Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 111(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad gan y Llywydd Croesawyd Mariam Jack Denton, Llefarydd Cynulliad
Cenedlaethol Gambia gan y Llywydd, wrth iddi arwain dirprwyaeth ar ymweliad â’r
Cynulliad Cenedlaethol. |
||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet
dros Gyllid: Adam Price (Dwyrain
Caerfyrddin a Dinefwr): Pa
gynlluniau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i ymateb i effeithiau diddymu
Carillion? (EAQ0002) |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.49 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.42 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.18 |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl: Cyllideb Derfynol 2018-19 NDM6614
Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19
a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 19 Rhagfyr
2017. Troednodyn: Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth
Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys y
wybodaeth ganlynol: 1. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran
125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; 2. yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer
cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; 3. cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc
Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig; 4. cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i
Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar
gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a 5. cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran
125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o
Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c). - Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y
Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb Flynyddol. Dogfen
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.58 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6614
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn
cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 19 Rhagfyr
2017. Troednodyn: Yn
unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog
20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: 1.
y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006; 2.
yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; 3.
cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig; 4.
cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr
Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa
yn y cynnig; a 5.
cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf
a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan
adran 125(1)(c). -
Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb
Flynyddol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018 NDM6622
Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Ardrethu
Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 04/01/2018. Dogfen
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.52 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6622
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd)
(Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 04/01/2018. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2018-19 NDM6623
Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran
84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid
Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2018-2019 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd
copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Rhagfyr 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.07 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6623
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth
Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2018-2019
(Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd
copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Rhagfyr 2017. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch a
gohiriwyd y cyfarfod gan ailgynnull am 17.51 ar gyfer y cyfnod pleidleisio. |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |