Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 201(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/04/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.20

Gofynnwyd y 5 cwestiwn

(30 munud)

3.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.38

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Brexit

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.05

(45 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Diogelwch Adeiladau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.51

(45 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Ymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.20

(15 munud)

7.

Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Darpariaethau Atodol) 2019

NDM7025 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Darpariaethau Atodol) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2019.  

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Ymateb y Llywodraeth

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.07

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

8.

Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019

NDM7026 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2019. 

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Ymateb y Llywodraeth

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.13

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7026 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2019.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

11

0

47

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

9.

Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

NDM7023 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru).

Gosodwyd y Bil Deddfwriaeth (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2018.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 26 Mawrth 2019.

Dogfen Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.26

NDM7023 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru).

Gosodwyd y Bil Deddfwriaeth (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2018.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 26 Mawrth 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

10.

Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Deddfwriaeth (Cymru)

NDM7024 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Deddfwriaeth (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.03

NDM7024 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Deddfwriaeth (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.04

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: