Blynyddol Pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2016-2017. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith
bod nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y
gymuned yn cael ei lesteirio gan y diffyg cynnydd o ran gweithredu Deddf Trais
yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod nod y
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn
golygu bod angen gweithredu'r addewidion ehangach a wnaeth Llywodraeth
Cymru yn ystod hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais
Rhywiol (Cymru) 2015. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi â phryder y
cynnydd mewn troseddau casineb yr adroddwyd arnynt yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod ymdrechion y
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau
dynol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith a gaiff ei wneud o dan Ddeddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2017 yn golygu y bydd angen
"deialog gwirioneddol rhwng cymunedau, unigolion a’u gwasanaethau
cyhoeddus" yn unol â'r hyn y galwodd Comisiynydd Cenedlaethau'r
Dyfodol amdano yn ei chynllun strategol drafft. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6608 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Adolygiad
Blynyddol Pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2016-2017. 2. Yn nodi bod
nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y
gymuned yn golygu bod angen gweithredu'r addewidion ehangach a wnaeth
Llywodraeth Cymru yn ystod hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig
a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. 3. Yn nodi â phryder y
cynnydd mewn troseddau casineb yr adroddwyd arnynt yng Nghymru.
4. Yn nodi bod
ymdrechion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod cydraddoldeb a
hawliau dynol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith a gaiff ei wneud o dan
Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2017 yn golygu y bydd angen
"deialog gwirioneddol rhwng cymunedau, unigolion a’u gwasanaethau
cyhoeddus" yn unol â'r hyn y galwodd Comisiynydd Cenedlaethau'r
Dyfodol amdano yn ei chynllun strategol drafft.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl: Cyfnod 4 y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) NDM6613 – Kirsty
Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil
Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Dogfen Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.15 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi
ar gynigion Cyfnod 4, felly gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod
pleidleisio. NDM6613
– Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil
Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.33 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |