Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 161(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.15

 

(0 muned)

3.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gweithredu'r Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i'r Ysbyty - TYNNWYD YN ÔL - I'w gyflwyno fel datganiad ysgrifenedig

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem yn ôl a chafodd ei chyflwyno fel datganiad ysgrifenedig

 

(45 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Mamolaeth Cwm Taf

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.27

 

(15 munud)

5.

Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018

NDM6824 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Gorffennaf 2018.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.12

NDM6824 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Gorffennaf 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

6.

Dadl: Adroddiad Blynyddol Ffyniant i Bawb a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol

NDM6827 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

1.  Yn nodi’r diweddariad ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol Ffyniant i Bawb.

2. Yn nodi’r Rhaglen Ddeddfwriaethol.

Dogfennau Ategol

Ffyniant i Bawb: Adroddiad Blynyddol 2018
Y Datganiad Deddfwriaethol 17 Gorffennaf 2018

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith nad yw adroddiad blynyddol Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru a'i rhaglen ddeddfwriaethol yn ymdrin â rhai o'r problemau hirsefydlog sy'n wynebu pobl Cymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.19

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6827 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

1.  Yn nodi’r diweddariad ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol Ffyniant i Bawb.

2. Yn nodi’r Rhaglen Ddeddfwriaethol.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith nad yw adroddiad blynyddol Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru a'i rhaglen ddeddfwriaethol yn ymdrin â rhai o'r problemau hirsefydlog sy'n wynebu pobl Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

28

45

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM6827 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

1.  Yn nodi’r diweddariad ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol Ffyniant i Bawb.

2. Yn nodi’r Rhaglen Ddeddfwriaethol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

6

5

45

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

7.

Dadl: Adroddiad Canolfan Lywodraethiant Cymru - Carcharu yng Nghymru - Ffeil Ffeithiau

NDM6826 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales - a Factfile', a gyhoeddwyd ar 5 Mehefin 2018.

Dogfennau Ategol

Adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru Imprisonment in Wales - a Factfile (Saesneg yn unig)

Adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru Imprisonment in Wales - a breakdown by local authority (Supporting Annex) (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi agenda Llywodraeth y DU ar ddiwygio carchardai.

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen am ateb DU gyfan i'r materion a nodwyd yn adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales:A Factfile'.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.03

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6826 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales - a Factfile', a gyhoeddwyd ar 5 Mehefin 2018.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi agenda Llywodraeth y DU ar ddiwygio carchardai.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

7

45

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen am ateb DU gyfan i'r materion a nodwyd yn adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales: A Factfile'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

33

45

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6826 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales - a Factfile', a gyhoeddwyd ar 5 Mehefin 2018.

Yn nodi agenda Llywodraeth y DU ar ddiwygio carchardai.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

6

45

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.42

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: