Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 137(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/05/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.16 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) NDM6722
Carwyn
Jones (Pen-y-bont ar Ogwr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU barhau i ystyried darpariaethau
Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu’n addasu’r cymhwysedd hwnnw. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Medi 2017 a gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill
2018 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU: European
Union (Withdrawal) Bill 2017-19 — UK Parliament (Saesneg yn unig) Dogfennau
ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.52 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6722 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU barhau i ystyried
darpariaethau Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i’r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu’n addasu’r
cymhwysedd hwnnw. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12
Medi 2017 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar
27 Ebrill 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.16 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Treth Tir Gwag Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.00 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Y Diweddariad ar Gysylltedd Digidol yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.45 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Rôl y System Gynllunio wrth Greu Lleoedd NDM6721
Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod datblygiadau a lleoedd o ansawdd a gynlluniwyd
yn dda yn hanfodol i sicrhau iechyd a llesiant hirdymor pobl Cymru. 2. Yn credu bod y system cynllunio gwlad a thref mewn lle
da i wneud penderfyniadau holistig ar yr amgylchedd adeiledig sy’n sicrhau bod
y nodau llesiant yn cael yr effaith orau bosibl. 3. Yn cydnabod bod cael polisïau cenedlaethol cadarn ar
gyfer creu lleoedd ym Mholisi Cynllunio Cymru a’r Fframwaith Datblygu
Cenedlaethol yn dangos i awdurdodau cynllunio ac eraill sut y mae arwain y
gwaith o greu lleoedd a sicrhau eu bod yn rhai da. 4. Yn cydnabod y rôl y mae gweithwyr proffesiynol ym maes
yr amgylchedd adeiledig yn ei chwarae yn y gwaith o greu lleoedd ac yn galw ar
awdurdodau lleol i sicrhau bod adrannau cynllunio yn cael yr adnoddau i’w
galluogi i fod yn effeithiol. Argraffiad
Drafft 10 o Bolisi Cynllunio Cymru Argraffiad
9 Cyfredol o Bolisi Cynllunio Cymru Ymgynghoriad
ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn credu bod angen addasu'r system gynllunio gwlad a
thref i wneud penderfyniadau mwy holistig ar yr amgylchedd adeiledig sy'n
gwneud y gorau o nodau llesiant ac yn cynyddu'r cyflenwad o dir ar gyfer tai. Gwelliant
2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod yr angen am fframwaith genedlaethol gadarn ar
greu lleoedd i roi canllawiau i awdurdodau cynllunio ac eraill i greu lleoedd a
sicrhau eu bod yn rhai da. Gwelliant
3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio nodyn cyngor
technegol 20 ar fyrder er mwyn ei gwneud yn glir bod angen cynnal asesiadau o
effaith ceisiadau unigol ar y Gymraeg mewn amgylchiadau penodol. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y Fframwaith
Datblygu Cenedlaethol yn cynnwys datganiad clir ynghylch pwysigrwydd a
pherthnasedd y Gymraeg wrth gynllunio sut i ddefnyddio tir. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu arolygiaeth gynllunio
ar wahân i Gymru, er mwyn i’r arolygiaeth feithrin arbenigedd mewn system
gynllunio Cymru’n unig. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.35 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6721
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod bod datblygiadau a lleoedd o ansawdd a gynlluniwyd yn dda yn
hanfodol i sicrhau iechyd a llesiant hirdymor pobl Cymru. 2.
Yn credu bod y system cynllunio gwlad a thref mewn lle da i wneud penderfyniadau
holistig ar yr amgylchedd adeiledig sy’n sicrhau bod y nodau llesiant yn cael
yr effaith orau bosibl. 3.
Yn cydnabod bod cael polisïau cenedlaethol cadarn ar gyfer creu lleoedd ym
Mholisi Cynllunio Cymru a’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn dangos i awdurdodau
cynllunio ac eraill sut y mae arwain y gwaith o greu lleoedd a sicrhau eu bod
yn rhai da. 4.
Yn cydnabod y rôl y mae gweithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig
yn ei chwarae yn y gwaith o greu lleoedd ac yn galw ar awdurdodau lleol i
sicrhau bod adrannau cynllunio yn cael yr adnoddau i’w galluogi i fod yn
effeithiol. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
credu bod angen addasu'r system gynllunio gwlad a thref i wneud penderfyniadau
mwy holistig ar yr amgylchedd adeiledig sy'n gwneud y gorau o nodau llesiant ac
yn cynyddu'r cyflenwad o dir ar gyfer tai. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn
cydnabod yr angen am fframwaith genedlaethol gadarn ar greu lleoedd i roi
canllawiau i awdurdodau cynllunio ac eraill i greu lleoedd a sicrhau eu bod yn
rhai da. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio nodyn cyngor technegol 20 ar fyrder er mwyn
ei gwneud yn glir bod angen cynnal asesiadau o effaith ceisiadau unigol ar y
Gymraeg mewn amgylchiadau penodol. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn
cynnwys datganiad clir ynghylch pwysigrwydd a pherthnasedd y Gymraeg wrth
gynllunio sut i ddefnyddio tir. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i greu arolygiaeth gynllunio ar wahân i Gymru, er mwyn
i’r arolygiaeth feithrin arbenigedd mewn system gynllunio Cymru’n unig. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6721
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod bod datblygiadau a lleoedd o ansawdd a gynlluniwyd yn dda yn
hanfodol i sicrhau iechyd a llesiant hirdymor pobl Cymru. 2.
Yn credu bod angen addasu'r system gynllunio gwlad a thref i wneud
penderfyniadau mwy holistig ar yr amgylchedd adeiledig sy'n gwneud y gorau o
nodau llesiant ac yn cynyddu'r cyflenwad o dir ar gyfer tai. 3.
Yn cydnabod yr angen am fframwaith genedlaethol gadarn ar greu lleoedd i roi
canllawiau i awdurdodau cynllunio ac eraill i greu lleoedd a sicrhau eu bod yn
rhai da. 4.
Yn cydnabod y rôl y mae gweithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig
yn ei chwarae yn y gwaith o greu lleoedd ac yn galw ar awdurdodau lleol i
sicrhau bod adrannau cynllunio yn cael yr adnoddau i’w galluogi i fod yn
effeithiol.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.29 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |